Cefnogi myfyrwyr ôl-radd cyfrwng Cymraeg
Nod Ysgoloriaeth Goffa Hywel Teifi yw cefnogi myfyrwyr ôl-radd cyfrwng Cymraeg sydd am astudio maes yn ymwneud â chyfraniad y diweddar Athro Hywel Teifi Edwards i ddysg a diwylliant Cymru - yn benodol ym meysydd:
- Hanes
- Llenyddiaeth
- Cymraeg
- Gwleidyddiaeth
- Y cyfryngau
- Drama
- Crefydd
- Astudiaethau Diwylliannol
Gwahoddir ceisiadau ar gyfer yr ysgoloriaeth, sy’n werth £3000, gan unigolion sydd am astudio cwrs ôl-radd cyfrwng Cymraeg ym Mhrifysgol Abertawe yn un o’r meysydd astudiaeth uchod.
I ymgeisio am yr ysgoloriaeth, anfonwch lythyr cais, CV ac amlinelliad o’ch maes ymchwil at Gyfarwyddwr Academi Hywel Teifi, Dr. Gwenno Ffrancon, erbyn 30 Mehefin 2023. Darllenwch yr Amodau a Thelerau cyn cwblhau cais.
Mae’n rhaid bod ymgeiswyr yn gwneud cais am PhD, MPhil neu MRes i ddechrau rhwng Awst 2023 a Gorffennaf 2024. Nid yw graddau Meistr a Addysgir yn gymwys. Cynigir yr ysgoloriaeth hon bob yn ail flwyddyn.
Ar gyfer unrhyw ymholiadau, cysylltwch gyda Dr. Gwenno Ffrancon