Mae'r Ysgol Reolaeth yn gartref i Gomisiwn Bevan, melin drafod sy'n gweithio i ddehongli a dadansoddi materion sy'n ymwneud ag iechyd yng Nghymru, ac i roi cyngor yn eu cylch. Mae’n rhoi cyngor arbenigol, wedi’i lywio gan dystiolaeth a chonsensws o’r farn awdurdodol, i Eluned Morgan, y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn Llywodraeth Cymru.
Mae Comisiwn Bevan wedi datblygu cysylltiadau ag awdurdodau lleol, byrddau ac ymddiriedolaethau iechyd, partneriaid yn y sector preifat a'r trydydd sector, ac academyddion, gan gynnwys ymchwilwyr o Oruchwylwyr Bydwragedd.
Nod Rhaglen Arloesi Gofal wedi'i Gynllunio (PCIP) Comisiwn Bevan, a ariennir gan Lywodraeth Cymru, yw lleihau amserau aros cleifion, mynd i'r afael â'r ôl-groniad cynyddol a lleihau'r galw cyffredinol ar wasanaethau gofal wedi'i gynllunio yng Nghymru drwy gefnogi 18 o brosiectau arloesol ac amrywiol ar draws pob un o saith bwrdd iechyd y GIG a dwy o ymddiriedolaethau'r GIG. Mae dau o'r prosiectau sy'n rhoi'r pwyslais mwyaf ar ymchwil yn ymwneud â gwella gofal cleifion yn sylweddol.
Genicular Artery Embolization as a minimally invasive intervention to manage patients with mild-moderate Osteoarthritis of the knee
Enw'r prosiect cyntaf yw ‘Genicular Artery Embolization as a minimally invasive intervention to manage patients with mild-moderate Osteoarthritis of the knee’. Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan sy'n darparu'r prosiect, gyda mewnbwn gan Versus Arthritis.
Y tîm sy'n arwain y prosiect yw:
- Dr Nimit Goyal, Radiolegydd Ymyriadol Ymgynghorol
- Dr Rebecca Wallace, Arweinydd Ymchwil Radioleg
- Mr Andrew Miller, Llawfeddyg Orthopedig Ymgynghorol
Bwriad emboleiddio rhydwelïau cymalau’r pen-glin yw lleddfu symptomau'r rhai sy'n byw gydag osteoarthritis cymedrol yn y pen-glin, cyflwr sy'n achosi poen cyhyrysgerbydol. Ar yr un pryd, mae'r prosiect yn ceisio lleihau'r straen ar ofal sylfaenol, ochr yn ochr â ffisiotherapi ac amserau aros am therapi galwedigaethol. Mae oddeutu 450,000 o unigolion yng Nghymru yn byw gydag osteoarthritis. Mae osteoarthritis ysgafn i gymedrol yn y pen-glin – heb fod yn ddigon difrifol i gyfiawnhau amnewid cymalau, ond sy'n gallu gwrthsefyll dulliau anfeddygol – yn peri her benodol.
Mae emboleiddio rhydwelïau cymalau’r pen-glin yn weithdrefn radioleg ymyriadol sy'n ceisio lleddfu poen drwy emboleiddio'r pibellau newydd patholegol wrth gynnal y cyflenwad fascwlaidd mwy i'r asgwrn. Mae'r ffaith ei bod hi'n driniaeth i gleifion allanol sy'n cael ei gwneud yn ystod y dydd drwy ddefnyddio anesthetig lleol yn ei gwneud hi'n broses gyflym a chyfleus i gleifion.
Bydd y prosiect yn archwilio effeithiolrwydd y weithdrefn radioleg ymyriadol newydd hon fel triniaeth bosib i leihau poen a gwella symudedd y cymalau ac ansawdd bywyd a lles cyffredinol cleifion sy'n byw gydag osteoarthritis ysgafn i gymedrol yn y pen-glin. Dyma'r astudiaeth hysbys gyntaf yng Nghymru i ymchwilio i fuddion posib y driniaeth hon a'r gobaith yw y bydd yr astudiaeth yn gwireddu buddion yr ymyrraeth hon, gan arwain yn y pen draw at ei mabwysiadu'n eang yng Nghymru.
Mae NICE yn argymell y driniaeth, ond heb ei chymeradwyo eto. Bydd y prosiect hwn, os bydd yn llwyddiannus, yn gweithredu fel achos busnes o blaid cymeradwyo'r driniaeth.
I gael rhagor o wybodaeth am y prosiect GAE anfonwch e-bost at Rebecca Wallace neu ewch i'r wefan.
Colon Capsule Endoscopy pilot to reduce colonoscopy demand
Image: Medtronic 2022
Enw'r ail brosiect yw ‘Colon Capsule Endoscopy pilot to reduce colonoscopy demand’. Cydweithrediaeth Iechyd GIG Cymru sy'n darparu'r prosiect fel rhan o'r Rhaglen Endosgopi Genedlaethol, ac mae'r driniaeth yn cael ei threialu mewn pedwar bwrdd iechyd: Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Y tîm sy'n arwain y prosiect yw:
- Sunil Dolwani, Athro Gastroenteroleg, Gastroenterolegydd Ymgynghorol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro ac Arweinydd Clinigol Bwrdd y Rhaglen Endosgopi Genedlaethol – ffrwd waith Llwybrau Clinigol
- Dana Knoyle, Arweinydd Rheoli'r Rhaglen Endosgopi Genedlaethol – ffrwd waith Llwybrau Clinigol
- Naomi Davies, Uwch-reolwr Prosiect y Rhaglen Endosgopi Genedlaethol
Mae endosgopi o'r colon ar ffurf capsiwl (colon capsule endoscopy) yn brawf ar gyfer cleifion y mae angen i'w coluddyn mawr (colon) gael ei archwilio. Mae'r prawf yn defnyddio capsiwl sydd oddeutu'r un maint â philsen fitaminau ac sy'n cynnwys dau gamera bach iawn. Ar ôl i'r claf lyncu'r capsiwl, mae'r camerâu'n tynnu miloedd o ffotograffau o leinin y coluddyn wrth i'r capsiwl symud drwyddo. Anfonir y ffotograffau'n ddigidol i recordydd y mae'r claf yn ei wisgo ar wregys yn ystod y prawf. Bydd y tîm yn yr ysbyty'n edrych ar y ffotograffau hyn, llunnir adroddiad ac yna bydd meddyg/nyrs arbenigol yn trafod unrhyw broblemau neu arwyddion clefyd â'r claf.
Un o ddyheadau'r prosiect yw creu cronfa adrodd genedlaethol o feddygon/nyrsys hyfforddedig sy'n gallu adolygu ffotograffau'r capsiwl o bell pa le bynnag y byddant yng Nghymru, gan fwyafu gallu'r gweithlu a chyflymu amserau diagnostig.
Mae'r driniaeth hon yn llai mewnwythiennol o lawer na cholonosgopi traddodiadol, ac mae'r buddion posib yn cynnwys lleihau pryder ac anghysur cleifion.
Caiff llwyddiant y prosiect a buddion y prawf i gleifion eu hadolygu mewn partneriaeth â Phrifysgol Caerdydd ar ddechrau’r flwyddyn nesaf.
I gael rhagor o wybodaeth am y prosiect CCE anfonwch e-bost at y Rhaglen Endosgopi Genedlaethol neu ewch i'r wefan.