Effaith yw'r gwahaniaeth mae ein ymchwil yn ei wneud i gymdeithas; y dylanwad sydd gennym ar unigolion, cymunedau, diwydiant a datblygiad polisi; y budd a'r gwahaniaeth y mae ein gweithgareddau ymchwil yn ei roi.

Mae ymchwilwyr Prifysgol Abertawe yn cyfrannu'n bositif i newidiadau cymdeithasol byd-eang drwy effaith eu hymchwil.

Dathlu Ymchwil ac Arloesi a'r effaith mae hyn yn ei gael ar draws y byd

Ar 30 Mawrth 2020, ymunom â phartneriaid o sefydliadau cyhoeddus, preifat a thrydydd sector i ddathlu ystod eang o'r ymchwil a'r arloesi eithriadol sy'n digwydd ym Mhrifysgol Abertawe a'r effaith y mae hyn yn ei chael ar draws y byd.

Hoffem ddiolch i bob un o'n noddwyr, siaradwyr, cyfranogwyr a'n gwestai arbennig, Elin Rhys.

Ewch i'n tudalen Uchafbwyntiau Gwobrau Ymchwil ac Arloesi 2020 i gael gwybod mwy, ac edrychwch ar ein fideo i gael gwybodaeth am ein holl bartneriaid, noddwyr a manylion y rhai a gyrhaeddodd y rhestr fer.

Winners

Cefnogi Unigolion a Sefydliadau gyda Phrosiectau a Ariennir gan Gronfeydd Strwythurol yr UE

Mae cronfeydd yr UE yn helpu i gefnogi pobl i gael gwaith a hyfforddiant, cyflogaeth ieuenctid, ymchwil ac arloesi, cystadleurwydd busnes, busnesau ynni adnewyddadwy ac effeithlonrwydd ynni, a chysylltedd a datblygu trefol. I gael rhagor o wybodaeth am brosiectau Cronfeydd Strwythurol yr UE (2014 - 2020) sydd wedi'u lleoli ym Mhrifysgol Abertawe,