Mae Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru wedi darparu cyllid, drwy Gronfa Arloesi Ymchwil Cymru, i gynnal gweithgareddau arloesi sydd eisoes ar waith ym Mhrifysgol Abertawe a chynyddu'r gallu i gefnogi sefydliadau ledled y rhanbarth. O ganlyniad i'r cyllid, mae ein hymchwilwyr wedi meithrin perthnasoedd â channoedd o bartneriaid lleol a byd-eang sydd wedi cefnogi ein hymchwil a helpu i'w gwella er mwyn gwneud gwahaniaeth go iawn

O greu'r Hyb Llaeth Rhoddwyr cyntaf erioed yng Nghymru, mewn partneriaeth â'r Sefydliad Llaeth Dynol, i gefnogi ymchwil i niwed sy'n gysylltiedig â gamblo ymhlith cyn-filwyr yn y DU mewn partneriaeth â Be Gambling Aware, mae'r cyllid gan CCAUC wedi rhoi rhagor o gyfleoedd i'n hymchwilwyr i gynnal ymchwil ac arloesi sy'n ymdrechu i wella bywydau pobl.

PROSIECTAU YMCHWIL

Edrychwch ar yr amrywiaeth wych o brosiectau ymchwil sydd wedi cael eu cynnal ym Mhrifysgol Abertawe, o ymchwil yng Nghyfadran y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol i brosiectau yn y Gyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg a'r Gyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd.

PODLEDIADAU YMCHWIL AC ARLOESI

FIDEOS HYRWYDDO

DIGWYDDIADAU YMCHWIL AC ARLOESI

ASTUDIAETHAU ACHOS YMCHWIL AC ARLOESI

Gweler Strategaeth Cronfa Arloesi Ymchwil Cymru (RWIF) i gael mwy o wybodaeth a chysylltwch â reis@swansea.ac.uk gydag unrhyw ymholiadau.

RWIF Wordle Cymru
HEFCW