Yr Athro Simon Hoffman, o Ysgol y Gyfraith Hillary Rodham Clinton ym Mhrifysgol Abertawe, yw prif awdur adroddiad newydd a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru.

Mae'r adroddiad o'r enw 'Cryfhau a hyrwyddo cydraddoldeb a hawliau dynol yng Nghymru', a gyhoeddwyd ym mis Medi gan Lywodraeth Cymru, yn nodi cynllun ar gyfer cyfraith Cymru a pholisïau i fynd i'r afael ag anghydraddoldeb a chydnabod hawliau dynol yn fwy yng Nghymru. Mae'n deillio o 18 mis o ymchwil gan academyddion o Brifysgol Abertawe a Phrifysgol Bangor, a'r elusennau cenedlaethol Diverse Cymru a Phlant yng Nghymru.  
 
Gwnaed y gwaith ymchwil yn erbyn cefndir o bryderon am ymroddiad Llywodraeth y DU i gefnogi cydraddoldeb a hawliau dynol, ac ymysg ofnau y bydd Brexit yn cael effaith niweidiol ar fesurau sy'n amddiffyn hawliau dynol ar hyn o bryd.  
 
Meddai'r Athro Hoffman: “Dros y 18 mis diwethaf, rydym wedi cyfathrebu â phobl sy'n byw yng Nghymru ac sy'n wynebu anghydraddoldeb yn eu bywyd pob dydd neu sydd wedi cael profiad o'r ffordd y mae hawliau dynol yn effeithio ar unigolion neu gymunedau. Mae argymhellion yr adroddiad yn seiliedig ar y profiadau hyn.  
 
“O ganlyniad i'r gwaith ymchwil, rydym yn teimlo bod angen i Gymru ddilyn ei llwybr ei hun i hyrwyddo cyfiawnder cymdeithasol drwy arfer pwerau datganoledig. Mewn llawer o ffyrdd, mae canfyddiadau ein hymchwil, a nodir yn yr adroddiad, yn cadarnhau bod hyn yn digwydd eisoes. Fel cenedl, er enghraifft, rydym wrthi'n gwreiddio hawliau plant rhyngwladol yng nghyfraith Cymru, ac mae Llywodraeth Cymru'n arwain mentrau i hyrwyddo hawliau pobl anabl, pobl hŷn, pobl o gymunedau Du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig, ac i gydnabod hawliau pobl o gymunedau LGBTQ+. Serch hynny, mae'r adroddiad yn mynnu bod angen gwneud mwy o waith i sicrhau cydraddoldeb a gwireddu hawliau dynol unigolion a chymunedau yng Nghymru.”  
 
Mae gweinidogion wedi croesawu'r adroddiad. Mewn datganiad am yr ymchwil, dywedodd Jane Hutt AS, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, y bydd yr ymchwil yn ysgogi camau gweithredu er mwyn “sicrhau ein bod yn cyflawni ein huchelgais i lunio dull unigryw Gymreig o greu cymdeithas gyfiawn a chyfartal, lle gall pobl fwynhau ac arfer eu hawliau o fewn Cymru gryfach, decach a mwy cyfartal”.  
 
Dylai'r ymchwil gael effaith hirdymor wrth i Lywodraeth Cymru gymryd camau gweithredu yn ystod y chweched Senedd i roi ei hargymhellion ar waith. 

Ceir rhagor o wybodaeth am ein hymchwil i gyfiawnder a chydraddoldeb

Rhannu'r stori