Mae'r IISTL yn falch o gyhoeddi bod Stobbs, cwmni cyfreithiol rhyngwladol sydd â swyddfeydd yn Llundain, Caergrawnt, Munich, Dulyn ac Eindhoven, wedi penderfynu cyflwyno Gwobr i fyfyrwyr LLM Eiddo Deallusol ac Arloesi yn Abertawe.
Mae Stobbs wedi diffinio'r categori rheoli asedau annirweddol ac mae gan y cwmni gyfoeth o alluoedd sy'n arwain y diwydiant o ran cynghori ar faterion brand. Ymdrinnir â llawer o'r galluoedd allweddol hyn, gan gynnwys nodau masnach, hawlfraint, dyluniadau, parthau a gorfodi brandiau ar-lein, ar lefel arbenigol yn y modiwlau Cyfraith Eiddo Deallusol ym Mhrifysgol Abertawe. Bydd cyflwyno'r wobr hon gan gwmni mor nodedig yn ased hynod werthfawr i'r myfyrwyr hynny yn Abertawe sy'n awyddus i adeiladu eu dyfodol ym maes eiddo deallusol.
Dywedodd Dr Ekiz, cyfarwyddwr ein modiwl Eiddo Deallusol yng Nghyd-destun Diwydiannau Creadigol y canlynol:
"Rydym mor ddiolchgar i Stobbs am y cyfle mae'n ei gynnig i'n myfyrwyr ac rydym yn edrych ymlaen at weld y bartneriaeth newydd hon yn ffynnu.
Mae'n rhaglen LLM mewn Cyfraith Eiddo Deallusol yn tyfu'n gyflym ac mae'n wych gweld bod cwmni byd-eang fel Stobbs wedi cydnabod gwerth ein myfyrwyr LLM Eiddo Deallusol ac wedi dewis buddsoddi yn natblygiad y genhedlaeth nesaf o
Gyfreithwyr Eiddo Deallusol."