Fel prifysgol sydd wedi ei lleoli yng Nghymru, rydyn ni'n falch i ddathlu ein hanes a diwylliant unigryw.

Mae Dydd Gŵyl Dewi yn cael ei ddathlu ar y 1af o Fawrth bob blwyddyn. Os ydych chi eisiau dysgu mwy am Gymru, edrychwch ar ein taflen wybodaeth ddefnyddiol ar lein.

Mae Undeb y Myfyrwyr ac adrannau eraill wedi trefnu amserlen o weithgareddau i nodi'r wythnos bwysig hon yn y calendr Cymreig, i roi cyfle i staff a myfyrwyr allu dathlu, ac i addysgu a rhoi cyfle i eraill i ddod i wybod mwy am ein diwylliant.

Galeri Lluniau a fideo Diwrnod ♥ Cymru 2022

Llynedd fe wnaethon ni ddathlu popeth Cymraeg mewn digwyddiad arbennig i gyd fynd gyda dathliadau Gŵyl Ddewi. Porwch drwy ein galeri lluniau a gwyliwch fideo sy'n dangos uchafbwyntiau'r diwrnod. 

Diwrnod ❤️ Cymru Day