Mae Dr Guoqing Zhao yn Ddarlithydd Rheoli Gweithrediadau. Mae ei faes ymchwil yn cynnwys rheoli risgiau i gadwyni cyflenwi, gwytnwch cadwyni cyflenwi, a rheoli gwybodaeth, gan ganolbwyntio'n benodol ar y diwydiant bwyd-amaeth.
Beth yw'ch maes ymchwil?
Mae fy maes ymchwil yn cynnwys rheoli risgiau i gadwyni cyflenwi, gwytnwch cadwyni cyflenwi, a rheoli gwybodaeth, gan ganolbwyntio'n benodol ar y diwydiant bwyd-amaeth. Drwy sicrhau bod cadwyni cyflenwi bwyd-amaeth yn wydn, gellir adfer y cadwyni hyn i'w cyflwr arferol neu gyflwr gwell ar ôl achosion o darfu arnyn nhw. Mae hyn yn hollbwysig i gadwyni cyflenwi bwyd-amaeth, yn enwedig mewn oes llawn newidiadau yn yr hinsawdd ac ansicrwydd ym myd busnes. Yn fwy diweddar, rwy'n cynnal ymchwil sy'n ymwneud â thechnolegau'r pedwerydd chwildro diwydiannol a'u heffeithiau ar y cadwyni cyflenwi bwyd-amaeth.
Sut dechreuodd eich diddordeb yn y maes hwn?
Rwyf wedi ymddiddori mewn gwytnwch cadwyni cyflenwi bwyd-amaeth ers i mi fod yn fyfyriwr doethurol yn 2016. Ces i fy ariannu gan brosiect RUC-APS (Risgiau ac Amodau Ansicr ar gyfer Systemau Cynhyrchu Amaethyddiaeth) Horizon 2020 i dreulio secondiadau mewn gwledydd gwahanol ledled Asia (Tsieina), Ewrop (Ffrainc, yr Eidal, Sbaen, y DU, Gwlad Pwyl) a De America (yr Ariannin a Chile). Drwy drafod â rhanddeiliaid cadwyni cyflenwi bwyd-amaeth mewn gwledydd gwahanol, rwy'n deall bod y cadwyni hyn yn wynebu risgiau amrywiol. Felly, rwyf wedi ymroi i leihau risgiau a meithrin gwytnwch y cadwyni hyn.
Sut daethoch i weithio yn Mhrifysgol Abertawe?
Ymunais i â Phrifysgol Abertawe ym mis Ionawr 2023 ar ôl bod yn gymrawd ymchwil am flwyddyn ym Mhrifysgol Plymouth (UoP), lle roeddwn i'n gyfrifol am rannu gwybodaeth rhwng UoP a diwydiant e-Iechyd Cernyw ac Ynysoedd Sili. Yn ogystal, gwnes i gwblhau fy noethuriaeth yn UoP, lle cefais i gyfleoedd i gymryd rhan yn y prosiectau a ariannwyd gan Horizon 2020 yr Undeb Ewropeaidd, Cronfa Newton y DU a'r Gymdeithas Frenhinol. Mae Ysgol Reolaeth Prifysgol Abertawe wedi bod yn lle perffaith i wneud ymchwil, gan fod ganddi ysgolheigion o fri rhyngwladol, amgylchedd ymchwil cydweithredol, cydweithwyr hyfryd a chymorth digonol gan weithwyr proffesiynol profiadol.
Beth rydych chi'n gobeithio ei gyflawni gyda'ch ymchwil?
Mae adeileddau cadwyni cyflenwi bwyd-amaeth yn fwy cymhleth ac mae'n haws i'r amgylchedd allanol effeithio arnyn nhw. Felly, mae gwendidau a risgiau gwahanol yn berthnasol iddyn nhw. Fy nod yw helpu i adfer cadwyni cyflenwi bwyd-amaeth i'w cyflwr arferol neu gyflwr gwell ar ôl achosion o darfu arnyn nhw, mewn modd effeithlon, effeithiol a fforddiadwy. Gall hyn gynnwys safbwyntiau gwahanol i archwilio'r mater hwn, megis safbwyntiau unigolion, sefydliadau, cadwyni cyflenwi a chymdeithas.
Beth rydych chi'n gobeithio ei gyflawni gyda'ch ymchwil?
Mae amryw oblygiadau ymarferol i'm hymchwil. Yn gyntaf, byddai fy ymchwil yn darparu cyfarwyddyd ymarferol i fusnesau amaeth ynghylch sut i ymateb i achosion o darfu arnyn nhw. Yn ail, mae'r rhan fwyaf o fusnesau mewn cadwyni cyflenwi bwyd-amaeth yn fentrau bach a chanolig, sy'n golygu nad oes ganddyn nhw adnoddau diderfyn i fynd i'r afael ag achosion o darfu. Drwy flaenoriaethu hwyluswyr/rhwystrau/galluoedd, bydd fy ymchwil yn galluogi rheolwyr cadwyni cyflenwi bwyd-amaeth i flaenoriaethu a dyrannu adnoddau mewn ffordd effeithiol.
Pa ddibenion ymarferol y gallai eich ymchwil eu cynnig?
Fy ngham nesaf fydd cyflwyno ceisiadau i gael cyllid gan gyrff megis yr Academi Brydeinig, y Gymdeithas Frenhinol a'r Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol i gefnogi fy ymchwil. Heb gymorth ariannol, mae'n anodd i ymchwilwyr gyflawni ymchwil sy'n cael effaith. Ar yr un pryd, bydda i'n cyhoeddi fy ngwaith yn barhaus mewn cyfnodolion o safon uchel ac yn cyflwyno mewn cynadleddau rhyngwladol gwahanol i gael effeithiau mawr.