Gwnewch Gais Nawr
Rhif y Swydd
SU01737
Math o Gytundeb
Cyfnod Penodol
Cyflog
£39,906 i £46,049 y flwyddyn
Patrwm Gweithio
Llawn Amser
Cyfadran/Cyfarwyddiaeth
Cyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg
Lleoliad
Campws Singleton, Abertawe
Dyddiad Cau
8 Tach 2026
Dyddiad Cyfweliad
13 Tach 2026
Ymholiadau Anffurfiol
Gianmassimo Tasinato g.tasinato@swansea.ac.uk

Y Brifysgol

Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.

Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.

Y rôl

Mae’r Grŵp Damcaniaeth Ffiseg Gronynnau a Chosmoleg ym Mhrifysgol Abertawe yn gwahodd ceisiadau ar gyfer swydd fyrdymor fel Cymrawd Ymchwil Ôl-ddoethurol, sy'n gweithio ar y rhyngwyneb rhwng cosmoleg ddamcaniaethol, damcaniaeth disgyrchiant, a damcaniaeth maes cwantwm, gyda phwyslais ar archwilio agweddau sylfaenol ar ddisgyrchiant a'u goblygiadau i gosmoleg.

Rydym yn chwilio am ymchwilydd brwdfrydig sydd â lefel uchel o gymhelliant, cefndir damcaniaethol cryf yn un neu fwy o'r meysydd hyn, a diddordeb mewn ymchwilio i'r cysylltiadau rhyngddynt a'u cymwysiadau posibl ym maes ffiseg tonnau disgyrchol. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cynnal ymchwil i gwestiynau sylfaenol mewn cosmoleg a ffiseg disgyrchiant, gan weithio mewn cydweithrediad agos ag Azadeh Maleknejad, Gianmassimo Tasinato, ac Ivonne Zavala.

Mae ein grŵp yn cymryd rhan weithredol mewn nifer o gydweithrediadau rhyngwladol mawr, gan gynnwys LISA, NANOGrav, Euclid, SKA a'r Einstein Telescope. Er bod y swydd yn un sydd, yn y bôn, o natur ddamcaniaethol, bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus y cyfle – os yw’n dymuno – i gymryd rhan yng ngweithgareddau gwyddonol y cydweithrediadau hyn, ac i archwilio cysylltiadau rhwng damcaniaeth sylfaenol a phosibiliadau o ran arsylwi.

Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant

Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.

Sgiliau Cymraeg

Lefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw Lefel 1 - Ychydig. Bydd deiliad y swydd yn gallu ynganu geiriau Cymraeg, ateb y ffôn yn Gymraeg, a defnyddio geiriau ac ymadroddion sylfaenol bob dydd (diolch, os gwelwch yn dda). Gellir cyrraedd lefel 1 o gwblhau cwrs hyfforddi un awr.

Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.

Gwybodaeth Ychwanegol

Gallwch gyflwyno CV a llythyr eglurhaol ar gyfer y swydd hon.

Lawrlwytho Job description.docx Argraffu'r dudalen hon Yn ôl at y rhestr