Yn ddiau, un o uchafbwyntiau 2021 ym Mhrifysgol Abertawe oedd cynnal Uwchgynhadledd Heriau Byd-eang Hillary Rodham Clinton.

Wedi'i chynnull a'i chadeirio gan yr Ysgrifennydd Clinton a'i noddi gan Lywodraeth Cymru, cynhaliwyd yr uwchgynhadledd rhwng 8 a 10 Tachwedd pan fu gwledd o arweinwyr rhyngwladol, arbenigwyr, a llunwyr newid yn trafod gofal iechyd byd-eang, cyflawni targedau lleihau carbon, harneisio technoleg er daioni, a hyrwyddo byd mwy cyfartal.  
 
Roedd yr uwchgynhadledd yn rhan o Raglen Heriau Byd-eang Hillary Rodham Clinton, a lansiwyd yn y Brifysgol gan yr Ysgrifennydd Clinton yn 2019, gyda'r nod o ddatblygu arweinwyr rhagorol y genhedlaeth nesaf ym meysydd ysgolheictod cyfreithiol, ymgyrchu ac ymarfer.  

Cyflwynwyd sesiwn agoriadol yr uwchgynhadledd gan yr Athro Paul Boyle, Is-ganghellor Prifysgol Abertawe, a bu'r Ysgrifennydd Clinton a'r Gwir Anrhydeddus Mark Drakeford AS, Prif Weinidog Cymru, yn rhan o’r sesiwn. Amlinellodd yr Ysgrifennydd Clinton y cefndir i'r trafodaethau drwy ddweud: “Thema'r Uwchgynhadledd Heriau Byd-eang yw Partneriaethau ar gyfer byd ar ôl Covid, ac mae'r bartneriaeth â Phrifysgol Abertawe dros y pedair blynedd diwethaf wedi bod yn destun ysbrydoliaeth. Gyda'n gilydd, rydym wedi llwyddo i greu rhaglen ysgoloriaethau heriau byd-eang sydd eisoes wedi darparu nifer cynyddol o raddedigion sy’n mynd allan i'r byd i helpu i ffurfio'r partneriaethau hynny a datrys y problemau rydym oll yn eu hwynebu.” Gan drafod heriau byd-eang, dywedodd y Gwir Anrhydeddus Mark Drakeford AS fod ymagwedd Cymru “yn deillio o egwyddorion 20 mlynedd o ddatganoli a bod yng Nghymru gred ddofn bod gennym ddyletswydd gofal i bobl mewn rhannau eraill o'r byd y mae eu tynged hwy'n gysylltiedig â'n tynged ni”.  

Roedd y trafodaethau yn ystod yr uwchgynhadledd tri diwrnod yn canolbwyntio'n aml ar iechyd, yn enwedig Covid-19. Bu sesiwn o'r enw Iechyd Byd-eang, dan arweiniad yr Athro Keith Lloyd, Dirprwy Is-ganghellor a Deon Gweithredol ym Mhrifysgol Abertawe, yn cynnwys Dr Soumya Swaminathan, Prif Wyddonydd Sefydliad Iechyd y Byd, a ddywedodd fod y pandemig “wedi amlygu anghydraddoldebau mewn gwledydd, yn enwedig anghydraddoldeb o ran brechlynnau”.  

Bu Dr Frank Atherton, Prif Swyddog Meddygol Cymru, yn siarad am ymateb Cymru i'r pandemig, a sut roedd hwn wedi gorfodi'r wlad i drawsnewid ei system iechyd, gan gymell pobl o sefydliadau megis y GIG, Llywodraeth Cymru a'r byd academaidd i gydweithio, “rhywbeth y gallwn ei ddatblygu wrth i ni symud ymlaen”. Adleisiwyd y sylwadau hyn gan Dr Latif Akintade, Uwch Is-lywydd Pfizer. Meddai: “Oherwydd y pandemig, gwnaethom sylweddoli bod iechyd yn hollbwysig, bod angen i ni ganolbwyntio arno a buddsoddi ynddo, a bod angen cydweithrediad gwell rhwng diwydiannau, llywodraethau a chwmnïau technoleg gwahanol. Mae'r ffaith bod cyrff gwahanol wedi dod ynghyd i ddod o hyd i atebion wedi bod yn rhan bwysig o'r pandemig.”   

Yr Athro Dave Worsley o Brifysgol Abertawe oedd arweinydd y sesiwn Tuag at Ddim Carbon. Dechreuodd drwy ddweud: “Er mwyn llwyddo i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd, bydd cydweithrediad byd-eang, partneriaethau newydd, meddwl creadigol ac arloesi'n hanfodol. Roedd aelodau'r panel ar gyfer y sesiwn hon yn cynnwys Gina McCarthy, Ymgynghorydd Hinsawdd Cenedlaethol y Tŷ Gwyn, a drafododd uchelgais yr Arlywydd Biden i sicrhau bod grid yr Unol Daleithiau'n defnyddio ynni glân yn unig erbyn 2035. Yn ogystal, dywedodd fod yr Unol Daleithiau “yn troi'r llanw” a bod angen symud ymlaen yn gyflym, yn enwedig ar ôl i gytundeb yr Arlywydd Biden gael ei basio ym mis Tachwedd i sicrhau'r holl isadeiledd angenrheidiol i symud tuag at economi lân.  

Bu materion cydraddoldeb, boed yn gydraddoldebau rhwng y rhywiau neu'n anghydraddoldebau rhwng gwledydd, yn un o'r prif bynciau eraill ar yr agenda. Bu sgwrs rhwng yr Ysgrifennydd Clinton a H.E. Ellen Johnson Sirleaf, Arlywydd Liberia gynt ac enillydd Gwobr Nobel am Heddwch, a'r Athro Alexander Stubb, Prif Weinidog y Ffindir gynt, yn ystod un sesiwn. Ynddi, meddai H.E. Ellen Johnson Sirleaf, a lansiodd Ganolfan Arlywyddol Ellen Johnson ar gyfer Menywod a Datblygu ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod yn 2020: “Bydd y ganolfan yn gyfrwng ar gyfer ysgogi newid gwleidyddol a chymdeithasol ledled Affrica, gan roi pwyslais ar arweinwyr benywaidd ac arweinyddiaeth gan fenywod.” O ganlyniad i hyn, meddai'r Ysgrifennydd Clinton: “Cyfranogiad llawn gan fenywod mewn cymdeithasau, gan gynnwys arweinyddiaeth ar y lefelau uchaf, yw prif fater anorffenedig yr 21ain ganrif.”  

Yn ystod yr un sesiwn, bu sgwrs rhwng yr Ysgrifennydd Clinton a Katrín Jakobsdóttir, Prif Weinidog Gwlad yr Iâ, a ddywedodd fod y pandemig wedi dangos pwysigrwydd iechyd, sydd ar frig agenda lles Gwlad yr Iâ, a phwysigrwydd creu system iechyd o safon. Gwnaeth bwysleisio rôl menywod, a'r pwysau gwahanol a roddwyd arnynt drwy gydol y pandemig.  

Gwnaeth yr Athro Elwen Evans, Dirprwy Is-ganghellor a Deon Gweithredol ym Mhrifysgol Abertawe, gadeirio sesiwn o'r enw ‘Cymdeithas Fwy Cyfartal’, a bu sôn ynddi am hawliau plant, gan gysylltu, wrth gwrs, â'r Arsyllfa ar Hawliau Dynol Plant yn Ysgol y Gyfraith Hillary Rodham Clinton. Ymhlith aelodau panel y sesiwn hon oedd y Gwir Anrhydeddus David Miliband, Llywydd a Phrif Swyddog Gweithredol yr International Rescue Committee (IRC), a Lily Caprani, Pennaeth Eirioli UNICEF. Cyflwynodd yr Athro Evans y sesiwn fel cyfle “i feithrin dealltwriaeth o rôl llywodraethau, busnesau ac unigolion wrth wneud y cynnydd y mae ei angen arnom er mwyn sicrhau bod hawliau'r bobl fwyaf agored i niwed yn cael eu diogelu”. Meddai'r Gwir Anrhydeddus David Miliband: “Mewn llawer o ffyrdd, y bobl rydym yn ceisio eu grymuso drwy'r IRC yw'r bobl fwyaf agored i niwed.” Dywedodd mai cydnabod dynoliaeth gyffredin yw'r wers fwyaf a ddysgwyd drwy'r gwaith hwn. Yn ôl Lily Caprani, roedd Cymru'n benodol wedi “bod ar flaen y gad a mynd y tu hwnt i ystyried anghenion uniongyrchol plant nad oes ganddynt lais fel pleidleiswyr neu ddefnyddwyr gweithredol, gan hefyd greu peth atebolrwydd ynghylch y syniad y dylai cyfiawnder rhwng y cenedlaethau ddeillio o roi hawliau i blant”.   

Yn ogystal, cynhaliodd yr Athro Evans sesiwn o'r enw ‘Partneriaeth Arloesol’ lle bu'n sgwrsio â'r Ysgrifennydd Clinton a Dana Strong, Prif Weithredwr Sky, am y Rhaglen Ysgoloriaethau Heriau Byd-eang. Esboniodd Dana Strong ei rhesymau dros bartneru â Phrifysgol Abertawe drwy ddweud bod Abertawe “yn gymuned o bobl sy'n datrys problemau, a chanddi ymagwedd sy'n ymgorffori gwerthoedd Sky”. Dywedodd fod Sky wedi penderfynu partneru â'r Brifysgol a'r Ysgrifennydd Clinton yn bennaf er mwyn “dysgu gan bartneriaid a allai ein helpu i dyfu fel sefydliad, a helpu'r ffordd rydym yn meithrin partneriaethau cyhoeddus a phreifat”.  

Ar bwnc anghydraddoldebau byd-eang, bu'r Athro Matt Jones, Cyfarwyddwr Sefydliad Astudiaethau Uwch Morgan, yn arwain y sesiwn Dyfodol Digidol, a wnaeth ganolbwyntio'n rhannol ar, yn ei eiriau ei hun, “y bobl yn y byd na allant gael gafael ar y dyfeisiau digidol arloesol yr ydym oll yn eu cymryd yn ganiataol.” Bu Vinton G. Cerf, Is-lywydd a Phrif Gennad y Rhyngrwyd yn Google, yn aelod o'r panel ac ymunodd yn y trafodaethau ar bynciau megis moeseg ddigidol, deallusrwydd artiffisial a sut gall y byd fwrw ymlaen ag arloesi digidol mewn modd cadarnhaol drwy gyd-drafod, gweithio gyda chymunedau a meddwl yn greadigol ar y cyd.

Yn ogystal, cyflwynodd yr Ysgrifennydd Clinton sesiwn o'r enw Newid y Byd drwy Newid Meddyliau, a fu'n cynnwys trafodaethau ynghylch sut gall nodweddion megis dycnwch, brwdfrydedd a dyfalbarhad ein helpu i fynd i'r afael â heriau byd-eang.  

Denodd y sesiynau bron 2,500 o bobl ac mae'r holl drafodaethau ar gael ar hyn o bryd ar gais.

Gan drafod yr uwchgynhadledd, meddai'r Athro Paul Boyle: “Mae perthynas hirsefydlog ein Prifysgol â'r Ysgrifennydd Clinton yn seiliedig ar werthoedd cyffredin a gweledigaeth gadarnhaol a rennir ynghylch dyfodol posib ein byd a sut gallwn gydweithio i wireddu'r weledigaeth honno. Ers mwy na chanrif, mae Prifysgol Abertawe wedi bod yn falch o wynebu heriau pwysicaf ein hoes a chynnig atebion yn y byd go iawn drwy ein gwaith ymchwil. Rwy'n hynod falch o fod yn rhan yn Uwchgynhadledd Heriau Byd-eang Hillary Rodham Clinton wrth iddi gael ei chynnal am y tro cyntaf, gan roi'r cyfle i ni rannu ein syniadau a chynnal trafodaethau ag amrywiaeth eang o siaradwyr uchel eu bri am y materion pwysicaf, yn ogystal â phwysleisio ymrwymiad cyffredin i gynnydd a newid cadarnhaol.”  

Yr Ysgrifennydd Clinton a Phrifysgol Abertawe

Ym mis Hydref 2017, roedd Prifysgol Abertawe'n falch o gyflwyno Dyfarniad er Anrhydedd i gyn-Ysgrifennydd Gwladol yr Unol Daleithiau, Hillary Rodham Clinton, i gydnabod ei gyrfa wleidyddol, ei hymrwymiad i hawliau dynol, a chysylltiadau ei chyndeidiau ag Abertawe. 

Yn ystod y seremoni, traddododd yr Ysgrifennydd Clinton ddarlith bwysig ar hawliau dynol plant a dadorchuddiodd blac i ddathlu enwi Ysgol y Gyfraith Hillary Rodham Clinton. 

Dychwelodd yr Ysgrifennydd Clinton i Abertawe i gwrdd ag aelodau staff yn Ysgol y Gyfraith yn 2018 a daeth yn ôl eto yn 2019 i lansio'r rhaglen Heriau Byd-eang a chwrdd â'r pum deiliad ysgoloriaeth cyntaf. Yn ogystal, bu'r Ysgrifennydd yn westai er anrhydedd yn y panel trafodaeth “Menywod Mentrus Cymru" ger bron cynulleidfa o fenywod busnes ac entrepreneuriaid blaenllaw, staff a myfyrwyr o'r Brifysgol a chymuned ehangach Prifysgol Abertawe. 

Er bod Covid-19 wedi ei hatal rhag teithio i'r DU, cadwodd yr Ysgrifennydd Clinton mewn cysylltiad agos â'r Brifysgol drwy gydol 2020, rhannodd ei phrofiadau a'i dealltwriaeth â'r ysgolheigion, a thraddododd Ddarlith Goffa James Callaghan fel rhan o ddathliadau canmlwyddiant y Brifysgol. 

Ym mis Chwefror 2021, arweiniodd yr Ysgrifennydd Clinton y dathliad graddio ar-lein ar gyfer y garfan gyntaf o ysgolheigion a chyhoeddodd ail garfan y Rhaglen Heriau Byd-eang, sy'n parhau i gael ei chefnogi gan Sky. 

Rhannu'r stori