Yn y bennod hon
Mae'n ymddangos bod pwnc ymddiriedaeth ym mhob man, o ymchwil a gwyddoniaeth i drafodaethau cyhoeddus. Mae rhai gwleidyddion yn honni bod y cyhoedd wedi cael llond bol ar arbenigwyr, ond mae arolygon barn presennol yn dangos y gwrthwyneb: mae ymddiriedaeth mewn arbenigedd gwyddonol yn uwch nag ymddiriedaeth mewn gwleidyddion. O ymchwil a gynhaliwyd yn y DU ac ym mhedwar ban byd, rydym yn gwybod bod ymddiriedaeth yn bwysig.
Yn y podlediad hwn, mae Dr Gabriela Jiga-Boy yn trafod rhai cwestiynau pwysig: Beth sy'n digwydd i ymddiriedaeth pobl mewn arbenigwyr pan fydd gwleidyddion yn polareiddio ffeithiau gwyddonol? Beth sy'n digwydd i ymddiriedaeth pobl mewn ffeithiau pan fydd gwybodaeth newydd yn herio credoau blaenorol? Er enghraifft, pan gredid i ddechrau bod COVID-19 yn ymledu drwy arwynebau, cawsom ein cynghori i olchi ein dwylo a diheintio arwynebau. Yn nes ymlaen, rhoddwyd gwybod i ni fod COVID-19 yn feirws a oedd yn cael ei drosglwyddo drwy'r awyr. Felly, cawsom ein cynghori bod gwisgo mygydau o safon dan do'n bwysicach na diheintio arwynebau.
Mae Dr Jiga-Boy hefyd yn trafod a yw gwleidyddion yn ymgorffori ymddiriedaeth yn eu prosesau gwneud penderfyniadau. A ydynt yn ymddiried yn y cyhoedd i gydymffurfio â pholisïau, yn enwedig pan fyddant yn amlwg o fudd i gymdeithas ond ar draul bersonol uchel? Ar y llaw arall, i ba raddau y mae aelodau'r cyhoedd yn teimlo bod y llywodraeth yn ymddiried ynddynt hwythau?
Enillodd Dr Gabriela Jiga-Boy radd baglor mewn seicoleg o Brifysgol Babes-Bolyai yn Cluj-Napoca, Rwmania. Ar ôl astudio yn Université Grenoble Alpes yn Ffrainc fel myfyriwr ar raglen gyfnewid Erasmus, aeth seicoleg gymdeithasol â'i bryd yn llwyr. Aeth Gabriela ymlaen i ennill gradd meistr ac yna radd PhD yn 2008 mewn seicoleg gymdeithasol arbrofol yn Université Grenoble Alpes.
Bu Gabriela yn Gynorthwy-ydd Ymchwil ym Mhrifysgol Caerdydd cyn datblygu fel Ymchwilydd Ôl-ddoethurol tair blynedd ym Mhrifysgol Abertawe yn 2009. Yna fe'i penodwyd yn Ddarlithydd ym Mhrifysgol Abertawe yn 2012 cyn cael ei dyrchafu i swydd Uwch-ddarlithydd yn 2016.
Mae ei hymchwil yn ystyried ymddiriedaeth fel lluniad dwyffordd: Sut i wella ymddiriedaeth iach y cyhoedd mewn gwleidyddion ac arbenigwyr, ac a yw'r rhai hynny sy'n llywodraethu yn ymddiried yn y rhai hynny y maent yn eu llywodraethu i wneud penderfyniadau anodd. Yn benodol, mae'n defnyddio seicoleg gymdeithasol arbrofol i brofi a yw barn pobl am ymddiried neu beidio ag ymddiried mewn arbenigwyr neu wleidyddion yn dibynnu ar normau cymdeithasol o ran ymddiriedaeth (h.y. sut mae pobl yn canfod bod eraill mewn cymdeithas yn ymddiried neu'n peidio ag ymddiried yn y cyfranogwyr hynny).
Mae hefyd yn ymchwilio i sut mae ymddiriedaeth neu ddiffyg ymddiriedaeth gwleidyddion mewn pleidleiswyr yn llywio eu polisïau. Sefydlodd The Trust Lab yn Ysgol Seicoleg Prifysgol Abertawe. Mae'r tîm yn cydweithredu â chydweithwyr o Ewrop, Unol Daleithiau America ac Asia, gan gynnwys yr Athro Leaf Van Boven (Prifysgol Colorado Boulder, Unol Daleithiau America), yr Athro Olivier Klein (Universite Libre de Bruxelles, Gwlad Belg), Dr Jennifer Cole (States United Democracy Center, Unol Daleithiau America) a Dr Dion Curry (Prifysgol Abertawe, y DU). Mae'r tîm hefyd yn gweithio'n agos gyda'r Athro Yvonne McDermott Rees yn Ysgol y Gyfraith Prifysgol Abertawe ar raglen ymchwil TRUE.
Gwrandewch ar eich hoff blatfform
Mae sawl ffordd y gallwch chi wrando ar, neu hyd yn oed gwylio, ein cyfres o bodlediadau. Cliciwch ar un o’r dolenni isod, a fydd yn mynd â chi i’ch hoff blatfform. Ewch i’n tudalen help gyda phodlediadau i gael rhagor o wybodaeth a sut i wrando.