Dr Julie Peconi yw Prif Ymchwilydd (CI) yr Astudiaeth Sunproofed. Nod ei hymchwil yw deall sut mae ysgolion cynradd yng Nghymru yn ymateb i gyfraddau cynyddol canser y croen ac archwilio effeithiolrwydd polisïau diogelwch haul mewn ysgolion a'u heffaith ar wybodaeth ac ymddygiad.
Fi yw Prif Ymchwilydd Astudiaeth Sunproofed, Astudiaeth ddwy flynedd yw hon sy'n cael ei hariannu gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, a’i nod yw deall sut mae ysgolion cynradd yng Nghymru yn ymateb i gyfraddau cynyddol canser y croen ac archwilio effeithiolrwydd polisïau diogelwch haul mewn ysgolion a'u heffaith ar wybodaeth ac ymddygiad.
Rwyf hefyd yn Brif Ymchwilydd ar y cyd ar ddwy astudiaeth arall sy'n ymwneud ag iechyd y croen: SunChat, sy'n archwilio canfyddiadau plant a'u gofalwyr o gael lliw haul, a SunView, cydweithrediad gydag Oriel Science. Rwy'n gweithio yn Uned Dreialon Abertawe yn yr Ysgol Feddygaeth, lle rwyf hefyd wedi gweithio ym meysydd mynediad at ofal iechyd, dementia ac endometriosis.
Sut dechreuodd eich diddordeb yn y maes hwn?
Mae gan fy ngŵr a fy mab gyflwr genetig y croen prin (pachyonychia congenita) ac, yn 2015, dechreuais i weithio'n rhan-amser i Skin Care Cymru, elusen sy'n eirioli dros bobl â chyflyrau croen yng Nghymru. Yn seiliedig ar brofiad personol fy nheulu o aros am dros chwe mis am apwyntiad gyda dermatolegydd a minnau'n ysgrifennydd Grŵp Trawsbleidiol ar Groen Cynulliad Cymru, tyfodd fy niddordeb mewn ymchwilio i iechyd y croen a darpariaeth gofal yn y maes hwn.
Ces i fy synnu hefyd i ddysgu bod cyfraddau'n cynyddu yng Nghymru, er bod modd atal y rhan fwyaf o ganserau'r croen, a bod y clefyd bellach yn cynrychioli 50% o'r holl ganserau yn y DU. Mae tystiolaeth ryngwladol yn awgrymu bod addysgu plant am ddiogelwch haul mewn ysgolion yn un ffordd o atal canser y croen ac, yn Lloegr, mae addysgu diogelwch haul mewn ysgolion cynradd yn orfodol bellach. Fodd bynnag, mae hyn yn dibynnu ar ddewis yr ysgolion unigol yng Nghymru. Arweiniodd hyn at fy mhrosiectau presennol. Roeddwn i am helpu i lenwi'r bwlch tystiolaeth o ran gweithgarwch mewn ysgolion yng Nghymru, beth sy'n gweithio a deall yn well ba gymorth sydd ei angen arnynt yn y maes hwn.
Sut daethoch i weithio yn Mhrifysgol Abertawe?
Fy swydd gyntaf ar ôl symud i Gymru o Ganada oedd gydag Opinion Research Services. Wedyn ces i swydd ym Mhrifysgol Abertawe fel Rheolwr Prosiect ar brosiect yn gwerthuso gwasanaeth y GIG, Galw Iechyd Cymru, yn yr hen Ysgol Glinigol. Yn fuan wedi hynny, dechreuais i wneud PhD ochr yn ochr â fy rôl yn astudio epidemioleg y galw am gysylltiadau â gofal iechyd dros y ffôn a chanlyniadau hynny. Ar ôl cwblhau fy noethuriaeth, dechreuais i rôl fel rheolwr data yn Uned Dreialon Abertawe yn yr Ysgol Feddygaeth. Ar ôl rôl am gyfnod byr yn rheoli treial, llwyddais i sicrhau cyllid ar gyfer Sunproofed, ac rwyf wedi parhau i ehangu ymchwil ym maes iechyd y croen.
Beth rydych chi'n gobeithio ei gyflawni gyda'ch ymchwil?
Mae cyfraddau cynyddol canser y croen yng Nghymru yn rhoi pwysau ar adnoddau'r GIG sydd eisoes yn gyfyngedig. Eto yn y DU, mae tystiolaeth yn awgrymu bod lefelau dealltwriaeth o'r risgiau sydd ynghlwm wrth fod allan yn yr haul yn amrywio o hyd. Yn aml ceir gwahaniaeth rhwng gwybodaeth ac ymddygiad, h.y., mae pobl yn gwybod beth dylen nhw ei wneud ond dydyn nhw ddim bob amser yn ei wneud! Ac fel rhiant fy hun, rwy'n gwybod pa mor anodd oedd perswadio fy mhlant i ddefnyddio eli haul!
Fodd bynnag, gan ystyried y gall llosg haul difrifol fel plentyn gynyddu'n sylweddol y tebygolrwydd o gael canser y croen yn ddiweddarach mewn bywyd, byddwn i wrth fy modd pe bai fy ymchwil yn helpu i ddatblygu gweithgareddau atal yn y dyfodol, yng Nghymru a'r tu hwnt. Gallai hyn leihau nifer yr achosion canser y croen yn y dyfodol a chadw pobl yn iachach am fwy o amser. Gobeithio hefyd y bydd fy ymchwil yn annog plant i ddeall pam mae angen iddyn nhw amddiffyn eu hunain, gan eu grymuso i gymryd rheolaeth ar eu harferion iach, o ran diogelwch haul.
Beth rydych chi'n gobeithio ei gyflawni gyda'ch ymchwil?
Fy ngobaith i yw y bydd fy holl ymchwil yn helpu Cymru i symud yn nes at atal canser y croen. Er enghraifft, bydd astudiaeth Sunproofed yn darparu ciplun o'r dirwedd bresennol yng Nghymru o ran polisïau diogelwch haul mewn ysgolion. Un o'n hallbynnau allweddol fydd cyd-gynhyrchu set syml o ganllawiau ar sail tystiolaeth y gall ysgolion eu haddasu yn ôl yr angen.
Gyda SunView, ein harddangosfa a'n gweithdai yn Oriel Science, yn ogystal ag amlygu ein canfyddiadau o Sunproofed gan eu tynnu at sylw rhieni, plant ac ymwelwyr eraill, rydym hefyd wedi prynu camera uwchfioled a fydd yn rhoi cyfle i ymwelwyr weld eu hwynebau ‘fel mae'r haul yn eu gweld', wrth ddefnyddio eli haul a heb eli haul, gan ddangos yn union sut mae eli haul yn eu diogelu.
Pa ddibenion ymarferol y gallai eich ymchwil eu cynnig?
Fy nodau nesaf yw canolbwyntio ar ledaenu ein canfyddiadau. Un o fy rhesymau dros ddod yn ymchwilydd oedd yr awydd i ddefnyddio fy sgiliau i wneud gwahaniaeth i fywydau pobl, ond fydd hynny ddim yn digwydd os nad ydyn ni'n hyrwyddo ac yn rhannu ein canlyniadau y tu hwnt i bapurau academaidd yn unig. Dyma un o'r rhesymau pam rwyf mor frwdfrydig am y cydweithrediad gydag Oriel Science - mae'n gyfle gwych i ddod â gwyddoniaeth i'r cyhoedd. Hefyd, hoffwn i ehangu astudiaeth Sunproofed i ysgolion uwchradd a bydda i'n chwilio am gyllid i barhau i weithio yn y maes hwn.