Datganiad am Hygyrchedd
Mae'r datganiad hwn am hygyrchedd yn berthnasol i https://intranet.swan.ac.uk/studentprofile/
Hoffem i gynifer o bobl â phosib allu defnyddio'r System Proffil Myfyriwr a Chofrestru Ar-lein, teimlo bod croeso iddynt a chael budd o’r profiad.
Er enghraifft, mae hynny'n golygu yn ystod y broses gofrestru, dylech chi allu gwneud y canlynol:
- Chwyddo i mewn hyd at 200% heb i destun lifo oddi ar y sgrîn.
- Neidio i brif gynnwys y wefan yn ôl yr angen.
- Addasu'r bylchiadau yn y testun heb effeithio ar y drefn na'r defnyddioldeb.
- Llywio'r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig.
- Defnyddio darllenydd sgrîn i gwblhau'r broses gofrestru.
Mae AbilityNet yn cynnig cyngor ar wneud eich dyfais yn haws ei defnyddio os oes gennych chi anabledd.
Pa mor hygyrch yw https://intranet.swan.ac.uk/studentprofile/?
Mae'r System Proffil Myfyriwr a Chofrestru Ar-lein wedi cael ei gwerthuso gan ein harbenigwr mewnol ac ardystiwyd ei bod yn cydymffurfio'n rhannol â safon AA fersiwn 2.1 Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We.
Rydym yn gwybod nad yw rhai rhannau o https://intranet.swan.ac.uk/studentprofile/ megis y proffil myfyriwr a thudalen lanio'r broses gofrestru mor hygyrch ag y dylent fod ac mae problemau'r adrannau hyn yn cynnwys y canlynol:
- Nid oes penawdau ar dudalennau'r proffil myfyriwr.
- Nid oes arwyddnodau ar y proffil myfyriwr na'r dudalen lanio.
- Mae tudalennau'r proffil myfyriwr a thudalen lanio'r broses gofrestru yn defnyddio tablau ar gyfer trefn.
- Nid oes cyfleuster ar y proffil myfyriwr na thudalen lanio'r broses gofrestru i neidio i'r prif gynnwys.
- Nid yw’r proffil myfyriwr na thudalen lanio'r broses gofrestru'n ymatebol, felly ni fyddant yn ymaddasu i sgrîn dyfais symudol.
Adborth a gwybodaeth gyswllt
Os oes angen gwybodaeth arnoch am y wefan hon mewn fformat gwahanol megis PDF hygyrch, print bras, fersiwn hawdd ei deall, recordiad sain neu braille, gallwch gysylltu â'n Canolfan Drawsgrifio:
E-bost: braille@abertawe.ac.uk
Twitter: @SUTranscription
Canolfan Drawsgrifio Prifysgol Abertawe, Adeilad Amy Dillwyn, Prifysgol Abertawe, Parc Singleton, Abertawe SA2 8PP
Sut i ddod o hyd i’r Ganolfan Drawsgrifio: Canolfan Drawsgrifio Prifysgol Abertawe - Prifysgol Abertawe
Byddwn yn ystyried eich cais ac yn ymateb i chi ymhen saith niwrnod.
Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd https://intranet.swan.ac.uk/studentprofile/
Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd https://intranet.swan.ac.uk/studentprofile/. Os ydych yn cael unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n meddwl nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd:
E-bost: ITservicedesk@swansea.ac.uk neu Ffoniwch ni +44 01792 60(4000)
Gweithdrefn orfodi
Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y ‘rheoliadau hygyrchedd'). Os nad ydych yn fodlon ar ein hymateb i’ch cwyn, cysylltwch â’r Gwasanaeth Ymgynghorol a Chymorth Cydraddoldeb (EASS)
Cysylltwch â ni drwy ffonio neu ymweld â ni
Nod y brifysgol yw darparu gwasanaethau gwybodaeth a chyfarwyddyd proffesiynol ar gyfer myfyrwyr anabl, myfyrwyr ag anghenion penodol a/neu gyflyrau meddygol. Gallwn roi cymorth i chi os hoffech ymweld â ni neu ein ffonio.
Cysylltwch â’r Gwasanaeth Anabledd:
Ffôn: +44 (0)1792 60 6617
E-bost: wellbeingdisability@abertawe.ac.uk
Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon
Mae Prifysgol Abertawe’n ymrwymedig i wneud ei holl wefannau'n hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018.
Statws cydymffurfiaeth
Mae https://intranet.swan.ac.uk/studentprofile/ yn cydymffurfio’n rhannol â safon AA fersiwn 2.1 Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We (WCAG) o ganlyniad i'r achosion diffyg cydymffurfiaeth a restrir isod.
Cynnwys anhygyrch
Mae Prifysgol Abertawe'n ymrwymedig i ddarparu'r hygyrchedd ar lefel AA sy'n ofynnol. Gwnaed gwaith sylweddol dros y 12 mis diwethaf i sicrhau bod y broses gofrestru'n hygyrch a'i bod yn cydymffurfio ar lefel AA, ond mae angen i ni wneud rhagor o waith, yn enwedig ar hen rannau'r proffil myfyriwr a thudalen lanio'r broses gofrestru.
Mae'r wybodaeth ganlynol yn esbonio unrhyw rannau o'r wefan nad ydynt yn cydymffurfio, hyd y gwyddom, a'r hyn rydym yn ei wneud i sicrhau y byddant yn cydymffurfio.
Mae’r cynnwys a restrir isod yn anhygyrch oherwydd y rhesymau canlynol.
Heb gydymffurfio â’r rheoliadau hygyrchedd
Maen prawf llwyddiant 2.1 WCAG: 1.1.1 Cynnwys nad yw'n destun
Llun addurnol wedi'i labelu â thagiau testun amgen (y dudalen lanio a'r proffil myfyriwr).
Baneri yn y cefndir wedi'u labelu â thag testun amgen anghywir ar gyfer “Prifysgol Abertawe”.
Tagiau testun amgen ar goll o luniau dogfen adnabod
Disgrifiadau a thagiau testun amgen ar goll o luniau sy'n dangos sut dylid lanlwytho dogfennau adnabod.
Maen prawf llwyddiant 2.1 WCAG: 1.3.1 Gwybodaeth a Pherthnasoedd
Dim arwyddnodau (y dudalen lanio a'r proffil myfyriwr)
Nid yw'r dudalen yn defnyddio arwyddnodau (baneri, gwe-lywio, prif gynnwys a gwybodaeth am gynnwys)
Tablau wedi'u defnyddio ar gyfer y drefn (y dudalen lanio a'r proffil myfyriwr)
Mae tudalennau hŷn y fewnrwyd yn defnyddio tablau at ddibenion cyflwyno a threfn.
Penawdau ar lefel debyg i'w gilydd (y dudalen lanio)
Nid oes gwahaniaeth gweladwy rhwng lefelau pennawd 1 a phennawd 2.
Maen prawf llwyddiant 2.1 WCAG: 1.3.4 Gogwydd
Nid yw tudalennau'n ymatebol i byrth gweld (viewport) na theclynnau cyfeirio (y dudalen lanio a’r proffil myfyriwr)
Dim ond ar gyfrifiadur bwrdd gwaith y gellir defnyddio tudalennau hŷn y fewnrwyd ac nid yw'n cefnogi pyrth gweld dyfeisiau symudol.
Maen prawf llwyddiant 2.1 WCAG: 1.4.1 Defnyddio Lliw
Mae rhai dolenni'n weladwy yn ôl lliw yn unig (y proffil myfyriwr)
Nid yw rhai dolenni'n cael eu tanlinellu nac yn defnyddio dull arall o ddangos hygyrchedd y ddolen a byddai'n effeithio ar ddefnyddwyr lliwddall.
Maen prawf llwyddiant 2.1 WCAG: 1.4.13 Cynnwys ar Hofran neu Ffocws
Mae cyngor ar gael drwy hofran yn unig (y proffil myfyriwr)
Mae cyngor ar help a chymorth gydag e-byst ar gael drwy hofran yn unig.
Maen prawf llwyddiant 2.1 WCAG: 2.4.1 Dolenni Neidio
Dim Cyfleuster i Neidio i'r Prif Gynnwys (y dudalen lanio a'r proffil myfyriwr)
Nid oes gan dudalennau hŷn y fewnrwyd gyfleuster i neidio i'r prif gynnwys.
Maen prawf llwyddiant 2.1 WCAG: 2.4.2 Teitlau Tudalennau
Teitlau Tudalennau (y dudalen lanio a'r proffil myfyriwr)
Mae tudalennau niferus ar yr hen fewnrwyd wedi'u henwi'n Broffil Myfyriwr, yn hytrach na mewn modd unigryw.
Maen prawf llwyddiant 2.1 WCAG: 2.4.3 Trefn Ffocws
Caiff dolenni bar ochr eu cyflwyno'n gyntaf yn nhrefn tabiau (y dudalen lanio a'r proffil myfyriwr).
Mae tudalennau hŷn y fewnrwyd yn gorfodi trefn ffocws tabiau nad yw'n adlewyrchu defnydd o'r tudalennau.
Maen prawf llwyddiant 2.1 WCAG: 2.4.4 Diben Dolenni (mewn cyd-destun)
Mae'r cyngor ynghylch lluniau myfyrwyr yn defnyddio'r ddolen “Yma” (y proffil myfyriwr)
Defnyddir dolen wedi'i labeli'n “yma” am gyngor ar lanlwytho'r math cywir o lun.
Defnyddir dolen â gwybodaeth gyffredinol ar gyfer pob modiwl (Dewis Modiwlau).
Mae gan bob modiwl ddolen o'r enw “Gwybodaeth am y Modiwl”. Heb gyd-destun tabl gweladwy, ni fyddai defnyddiwr darllenydd sgrîn yn gwybod i ble roedd y ddolen yn mynd â hwy.
Maen prawf llwyddiant 2.1 WCAG: 2.4.6 Penawdau a Labeli
Dim Penawdau (y proffil myfyriwr)
Dim penawdau ar dudalen y proffil myfyriwr y byddai technolegau cynorthwyol yn eu defnyddio.
Dim labeli ffurflen ar y teclyn lanlwytho (y proffil myfyriwr)
Nid oes unrhyw label disgrifiadol ar y teclyn lanlwytho lluniau i amgyffred ei ddiben. Mae'r teclyn lanlwytho'n dibynnu ar gyd-destun gweledol i ddangos ei ddiben a sut i'w ddefnyddio.
Mae gan y cyfleuster Dewis Modiwlau ddwy ddogfen adnabod H1
Defnyddiwyd y tag H1 ddwywaith ar y dudalen Dogfennau Adnabod.
Maen prawf llwyddiant 2.1 WCAG: 2.4.7 Cylch Ffocysu
Nid oes unrhyw gylch ffocysu ar ddolenni'r bar ochr (y dudalen lanio a'r proffil myfyriwr)
Nid oes gan ddefnyddwyr bysellfwrdd gylch ffocysu gweladwy wrth lywio tabiau dolenni'r bar ochr ar dudalennau hŷn y fewnrwyd. Mae botymau a dolenni'n derbyn cylch ffocysu yn rhan prif gynnwys y dudalen.
Maen prawf llwyddiant 2.1 WCAG: 2.5.3 Label yn yr Enw
Nid oes label ar gael ar gyfrif dyfais symudol (tudalennau'r broses gofrestru)
Mae botwm y cyfrif yn lleihau i eicon ac mae'r label wedi'i guddio o'r golwg, sydd hefyd yn ei guddio o dechnoleg gynorthwyol.
Maen prawf llwyddiant 2.1 WCAG: 3.1.1 Iaith Tudalen
Nid ychwanegwyd priodoledd iaith (y dudalen lanio a'r proffil myfyriwr)
Nid oes priodoledd iaith ar dudalennau hŷn y fewnrwyd i gefnogi'r defnydd o ddarllenydd sgrîn.
Maen prawf llwyddiant 2.1 WCAG: 3.3.1 Nodi Gwallau
Neges sy'n Rhoi Cyngor ar Lanlwytho (y Proffil Myfyriwr)
Dim ond pan fydd ffeil wedi cael ei hychwanegu y mae'r teclyn lanlwytho lluniau myfyrwyr yn dangos cyngor ar y dudalen. Ni chyhoeddir y neges hon i dechnoleg gynorthwyol a rhaid iddi gael ei ffocysu i’w darllen yn uchel.
Maen prawf llwyddiant 2.1 WCAG: 4.1.1 Dosrannu
Gwallau HTML a JavaScript (y dudalen lanio)
Mae tag ar y dudalen sy'n dweud bod llinell ar ei phen ei hun a phriodoleddau JavaScript wedi'u camddefnyddio ar gyfer y math o ddogfen.
Defnyddiwyd manylion adnabod dyblyg ar fewnbynnau radio (Ffïoedd Dysgu a Dewis Modiwlau)
Mae gan fewnbynnau radio ar yr adrannau Dewis Modiwlau a Ffïoedd Dysgu fanylion adnabod dyblyg.
Maen prawf llwyddiant 2.1 WCAG: 4.1.3 Enw, Rôl, Gwerth
Teclyn Acordion (y dudalen lanio a'r proffil myfyriwr)
Mae'r bar ochr yn defnyddio teclyn pwrpasol i agor a chwympo is-set o ddolenni. Nid yw'r rhyngweithiadau'n cyhoeddi cyflyrau ac maent hefyd yn cuddio dolenni o olwg elfennau darllenydd sgrîn.
Cynnwys nad yw o fewn cwmpas y rheoliadau hygyrchedd
Gwnaethpwyd asesiad gan ystyried maint y sefydliad a’r adnoddau sydd ar gael iddo a nodir cynnwys y tybir ei fod y tu allan i gwmpas y rheoliadau yn yr adran hon.
Ffeiliau PDF a dogfennau eraill
Yn yr archwiliad, ni nodwyd bod unrhyw PDFs ar gael yn y system hon.
Yr hyn rydym yn ei wneud i wella hygyrchedd
Mae ein Map Hygyrchedd yn dangos sut a phryd rydym yn bwriadu gwella hygyrchedd https://intranet.swan.ac.uk/studentprofile/
Paratoi'r datganiad hwn am hygyrchedd
Cafodd y datganiad hwn ei baratoi ar 12/04/2022 a'i ddiweddaru ddiwethaf ar 13/04/2022.
Cafodd y wefan https://intranet.swan.ac.uk/studentprofile/ ei phrofi ddiwethaf ar 11/04/2022. Cynhaliwyd y prawf gan ein harbenigwr defnyddioldeb a hygyrchedd mewnol.
Gwnaethom ddefnyddio proses ac ymagwedd gyson wrth benderfynu ar sampl o dudalennau i'w profi. Mae hyn ar gael yn Sut gwnaethom brofi'r wefan
Mae'r adroddiad llawn am hygyrchedd ar gael ar gais.