Sut gwnaethom brofi'r broses gofrestru a'r proffil myfyriwr

Cafodd y tudalennau canlynol eu harchwilio:

  • Tudalen Lanio'r Broses Cofrestru Ar-lein
  • Tudalennau'r Dewin Cofrestru (Dogfennau Adnabod, Dewis Modiwlau a Ffïoedd Dysgu)
  • Tudalen Crynodeb y Proffil Myfyriwr

 

Y Broses Archwilio

Defnyddiwyd y broses ganlynol ar y tudalennau:

  • Adolygiad awtomataidd, gan ddefnyddio adnoddau amrywiol (Microsoft Insights, Google Lighthouse)
  • Adolygiad â llaw wedi'i gefnogi gan declyn Microsoft Insights
  • Adolygiad â llaw ar sail rhestr wirio POUR
  • Adolygiad â llaw gan ddefnyddio darllenydd sgrîn NVDA i archwilio meysydd llywio, rhyngweithio, cyfyngiadau amser ac adfer gwallau.

Cynhaliwyd yr archwiliadau ar liniadur Windows 10 ac iphone 7.

Pam defnyddiwyd y broses brofi hon

Cynhaliwyd y broses archwilio gan arbenigwr defnyddioldeb a hygyrchedd sy'n gweithio i Brifysgol Abertawe, gan nad oes gennym adnodd hygyrchedd pwrpasol. Penderfynwyd ar yr ymagwedd hon ar sail maint y wefan, a'r amser, yr adnoddau a’r cyllid a oedd ar gael i’r sefydliad ar y pryd.

Mae adroddiad llawn am y prawf hygyrchedd ar gael ar gais.