Mae labordai yn rhan annatod o ymchwil ym Mhrifysgol Abertawe, ond ni ddylid anwybyddu eu heffeithiau sylweddol ar yr amgylchedd. Maent yn fannau sy'n defnyddio llawer o adnoddau, gan gynhyrchu gwastraff sylweddol a defnyddio rhwng teirgwaith a 10 gwaith yn fwy o ynni na swyddfeydd fel arfer1. Gall un siambr fwg ddefnyddio cymaint o ynni â thair aelwyd bob blwyddyn2. Felly i leihau ein heffaith, rrydym yn annog ein labordai i ymuno â rhaglen LEAF.

Mae'r Fframwaith Asesu Effeithlonrwydd Labordai (LEAF) yn safon werdd ar gyfer labordai, a ddatblygwyd gan Goleg Prifysgol Llundain (UCL), sy'n gwneud labordai'n fwy cynaliadwy ac effeithlon. Mae defnyddwyr labordai'n dilyn meini prawf sy'n argymell camau gweithredu mewn meysydd megis gwastraff, rheoli samplau a chemegion, awyru a chyfarpar. Yna cyflwynir dyfarniad efydd, arian neu aur i labordai yn seiliedig ar nifer y newidiadau a roddwyd ar waith ganddynt.  

Mae LEAF yn cyd-fynd â Strategaeth Cynaliadwyedd ac Argyfwng Hinsawdd Prifysgol Abertawe, yn gwella effeithlonrwydd ac yn sicrhau cydymffurfiaeth o ran iechyd a diogelwch. Cymerodd mwy na 230 o grwpiau labordai gwahanol o 23 o sefydliadau ran yn astudiaeth beilot LEAF. Ar gyfartaledd, arbedodd pob grŵp £3,700 a 2.9tCO2e. At ei gilydd, arbedodd labordai oddeutu £641,000 a 684 tCO2e, sy'n cyfateb i dynnu 140 o gerbydau teithwyr oddi ar y ffordd bob blwyddyn. Prifysgol Abertawe oedd yr unig brifysgol yng Nghymru i gyfrannu ac mae'n arwain y ffordd yng Nghymru. Ers dechrau'r prosiect yn 2019, mae 31 o labordai yn Abertawe wedi sicrhau dyfarniad, gan gynnwys 25 dyfarniad efydd a 6 dyfarniad arian.

Gan drafod y fenter, meddai Ruth Jones, Swyddog Ymchwil yng Nghyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd y Brifysgol: “Mae'r labordy ar ail lawr ILS1 wedi ennill dyfarniad efydd LEAF ac mae bellach yn gweithio tuag at ddyfarniad arian. Fel labordy, rydym wedi bod yn ceisio dewis cyfarpar sy'n arbed ynni; fodd bynnag, rydyn ni wedi darganfod ei bod hi’n hollbwysig i ddefnyddwyr gymryd rhan hefyd. Er enghraifft, os nad yw rhewgelloedd sy'n effeithlon o ran ynni yn cael eu dadmer yn rheolaidd ac yn cael eu cynnal a'u cadw'n briodol, maen nhw’n defnyddio mwy o ynni ac maen nhw’n fwy tebygol o dorri; gallai hyn arwain at golli samplau. Rydyn ni wedi canfod y gall dilyn egwyddorion LEAF arwain at arferion mwy ecogyfeillgar yn y labordy, yn ogystal â bod yn fwy economaidd a diogel.”

Meddai Joe Bater-Davies, Uwch-dechnegydd yn y Gyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg: “Mae tîm technegol Peirianneg Gemegol wedi ennill dyfarniad efydd LEAF ledled ein mannau addysgu am yr ail flwyddyn yn olynol a'n nod yw ennill dyfarniad arian eleni. Mae proses LEAF ei hun wedi ein herio i fyfyrio ar effaith ein gweithgareddau ar yr amgylchedd, gan ein hannog i wneud newidiadau i'n prosesau a'n gweithdrefnau i'w gwneud yn fwy cynaliadwy. Fel budd ychwanegol, rydyn ni hefyd wedi gallu gwella diogelwch labordai a lleihau costau.”

Mae LEAF yn rhaglen a arweinir gan ddefnyddwyr, sy'n berthnasol i labordai ymchwil ac addysgu. Mae adnoddau ategol ar gael gan y tîm cynaliadwyedd, y dudalen labordai cynaliadwy ac adnodd ar-lein LEAF. Mae rhagor o wybodaeth ar gael drwy e-bostio sustainability@abertawe.ac.uk

https://www.mygreenlab.org/about.html 
https://www.frontiersin.org/articles/10.3389/fbuil.2019.00146/full 

Rhannu'r stori