Quarter Finalist and Best Opening Statement by a Mediator

Ym mis Mawrth 2026, gwnaeth tîm o Ysgol y Gyfraith Prifysgol Abertawe gymryd rhan am y drydedd flwyddyn yn olynol yng Nghystadleuaeth Gyfryngu Calcutta - digwyddiad sy'n denu timau o bob cwr o'r byd i gystadlu mewn perthynas â sgiliau cyfryngu a negodi. Gan ei bod yn gystadleuaeth o bell, mae hefyd yn galluogi myfyrwyr i gystadlu heb orfod teithio, sy'n rhoi iddynt y cyfleoedd gorau i ddatblygu eu sgiliau.

Eleni dewiswyd Jack Harvard-Griffiths ac Ems Parsons o'n proses fewnol i fod yn bâr negodi, a dewiswyd Lewis Green i fod yn gynrychiolydd y cyfryngwr. Cafodd y tri gyfle i gystadlu yn y Rhagbrofion a dangosodd y timau sgiliau eithriadol. Pan gyfrifwyd y sgoriau, aeth Lewis ymlaen yn llwyddiannus i'r rownd gogynderfynol lle dangosodd ei alluoedd ymhellach.

Er gwaethaf colli allan o drwch blewyn ar le yn y rownd gynderfynol, roedd yn falch iawn o gael gwobr unigol am y Datganiad Agoriadol Gorau. Fel un o'r arfau pwysicaf i gyfryngwr, roedd yn ddiolchgar am ei sgiliau yn yr adran hon, gan gael ei gydnabod yn arbennig o blith maes mawr o gystadleuwyr.

Rhannu'r stori