Yn ddiweddar, cynhaliodd y Ganolfan ar gyfer Pobl a Sefydliadau (C4PO) yn yr Ysgol Reolaeth ym Mhrifysgol Abertawe eu Symposiwm Blynyddol gan ganolbwyntio ar y thema hanfodol o drefnu cynaliadwy a theg. Roedd y digwyddiad, a ddenodd dorf amrywiol o academyddion, gweithwyr proffesiynol mewn diwydiant a myfyrwyr, yn cynnwys prif araith, cyflwyniadau ar ymchwil a thrafodaethau deinamig. 

Un o uchafbwyntiau’r symposiwm oedd y brif araith a gyflwynwyd gan yr Athro Martin Parker o Brifysgol Bryste. Sefydlodd yr Athro Parker, sy'n adnabyddus am ei waith ar sefydliadau amgen, y dôn trwy ei archwiliad llawn gwybodaeth o sut gall busnesau weithredu yn fwy cynaliadwy a theg yn amgylchedd cymhleth heddiw.

Hefyd, arddangosodd y symposiwm ymchwil o'r radd flaenaf gan dri o ymchwilwyr dawnus y C4PO. Cyflwynodd Dr Leanne Greening, Dr Sarah Marks, a Dr Matt Wilson eu canfyddiadau diweddaraf gan bwysleisio strategaethau arloesol ac atebion ymarferol i feithrin arferion sefydliadol teg. Sbardunodd eu cyflwyniadau sgwrs ystyrlon ymhlith cynrychiolwyr gan atgyfnerthu thema'r symposiwm.

Gan ategu’r cyflwyniadau ymchwil, cyflwynodd chwe ymgeisydd doethurol sy’n gysylltiedig â’r C4PO bosteri yn amlinellu eu hymchwil barhaus. Rhoddodd y sesiynau poster hyn gyfle i gynnal trafodaethau manwl a rhoi adborth, ac ar y diwedd pleidleisiodd y gynulleidfa dros y poster gorau. Llongyfarchiadau i Lucy Griffiths, yr enillodd ei phoster neilltuol y brif wobr iddi.

Daeth y diwrnod i ben trwy gynnal trafodaeth panel fywiog a ddaeth ag ystod o safbwyntiau ynghyd o'r byd academaidd a byd diwydiant. Roedd y panel yn cynnwys gwesteion gwadd gan gynnwys Lisa Hand, Cyfarwyddwr Profiad Pobl yn OGI (Broadband) Cymru, Mike Bobbett, Cyfarwyddwr Cysylltiol Arloesi Busnes yn The Wallich, a Mike Walmsley, Pennaeth Cynhyrchu Incwm yn Hope Rescue Centre.  Hefyd, ymunodd Dr Hadar Elraz a Dr Mariya Mathai o'r C4PO â nhw. Archwiliodd y drafodaeth yr heriau ymarferol a'r cyfleoedd sy’n gysylltiedig â rhoi arferion cynaliadwy a theg ar waith o fewn cyd-destunau sefydliadau amrywiol.

Yn ogystal â phwysleisio'r gwaith sy’n torri tir newydd gan y Ganolfan ar gyfer Pobl a Sefydliadau, meithrinodd y Symposiwm Blynyddol amgylchedd cydweithredol er mwyn rhannu syniadau a meithrin partneriaethau newydd. Tanlinellodd y digwyddiad ymrwymiad Prifysgol Abertawe i fynd i'r afael â materion byd-eang pwysig trwy ymchwil ac arloesi.

I gael rhagor o wybodaeth am y Ganolfan ar gyfer Pobl a Sefydliadau a'u gwaith, cliciwch yma.

 

Rhannu'r stori