Sut gwnaethom brofi'r broses gofrestru a'r proffil myfyriwr
Cafodd y tudalennau canlynol eu harchwilio:
- Tudalen Lanio'r Broses Cofrestru Ar-lein
- Tudalennau'r Dewin Cofrestru (Dogfennau Adnabod, Dewis Modiwlau a Ffïoedd Dysgu)
- Tudalen Crynodeb y Proffil Myfyriwr
Y Broses Archwilio
Defnyddiwyd y broses ganlynol ar y tudalennau:
- Adolygiad awtomataidd, gan ddefnyddio adnoddau amrywiol (Microsoft Insights, Google Lighthouse)
- Adolygiad â llaw wedi'i gefnogi gan declyn Microsoft Insights
- Adolygiad â llaw ar sail rhestr wirio POUR
- Adolygiad â llaw gan ddefnyddio darllenydd sgrîn NVDA i archwilio meysydd llywio, rhyngweithio, cyfyngiadau amser ac adfer gwallau.
Cynhaliwyd yr archwiliadau ar liniadur Windows 10 ac iphone 7.
Pam defnyddiwyd y broses brofi hon
Cynhaliwyd y broses archwilio gan arbenigwr defnyddioldeb a hygyrchedd sy'n gweithio i Brifysgol Abertawe, gan nad oes gennym adnodd hygyrchedd pwrpasol. Penderfynwyd ar yr ymagwedd hon ar sail maint y wefan, a'r amser, yr adnoddau a’r cyllid a oedd ar gael i’r sefydliad ar y pryd.
Mae adroddiad llawn am y prawf hygyrchedd ar gael ar gais.