Yn y bennod hon

Mae Dr Gulzat Botoeva yn mynd â gwrandawyr ar daith i dirwedd economaidd-gymdeithasol gymhleth cloddio am aur ar raddfa fach yn rhanbarth Naryn yn Kyrgyzstan. Mae Dr Botoeva yn trafod cyfraniad cymunedau lleol mewn protestiadau yn erbyn ac o blaid cwmnïau mwyngloddio swyddogol. 

Drwy ymchwil a dadansoddiad craff, mae Dr Botoeva yn datgelu'r amodau economaidd-gymdeithasol ehangach sy'n llywio safbwyntiau unigolion tuag at gloddio am aur, gan fynd y tu hwnt i droseddoldeb neu fanteisiaeth economaidd yn unig. Drwy glywed straeon a safbwyntiau rhanddeiliaid amrywiol, gan gynnwys glowyr anghyfreithlon gynt, pentrefwyr sy'n dibynnu ar fudd-daliadau sy'n gysylltiedig â chloddio a gweithwyr mewn cloddfeydd swyddogol, mae Dr Botoeva yn datgelu'r ystod amrywiol o fuddiannau a phryderon sy'n berthnasol. 

Un o ddatguddiadau allweddol ymchwil Dr Botoeva yw sut mae bywoliaeth a lles pobl leol yn gysylltiedig yn agos â gweithgarwch mwyngloddio, boed hynny drwy ddefnyddio adnoddau naturiol, enillion ariannol neu gael mynediad at fudd-daliadau cymdeithasol.  

Mae Dr Botoeva yn cynnig dealltwriaeth ddofn o brofiadau byw unigolion y mae dryswch trawsnewidiad economaidd a deinameg wleidyddol yn effeithio arnynt. Yn ogystal â chyfoethogi ein dealltwriaeth o gymhlethdodau economaidd-gymdeithasol cloddio am aur yn Kyrgyzstan, mae ei gwaith hefyd yn amlygu'r angen i fabwysiadu ymagwedd gyfannol at fynd i'r afael â'r heriau y mae'r cymunedau hyn yn eu hwynebu. Drwy dynnu sylw at eu barn a thaflu goleuni ar eu problemau, mae ymchwil Dr Botoeva yn alwad bwerus i weithredu i lunwyr polisi, ymchwilwyr a dinasyddion byd-eang ystyried dimensiynau dynol defnyddio adnoddau ac ymdrechu i ddod o hyd i atebion sy'n fwy teg a chynaliadwy. 

Kyrgyzstan

Am ein harbenigwr

Mae Dr Gulzat Botoeva yn Uwch-ddarlithydd mewn Troseddeg yn yr Adran Troseddeg, Cymdeithaseg a Pholisi Cymdeithasol ym Mhrifysgol Abertawe.

Mae Dr Botoeva wedi ymroi ei gyrfa academaidd i ddeall gweithgareddau economaidd anghyfreithlon, gan ganolbwyntio'n benodol ar gymhlethdodau rhanbarthau Canol Asia, gan ddod â gwybodaeth a dealltwriaeth bersonol i'w hymchwil.

Datblygodd astudiaethau doethurol Dr Botoeva ym Mhrifysgol Essex ei harbenigedd ac, ers 2015, mae hi wedi bod yn rhannu ei gwybodaeth a'i phrofiad helaeth fel darlithydd yn y DU. 

Gwrandewch ar eich hoff blatfform

Mae sawl ffordd y gallwch chi wrando ar, neu hyd yn oed gwylio, ein cyfres o bodlediadau. Cliciwch ar un o’r dolenni isod, a fydd yn mynd â chi i’ch hoff blatfform. Ewch i’n tudalen help gyda phodlediadau i gael rhagor o wybodaeth a sut i wrando.