Nod y Sefydliad Cyfraith Morgludiant a Masnach Ryngwladol (IISTL) yw darparu addysg gyfreithiol gyfoes i'w fyfyrwyr ôl-raddedig, yn ogystal â chynnig cyfleoedd gwerthfawr iddynt rwydweithio yn y sectorau mwyaf perthnasol iddynt, ar ôl graddio. I'r perwyl hwn, aeth yr IISTL â'i fyfyrwyr LLM Technoleg Gyfreithiol a Chyfraith Masnach i Lundain am daith rhwydweithio ac addysg.
Dechreuodd y diwrnod gydag ymweliad â'r Goruchaf Lys uchel ei fri lle cafodd myfyrwyr gyfle i deithio i ystafelloedd llys amrywiol i ddysgu am ei hanes. Y cyrchfan nesaf oedd Kennedys IQ (y swyddfa yn Llundain yn yr adeilad eiconig a adwaenir fel y Walkie-Talkie).
Nod Kennedys IQ, sy'n cyfuno deallusrwydd pobl a pheiriannau, yw creu platfformau ac atebion ar gyfer diwydiannau amrywiol yn y sector masnachol, gan gynnwys yswirwyr, cwmnïau sy'n cludo nwyddau dros y môr a broceriaid.
Rhoddodd panel o dri siaradwr – Ms Joanna Mantrope (Uwch-gyfreithiwr Materion Corfforaethol), Mr Joe Cunningham (Rheolwr Cynnyrch, Kennedys IQ) a Dr Harvew Maddocks (Prif Wyddonydd Data, Kennedys IQ) – gyflwyniad i fyfyrwyr ynghylch sut defnyddir atebion deallusrwydd artiffisial mewn cyd-destun cyfreithiol masnachol a sut mae Kennedys IQ yn gweithredu'n ymarferol.
Cafodd y myfyrwyr LLM gyfle i ofyn cwestiynau a siarad ag aelodau amrywiol o dîm Kennedys IQ wedyn. Mae Kennedys IQ yn un o bartneriaid y Sefydliad Cyfraith Morgludiant a Masnach Ryngwladol, a'r haf hwn bydd yn cynnig interniaeth i un o fyfyrwyr LLM Technoleg Gyfreithiol a Chyfraith Masnach yr IISTL. Yn ogystal â chanfod bod y daith yn ddefnyddiol iawn, gan nodi ei bod wedi cynnig cyfleoedd gwerthfawr iddynt rwydweithio, cafodd y myfyrwyr gipolwg unigryw ar sut rhoddir y pethau y maent wedi eu dysgu ar waith mewn gwirionedd yn y byd masnachol.