Yn y bennod hon
Mae'r ddadl o ran cynnwys athletwyr trawsryweddol a Gwahaniaeth mewn Datblygiad Rhyw (DSD) yn y categori benywaidd wedi achosi llawer o ddadleuon, yn enwedig mewn chwaraeon elît ac ystyried ffactorau fel mantais gynhenid a gwahaniaethau biolegol. Felly er mwyn cynnal cystadleuaeth deg, a ddylem gadw categorïau rhyw neu fabwysiadu polisïau mwy cynhwysol?
Yn y bennod hon, mae'r cyflwynydd Dr Sam Blaxland a Dr Shane Heffernan, Uwch-ddarlithydd yn y Gyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg yn sgwrsio am sut gallwn ni drafod y materion cymhleth hyn mewn ffordd agored. Mae Dr Heffernan yn sgwrsio am y prosiect DATES (yr Astudiaeth Chwaraeon Elît ar gyfer DSD a Phobl Drawsryweddol), sy'n ymchwilio i feini prawf cymhwysedd mewn chwaraeon elît o safbwynt barn athletwyr. Mae Dr Heffernan hefyd yn trafod astudiaeth OMNIPLaNT (Omnivorous & Non-meat eater Integrative PhysioLogy and NutriTion), sy'n ymchwilio i effaith deietau planhigion ar ffisioleg ddynol, gan gynnwys cyhyrau, esgyrn, iechyd cardiofasgwlaidd, a pherfformiad wrth ymarfer corff.
Mae Dr Shane Heffernan yn Uwch-ddarlithydd yn yr Adran Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer Corff ac mae'n ymchwilio i effaith deietau planhigion ar iechyd a pherfformiad, geneteg chwaraeon ac ymarfer corff, dulliau maethroddol amgen i reoli osteoarthritis ac mae ei ffocws presennol yn edrych ar faterion cymhleth meini prawf cymhwysedd ar gyfer athletwyr trawsryweddol a DSD/rhyngryw.
Mae gan Dr Heffernan gefndir mewn ffisioleg foleciwlaidd a gwaith ymchwil sy'n ymwneud â nodweddion genetig athletwyr elît. Mae gan Shane swydd darlithydd gwadd gyda Phrifysgol Coleg Dulyn yn addysgu ar ei gradd Iechyd a Gwyddor Berfformiad. Mae'n aelod o Grŵp Diddordeb Arbennig Cymdeithas Brydeinig y Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer Corff (BASES) ar Ffisioleg Foleciwlaidd ac yn ymgynghorydd gwyddonol i'r Gymdeithas Feganaidd.
Gwrandewch ar eich hoff blatfform
Mae sawl ffordd y gallwch chi wrando ar, neu hyd yn oed gwylio, ein cyfres o bodlediadau. Cliciwch ar un o’r dolenni isod, a fydd yn mynd â chi i’ch hoff blatfform. Ewch i’n tudalen help gyda phodlediadau i gael rhagor o wybodaeth a sut i wrando.