Mae Prifysgol Abertawe yn awyddus i gefnogi dawn ragorol sy'n datblygu mewn gwahanol feysydd ymchwil cyffrous. Dyddiad cau Cymrodoriaeth Marie Skłodowska-Curie Actions (MSCA) fydd 13 Medi 2023. Mae'n cynnig cymorth hirdymor a hyblyg, gan gynnwys cyflog y cymrawd a chostau ymchwil, staff a hyfforddiant, yn ogystal â'r cyfle i gael swydd academaidd barhaol ar ôl cwblhau'r gymrodoriaeth yn llwyddiannus. Oherwydd natur hynod gystadleuol y cymrodoriaethau hyn a therfyn ar nifer y ceisiadau llawn y caiff pob sefydliad eu cyflwyno, mae'r Brifysgol yn cynnal galwad am Fynegiannau o Ddiddordeb gan staff mewnol ac allanol.

Dyddiad cau Mynegi Diddordeb yw Mehefin 26 2023.

AM GYMDORAETH MARIE SKŁODOWSKA-CURIE ACTION

Mae Cymrodoriaethau Ôl-ddoethurol MSCA yn grantiau unigol 'o'r gwaelod i fyny' i ymchwilwyr i ategu symudedd, ymchwil ragorol a hyfforddiant. Mae'r cymrodoriaethau hyn yn rhoi cyfle datblygu gyrfa ardderchog i ymchwilwyr ôl-ddoethurol wella eu potensial arloesi a hwyluso gweithgarwch trosglwyddo gwybodaeth.

Cymhwysedd:

Gall ymchwilwyr fod o unrhyw genedligrwydd a rhaid iddynt fod yn ymchwilydd ôl-ddoethurol ac yn meddu ar uchafswm o 8 mlynedd o brofiad cyfwerth ag amser llawn ar ddyddiad cau'r alwad.  Mae symudedd yn nodwedd allweddol o gymrodoriaethau MSCA:

Cymrodoriaethau Ewropeaidd

ffeithlun yn dangos Cymrodoriaethau Ewropeaidd
  • Rhaid i'r ymchwilydd symud, neu raid ei fod wedi symud, i Aelod-wladwriaeth o'r UE neu Wlad Gysylltiedig, i ymgymryd â'i brosiect ymchwil a'i hyfforddiant.
  • Ni all yr ymchwilydd fod wedi byw na chynnal ei brif weithgaredd (gwaith, astudiaethau ac ati) yng ngwlad y corff sy'n recriwtio am fwy na 12 mis yn ystod y 3 blynedd yn union cyn dyddiad cau'r alwad

Cymrodoriaethau Byd-eang

ffeithlun ar gyfer Cymrodoriaethau Byd-eang
  • Mae ymchwilwyr o Aelod-wladwriaeth/Wlad Gysylltiedig yn ymgymryd â chyfnod o symudedd (12-24 mis) mewn trydedd wlad ac yn dychwelyd i'r Aelod-wladwriaeth/Wlad Gysylltiedig am gyfnod dychwelyd ailintegreiddio am 12 mis
  • Rhaid i ymchwilwyr sy'n dymuno ailintegreiddio yn Ewrop fod yn ddinasyddion neu'n breswylwyr tymor hir Aelod-wladwriaeth neu Wlad Gysylltiedig

 

Ni ddylai’r ymchwilydd fod wedi preswylio neu ymgymryd â’i brif weithgarwch (gweithio, astudio etc.) yng ngwlad y buddiolwr am fwy na 12 mis yn y 36 mis yn union cyn dyddiad cau’r alwad. Am ragor o wybodaeth, darllenwch yr Amodau Derbynioldeb a Chymhwystra.

Bwriad y DU yw cysylltu â Horizon Ewrop ac mae'r DU yn gymwys fel sefydliad cynnal ar gyfer cymrodoriaethau Ewropeaidd; ac yn gymwys i gynnal y cam dychwelyd ar gyfer Cymrodoriaethau Byd-eang.

PAM DEWIS PRIFYSGOL ABERTAWE?

Yn asesiad diweddaraf Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2021, dyfarnwyd bod 86% o ymchwil gyffredinol y Brifysgol yn ymchwil sy'n arwain y byd neu'n ardderchog yn rhyngwladol - i fyny o 80% yn yr ymarfer REF blaenorol yn 2014. Gellir dod o hyd i uchafbwyntiau ymchwil ym Mhrifysgol Abertawe yma.

Rydyn ni'n parhau i gael ein cydnabod am effaith ein hymchwil sy'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol, cadarnhaol i fywydau pobl ledled y byd. Mae 86% o'n hymchwil, a ddyfarnwyd gan banel o arbenigwyr REF, yn cael effaith eithriadol a sylweddol iawn o ran cyrhaeddiad ac arwyddocâd, ar lefel leol, ranbarthol a byd-eang.

Ystyrir bod 91% o'n hamgylchedd ymchwil yn arwain y byd ac yn ardderchog yn rhyngwladol (sef cynnydd o 6% ers ymarfer REF 2014). Mae hyn yn atgyfnerthu bod Prifysgol Abertawe'n amgylchedd rhagorol i gynnal ymchwil fel myfyriwr neu academydd, a bod ein hymchwil yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol yn y byd.

Awyrlun o Gampws Singleton
delwedd o fyfyrwyr peirianneg gemegol mewn labordy

Rydym yn gweithio gyda phartneriaid a chydweithwyr ar draws y byd. Mae ein hymchwil yn cyflawni effaith economaidd a chymdeithasol sylweddol, barhaus a gwerthfawr yng Nghymru, yn y DU ac yn rhyngwladol. Mae Prifysgol Abertawe wedi ymrwymo i ddarparu amgylchedd diogel a chynhwysol sy'n gwella amrywiaeth ac yn galluogi holl gymuned y Brifysgol i gyflawni ei photensial. Adlewyrchir hyn wrth i'r Brifysgol dderbyn nifer o siarteri sy'n gysylltiedig â chydraddoldeb, gan gynnwys dyfarniad Arian Athena SWAN ar lefel y Brifysgol (rhywedd) a safle ymysg y 50 brifysgol orau ym Mynegai Cydraddoldeb yn y Gweithle Stonewall. Felly, rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod pob ymgeisydd, beth bynnag ei hil, ei ryw, ei rywioldeb neu ei allu, yn cael cymorth llawn drwy gydol y broses ymgeisio.

Ym Mhrifysgol Abertawe, mae iechyd a llesiant ein cymuned yn bwysig i ni, mae Prifysgol Abertawe’n ymdrechu i ddarparu amgylchedd gweithio a dysgu lle nad oes gwahaniaethu ac sy’n galluogi staff a myfyrwyr i gyflawni eu potensial.

Rydyn ni’n croesawu ac yn dathlu’r amrywiaeth y mae ein staff a’n myfyrwyr yn ei chyflwyno i’r Brifysgol gan ein hannog ni i feddwl yn wahanol ac i weithredu’n wahanol. I gael rhagor o wybodaeth am Gydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant ym Mhrifysgol Abertawe, cliciwch yma. Mae nifer o grwpiau a rhaglenni rhwydweithio wedi’u sefydlu ym Mhrifysgol Abertawe.

Sut i gyflwyno cais:

Bellach, croesewir mynegiannau o ddiddordeb gan ymgeiswyr sydd am gael eu cefnogi gan Brifysgol Abertawe. Mae hyn yn berthnasol i ymgeiswyr mewnol ac allanol.

I gael arweiniad ar ysgrifennu eich cais, gweler y Canllaw i Ymgeiswyr ac Atodiadau Cyffredinol Horizon Europe (tudalen 23). Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn Gymraeg ac ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg (Safon 76). 

Rydym yn annog cynigion yn rhagweithiol mewn cydweithrediad â'n Partneriaethau Strategol, am ragor o wybodaeth am hyn, ewch i: Cydweithrediadau byd-eang a phartneriaethau strategol - Prifysgol Abertawe.

Cais

E-bostiwch bob mynegiant o ddiddordeb i fellowships@abertawe.ac.uk

Bydd Prifysgol Abertawe yn cefnogi tri chais i'w cyflwyno'n llawn a bydd yr ymgeiswyr a ddewisir yn derbyn cymorth pwrpasol i baratoi eu cynnig llawn.   Rhaid i ymgeiswyr fod â chefnogaeth wedi'i chymeradwyo gan y Gyfadran letyol.