Llongyfarchiadau enfawr i Rebecca Reardon, BSc Rheoli Busnes (Marchnata), a Mazhar Hussain, BSc Economeg a Chyllid, ar gyrraedd y 7 Myfyriwr Uchaf o blith 340 o interniaid yng ngwobrau Intern y Flwyddyn Enterprise Rent-a-car.
Ddydd Mercher, 10 Mai, fe’u gwahoddwyd i rownd derfynol Intern y Flwyddyn Enterprise Rent-A-Car yn y pencadlys yn Llundain. Bu’n tîm cyflogadwyedd mewnol yn ddigon ffodus i gael eu gwahodd i ddathlu’r llwyddiant gyda’r ddau fyfyriwr a’u gwylio’n gwneud eu cyflwyniad terfynol.
Roedd y cyflwyniadau’n cynnwys y ffyrdd y maent wedi ymwneud â chydraddoldeb ac amrywiaeth trwy gydol eu blwyddyn mewn diwydiant, y ffyrdd y maent wedi ymwneud â’r cyfryngau cymdeithasol, syniad gwella busnes a’u prif uchafbwyntiau o’u blwyddyn mewn diwydiant. Yn y rownd derfynol yn Llundain, roedd panel yn cynnwys Rheolwyr Interniaid yn Enterprise yn penderfynu ar y buddugwr. Yn anffodus, ni enillodd y naill na’r llall o’n myfyrwyr, ond cawsant wobr o £250 yr un a gwobr gan Enterprise am gyrraedd y rownd derfynol.
“Roeddwn i wir ddim yn meddwl y byddai cyrraedd y 7 olaf o blith 340 o interniaid yn y DU ac Iwerddon gyfan yn rhywbeth y gallwn i ei gyflawni, ond wrth i fy interniaeth fynd yn ei flaen, sylweddolais fod fy nghyflawniadau hyd yn hyn y tu hwnt i’r cyfartaledd ac y bydd yr hyn rwy’n ei gael o fy mlwyddyn mewn diwydiant yn deillio o f’ymdrechion i. Rwy’n falch mod i wedi cael trobwynt yn ystod fy mlwyddyn mewn diwydiant, pan gredais y byddai rhoi mwy na 100% yn caniatáu i mi sefyll allan ac ennill cydnabyddiaeth yn y sefydliad.” Mohammed Mazhar Hussain.
“Roedd gweld y pethau ysbrydoledig a gyflawnodd y myfyrwyr yn ystod lleoliadau eu blwyddyn mewn diwydiant yn anhygoel. Llongyfarchiadau i’r ddau ohonoch!” Kia Warlow, Cydlynydd Cyflogadwyedd a Lleoliadau.