Archwilio offer ymarferol a dulliau i gefnogi dysgu annibynnol myfyrwyr

Mae llawer wedi cael ei ysgrifennu am ddysgu annibynnol dros y degawd neu ddau ddiwethaf, ond un gwaith allweddol yng nghyd-destun addysg uwch gyfoes yn y DU yw Effective practice in the design of directed independent learning opportunities (fersiynau llawn a chryno) Thomas, Jones ac Ottaway o 2015 a’r ddogfen atodol, Compendium of effective practice in directed independent learning.

Mae’r trosolwg hwn a’r adnoddau ategol yn manteisio ar y rhain a gwaith diweddar arall, gyda’r nod o’u hategu trwy gynnig cyflwyniad cryno i syniadau cyfredol am ddysgu annibynnol dan gyfarwyddyd i staff academaidd a mentoriaid, yn ogystal â chyfres ymarferol o ddulliau y gallant eu defnyddio wrth ddylunio ymyriadau i gynorthwyo eu myfyrwyr fel dysgwyr annibynnol sy’n datblygu.