Ein Gwerthoedd Gwasanaethau Proffesiynol
Mae’r gwerthoedd dan sylw wedi’u datblygu gan gymuned Gwasanaethau Proffesiynol Prifysgol Abertawe, sydd wedi cytuno:
Bod holl adrannau Gwasanaethau Proffesiynol Prifysgol Abertawe yn gweithredu gan ddilyn Gwerthoedd Craidd pendant, a disgwylir i bawb allu dangos ymrwymiad at y gwerthoedd hyn o’r diwrnod y gyflwynwyd y cais i’r ddarpariaeth o ddydd i ddydd yn eu rolau.
Ein Gwerthoedd yw:
Rydym yn Broffesiynol
Rydym yn ymfalchïo mewn defnyddio ein gwybodaeth, ein sgiliau, ein gallu creadigol, ein huniondeb a’n gallu i farnu i gyflwyno gwasanaethau a datrysiadau arloesol, effeithiol, ac effeithlon, sydd o ansawdd rhagorol.
Rydym yn Cydweithio
Rydym yn ymfalchïo ein bod yn gweithio mewn amgylchedd rhagweithiol, cydweithredol, a seiliwyd ar gydraddoldeb, ymddiriedaeth, parch, cydweithio a her i gyflwyno gwasanaethau sy’n ymdrechu i ragori ar anghenion a disgwyliadau cwsmeriaid.
Rydym yn Gofalu
Rydym yn derbyn cyfrifoldeb am wrando, deall ac ymateb yn hyblyg i’n myfyrwyr, ein cydweithwyr, ein partneriaid allanol a’r cyhoedd, fel bod pob cyswllt a gânt gyda ni yn brofiad cadarnhaol, wedi’i bersonoli.