Mae Prifysgol Abertawe ar y rhestr fer ar gyfer Gwobr Rhagoriaeth Sefydliad Siartredig Cyfrifwyr Rheoli (CIMA).
Mae'r wobr unigryw hon yn cydnabod y sefydliadau academaidd sydd wedi hyfforddi Myfyrwyr Gorau'r Flwyddyn CIMA. Nid yw'r categori hwn yn agored i'w enwebu ond mae'n cael ei reoli gan grŵp pwyllgor CIMA canolog, sy'n asesu'r cymhwysedd yn seiliedig ar farciau pasio a gallu'r sefydliad i annog myfyrwyr i sefyll eu harholiadau CIMA cyn graddio.
Dywedodd Sarah Jones, Pennaeth Adran Cyfrifyddu a Chyllid yr Ysgol Reolaeth:
"Mae'n anrhydedd bod Prifysgol Abertawe wedi cael ei chydnabod am ein gwaith i sicrhau bod myfyrwyr yn cael yr addysg fwyf perthnasol a diweddaraf; fydd yn rhoi mantais gystadleuol iddynt pan fyddant yn dechrau eu gyrfaoedd yn y maes. Mae CIMA yn gorff achredu a gydnabyddir yn fyd-eang ac mae'r rhestr fer bwysig hon yn dyst i waith caled ein myfyrwyr a'n staff yn yr Ysgol Reolaeth."
Dywedodd yr Athro Steve Cook, Pennaeth yr Adran Economeg:
"Mae hyn yn newyddion gwych. Mae'r Adran Economeg yn hynod falch o’n myfyrwyr ac am eu llwyddiant haeddiannol ar lefel fyd-eang, sydd wedi golygu ein bod ni, fel sefydliad, wedi eu rhoi ar y rhestr fer. Mae hyn yn gyflawniad hollol eithriadol!"
CIMA yw corff proffesiynol mwyaf blaenllaw a mwyaf y byd o gyfrifwyr rheoli. Mae'n helpu unigolion a busnesau i lwyddo drwy harneisio pŵer llawn cyfrifyddu rheolwyr – nid dim ond cyfrif am y fantolen, ond cyfrif am fusnes.
Cynhelir y Seremoni Wobrwyo ar 11 Rhagfyr 2020. Ceir rhagor o wybodaeth yma.