Dyma ddisgrifiadau o bethau a phobl Cymraeg a Chymreig...
Llwy Garu
Mae rhoi a derbyn llwyau caru rhwng cariadon, ffrindiau a theulu yn arferiad Cymreig sy'n dyddio'n ôl i'r 17eg ganrif. Mae cerfio penodol ar y llwy yn symbolaidd, e.e. cadwyn yn symbol o deyrngarwch, clo yn addewid o ddiogelwch, a chwlwm Celtaidd yn dynodi cariad tragwyddol. Erbyn heddiw mae'r llwy garu yn ffordd arbennig o ddathlu priodas, pen-blwydd priodas, dyweddiad, neu i ddweud diolch.
Cennin Pedr
Blodyn cenedlaethol Cymru yw’r cennin pedr. Mae’n blodeuo yn gynnar yn y gwanwyn gan gyd-daro â Dydd Gŵyl Dewi ar y 1af o Fawrth. Mae’n symbol o obaith natur. Mae cennin pedr yn cael eu tyfu yn fasnachol yng nghanolbarth Cymru er mwyn cynhyrchu galantamine ar gyfer trin clefyd Alzheimer’s.
Cenhinen
Alliums yw cennin, gwreiddlysiau o'r un teulu â garlleg, cennin syfi, sialóts, a winwns. Mae ganddyn nhw flas melys, winwnsyn sy'n ychwanegu dyfnder at gawliau, stiwiau, pastas, a mwy. Mae’r genhinen bellach yn cael ei chydnabod yn eang fel symbol cenedlaethol Cymru ac fe’i nodwyd fel symbol o Gymru yn Henry V gan William Shakespeare.
Pice ar y Maen
Mae pice ar y maen yn fara melys traddodiadol i Gymru wedi'i goginio ar radell fflat neu faen pobi. Maent wedi bod yn boblogaidd ers diwedd y 19eg ganrif pan ychwanegwyd braster, wyau, siwgr a ffrwythau sych at rysáit hirsefydlog ar gyfer bara fflat. Heddiw mae yna amrywiaeth o flasau ar gael, gan gynnwys rhai siocled, mefus, lemwn a charamel hallt, ond i lawer y ddadl fawr yw, a ydych chi'n ychwanegu sbeis cymysg at eich cymysgedd ai peidio?
Cawl
Mae Cawl yn cael ei gydnabod fel saig genedlaethol Cymru ac mae ryseitiau’n dyddio’n ôl i’r 14eg ganrif. Mae cynhwysion cawl yn dueddol o amrywio, ond mae’r ryseitiau mwyaf cyffredin yn cynnwys darnau o gig oen neu gig eidion gyda chennin, tatws, swêd, moron a gwreiddlysiau eraill. Gwneir “Cawl Cennin” gyda chennin a dim cig. Gweinir cawl yn aml gyda bara a chaws.
Y Ddraig Goch
Dadorchuddiwyd baner genedlaethol Cymru yn swyddogol am y tro cyntaf ym 1959. Fodd bynnag, mae'r ddraig goch wedi cael ei defnyddio fel arwyddlun yng Nghymru ers teyrnasiad Cadwaladr, Brenin Gwynedd o tua 655 OC. Mae arwyddocâd y ddraig yn niwylliant Cymru hefyd yn deillio o chwedl Arthuraidd pan gafodd Myrddin weledigaeth o ddraig goch (yn cynrychioli Brythoniaid brodorol) yn ymladd draig wen (y goresgynwyr Sacsonaidd). Mae’r defnydd o wyrdd a gwyn yn cyfeirio at liwiau Tŷ’r Tuduriaid, y teulu brenhinol o darddiad Cymreig o’r 15fed ganrif. Yn 2021 enwyd y Ddraig Goch yn swyddogol fel y faner orau yn y byd yn dilyn arolwg barn byd-eang gan Ranker.
Y Gymraeg
Mae iaith frodorol Cymru, Cymraeg, yn cael ei siarad gan dri chwarter miliwn o bobl – y rhan fwyaf yn byw yng Nghymru, ond mae miloedd o siaradwyr hefyd yn Lloegr, UDA, Canada, Awstralia a’r Ariannin i enwi dim ond rhai gwledydd. Rhoddodd Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 statws swyddogol i’r Gymraeg yng Nghymru.
Mae 29 llythyren yn yr wyddor Gymraeg gan gynnwys 7 llafariad ac mae amrywiadau rhanbarthol a thafodieithoedd.
Dewi Sant
Esgob Mynyw (Tyddewi yn Sir Benfro erbyn hyn) yn ystod y 6ed ganrif oedd Dewi Sant. Ef yw nawddsant Cymru. Credir ei fod yn fab i'r Santes Non ac yn ŵyr i Ceredig ap Cunedda, brenin Ceredigion. Digwyddodd ei wyrth fwyaf adnabyddus pan oedd yn pregethu yng nghanol tyrfa fawr ym mhentref Llanddewi Brefi a chododd y tir roedd yn sefyll arno i ffurfio bryn bychan gan ganiatáu i'r bobl ei weld a'i glywed. Yn ôl y chwedl, ble bynnag yr âi, byddai colomen wen yn dilyn – dyna pam mae’r rhan fwyaf o ddelweddau o’r sant yn cynnwys colomen wen uwch ei ben.