Gwnewch Gais Nawr
Rhif y Swydd
SU01337
Math o Gytundeb
Contract cyfyngedig
Cyflog
£39,355 i £39,355 y flwyddyn
Patrwm Gweithio
Rhan Amser
Cyfadran/Cyfarwyddiaeth
Bywyd Myfyriwr
Lleoliad
Campws Singleton, Abertawe
Dyddiad Cau
16 Rhag 2025
Dyddiad Cyfweliad
6 Ion 2026
Ymholiadau Anffurfiol

Y Brifysgol

Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.

Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.

Y rôl

Dyma gyfle cyffrous i weithiwr proffesiynol hyblyg sy'n canolbwyntio ar fyfyrwyr i weithio fel rhan o dîm Sgiliau Astudio Arbenigol y Gwasanaethau Cymorth Cynhwysol i Fyfyrwyr. 

Disgwylir i ddeiliad y swydd ddarparu gwasanaeth tiwtora arbenigol un i un i fyfyrwyr sydd ag Anawsterau Dysgu Penodol, cyflyrau ar y sbectrwm awtistig, ADHD, cyflyrau iechyd meddwl, cyflyrau meddygol ac anghenion cymorth eraill, fel rhan o'r tîm cymorth anfeddygol. Mae cymorth un i un arbenigol yn canolbwyntio ar helpu myfyrwyr i ddatblygu sgiliau a strategaethau astudio i weithio'n effeithiol mewn cyd-destun addysg uwch gan ystyried eu cyflyrau. Dylai'r cymorth hwn gael ei deilwra i ddiwallu anghenion unigol myfyriwr a dylai gweithwyr cymorth sy'n ymgymryd â’r rôl hon osod nodau ac amserlenni clir ar gyfer cyflawni’r nodau hyn.

Mae'r rôl yn gofyn am weithiwr proffesiynol â chymwysterau addas sy'n annibynnol ac yn frwdfrydig ac sy'n gallu darparu cymorth effeithiol ac integredig i fyfyrwyr.

Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant

Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.

Sgiliau Cymraeg

Lefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw Lefel 1 - Ychydig. Bydd deiliad y swydd yn gallu ynganu geiriau Cymraeg, ateb y ffôn yn Gymraeg, a defnyddio geiriau ac ymadroddion sylfaenol bob dydd (diolch, os gwelwch yn dda). Gellir cyrraedd lefel 1 o gwblhau cwrs hyfforddi un awr.

Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.

Gwybodaeth Ychwanegol

Gallwch gyflwyno CV a llythyr eglurhaol ar gyfer y swydd hon.

Rhaid darparu tystysgrif foddhaol gan y GDG cyn y gellir cadarnhau dyddiad dechrau.

Lawrlwytho Disgrifiad Swydd Lawrlwytho Llynfryn Argraffu'r dudalen hon Yn ôl at y rhestr