Pob cyfle i wireddu eich potensial
Rydym yn ymdrechu i sicrhau bod pob myfyriwr yn cael y cyfle i wireddu ei lawn botensial. Mae Prifysgol Abertawe wedi ymrwymo i ddatblygu ymhellach ein gwasanaethau cymorth sgiliau academaidd a llesiant ar gyfer myfyrwyr Cymraeg eu hiaith.
Digwyddiad Croeso i lasfyfyrwyr
Gan ddechrau yn ystod yr Wythnos Groeso, cewch gymaint o help a chefnogaeth â phosib sy'n cychwyn gyda digwyddiad croeso i fyfyrwyr Cymraeg wedi'i drefnu gan Academi Hywel Teifi.
Yn ystod y digwyddiad bydd cyfle i chi;
- ddysgu mwy am y ddarpariaeth Gymraeg
- ddod i adnabod staff cyfrwng Cymraeg
- ddysgu am y cyfleoedd a'r gefnogaeth sydd ar gael i chi yn ystod eich amser yn astudio gyda ni
- gwrdd â myfyrwyr Cymraeg eraill o bob cwr o Gymru!
Cefnogaeth gyda'ch sgiliau academaidd
Mae Canolfan Llwyddiant Academaidd yn cynnig cyngor arbenigol ar gyfer myfyrwyr sy’n defnyddio’r Gymraeg yn eu bywydau academaidd. Mae’r ddarpariaeth hyn wedi ei deilwra ar gyfer y cyd-destun Gymraeg, a rhoddir sylw i anghenion penodol myfyrwyr cyfrwng Cymraeg, gan gynnwys ymarferion dwyieithog, technoleg a meddalwedd priodol, yn ogystal i’r sgiliau sy’n gyffredin i fyfyrwyr o unrhyw iaith - meddwl yn feirniadol, cyfansoddi dadl, cyfeirio ac aralleirio, a sgiliau ysgrifennu ac ymchwilio.
Mae gan y Ganolfan Llwyddiant Academaidd rhaglen fywiog ac amrywiol cyfrwng Cymraeg yn cynnwys cyrsiau ac adnoddau e-ddysgu, ynghyd â gweithdai wyneb yn wyneb. Ewch i dudalennau'r Ganolfan ar MyUni am fanylion.
Cymorthfeydd Cangen y Coleg Cymraeg
Rhan o waith y Gangen ydi gwneud yn siŵr fod yna ddigon o ddarpariaeth ar gael drwy'r Gymraeg i fyfyrwyr yma yn Abertawe, ac i gynnal y gymuned Gymraeg. Pob mis, mae'r Gangen yn cynnig cymorthfa ar Gampws y Bae a Champws Singleton. Mae hwn yn gyfle i fyfyrwyr alw heibio i siarad â'r Swyddog Cangen am sgwrs anffurfiol lle mae modd holi cwestiynau am y cwrs ac am fywyd cyffredinol fel myfyrwyr neu codi pryderon. Mae hefyd yn gyfle i fyfyrwyr gyfarfod â myfyrwyr Cymraeg eraill. Cynhelir y sesiynau galw heibio yn ystod y tymor academaidd rhwng 10am-12pm ar ddydd Mercher cyntaf pob mis ar gampws Singleton (Ystafell Talbot 162), ac ar ddydd Iau cyntaf pob mis ar gampws y Bae (Y Twyni). At hynny, mae swyddfa'r Gangen o hyd yn agored, ac mae croeso i myfyrwyr alw heibio ystafell Talbot 162 unrhyw bryd.
Cefnogaeth i ddatblygu sgiliau ar gyfer y byd gwaith
Un o brif amcanion y Brifysgol yw paratoi a hyrwyddo cyflogadwyedd myfyrwyr. Mae ein cyrsiau academaidd yn anelu at dy arfogi â’r profiad gwerthfawr a sgiliau lefel uchel y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt. Lle bynnag y bo’n bosibl, mae ein cyrsiau wedi’u hachredu gan gyrff proffesiynol. Mae ein hanes hir o weithio gyda busnes, diwydiant, masnach a’r yn y sector cyhoeddus yn ein galluogi i ychwanegu gwerth gwirioneddol at dy addysg. Rydym yn gwrando ar gyflogwyr pan fyddant yn dweud wrthym pa sgiliau a phrofiadau y maent yn ei gwneud yn ofynnol gan eu gweithwyr graddedig, ac rydym yn teilwra’n cyrsiau i sicrhau dy fod yn ennill sgiliau proffesiynol a lefel uchel sy’n dy alluogi i ffynnu yn y byd cystadleuol sydd ohoni.
I ddysgu am y gefnogaeth sydd ar gael i ddatblygu dy sgiliau i'r byd gwaith, gan gynnwys y Tystysgrif Sgiliau Iaith, cer i Cyflogadwyedd a Mentergarwch - Academi Hywel Teifi.