Rydym wrthi'n symud i ffwrdd o'n hen broses gofrestru a phroffil myfyriwr. Yn ystod y 12 mis diwethaf, rydym wedi sefydlu proses ddatblygu a system ddylunio gyson sy'n seiliedig ar arferion gorau o ran hygyrchedd. Defnyddiwyd hyn yn y broses gofrestru.

Rydym yn bwriadu parhau â hyn dros y 12 mis nesaf yn y ffyrdd canlynol:

  • Trwsio'r bygiau sydd ar ôl y daethpwyd o hyd iddynt yn yr archwiliad mewn cysylltiad â thudalennau'r broses gofrestru (Dogfennau Adnabod, Dewis Modiwlau a Ffïoedd Dysgu).
  • Cwblhau'r broses o ddatblygu'r system gofrestru drwy ddisodli'r Dudalen Lanio.
  • Ymchwilio i atebion hygyrch y gellir eu caffael neu eu datblygu i ddisodli'r Proffil Myfyriwr.
  • Parhau i feithrin diwylliant sy'n seiliedig ar anghenion defnyddwyr ac arferion gorau o ran hygyrchedd.

Ymgymerir â'r gwaith hwn dros y 12 mis nesaf.