EPSRC Cyfrif Cyflymiad Effaith
Ar ôl cwblhau dau gam cyntaf y prosiect IAA yn llwyddiannus, mae EPSRC wedi dyfarnu £156,078 pellach i Brifysgol Abertawe i barhau i gefnogi’r gwaith o ddatblygu effaith sy’n deillio o’n portffolio ymchwil, a ariennir gan EPSRC, tan ddiwedd mis Mawrth 2021.
Mae £105,000 o’r cyllid hwn yn cael ei ddyrannu i gefnogi secondiad, camau cynnar masnacheiddio a phrosiectau ymgysylltu defnyddwyr/busnesau, wedi’i alinio i ehangu portffolio EPSRC.
Yn ogystal, bydd IAA yn cynnig cyfleoedd hyfforddiant i hybu cyfle diwylliant, a sefydlu effaith ar draws ei bortffolio ymchwil. Bydd y Brifysgol yn datblygu ymhellach ei rhaglen o hyfforddiant effaith i academyddion a myfyrwyr ôl-radd.Bydd Cyfrif Cyflymu Effaith (IAA) Abertawe yn cael ei gynnal am dair blynedd tan 30 Mawrth 2021 a’i nod yw gwella’r ffordd mae’r Brifysgol yn cyflwyno effaith yn barhaol.
Bydd hyn yn cael ei gyflawni drwy flaenoriaethu meysydd ymchwil sy'n cwmpasu iechyd, ynni, gweithgynhyrchu, gwyddoniaeth gyfrifiadurol, datblygiad technoleg, a disgyblaethau cysylltiedig, a thrwy ddatblygu a gweithredu rhaglen o ddulliau arloesol a fydd yn trawsnewid portffolio effaith ymchwil EPSRC Abertawe.
Beth yw Effaith?
Un o nodweddion pwysig ymrwymiadau EPSRC i uchafu effaith eu buddsoddiadau yw eu buddsoddiadau mewn Cyfrifon Cyflymder Effaith (IAAs). Cafodd IAAs eu cyflwyno yn 2012 i ddarparu cefnogaeth hyblyg ar gyfer gweithgareddau er mwyn cyflymu ac ehangu darpariaeth effaith o bortffolio EPSRC. Felly, ers 2012 mae Prifysgol Abertawe yn defnyddio cyllid IAA i ddatblygu a gweithredu rhaglen o ddulliau gweithredu arloesol a fydd yn trawsffurfio effaith ei bortffolio ymchwil y Cyfleuster Cenedlaethol Sbectromeg Màs (ESPRC).
Gall effaith o ymchwil gael ei ddiffinio "fel effaith ar, newid neu fudd i'r economi , cymdeithas , diwylliant , polisi cyhoeddus neu wasanaethau, iechyd , yr amgylchedd neu ansawdd bywyd, y tu hwnt i'r byd academaidd " (Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (2014).