Ar ôl i chi dderbyn eich cynnig lle, cewch ganslo'r lle o fewn 14 diwrnod heb roi unrhyw reswm yn unol â Rheoliadau Contractau Defnyddwyr (Gwybodaeth, Canslo a Thaliadau Ychwanegol). Mae'r cyfnod canslo yn para 14 diwrnod o'r dyddiad y dywedoch wrthym eich bod am dderbyn eich lle.

Os byddwch yn canslo'ch cynnig o fewn 14 diwrnod, caiff unrhyw ffioedd a daloch eu had-dalu yn llawn ac yn ddi-oed, a beth bynnag, heb fod yn hwyrach na 14 diwrnod ar ôl y diwrnod y dywedwch wrthym eich bod am ganslo eich lle. Byddwn yn eich ad-dalu yn yr un modd ag y defnyddioch ar gyfer eich taliad gwreiddiol, oni bai i chi gytuno fel arall; a beth bynnag, ni fyddwch yn mynd i gostau o ganlyniad i ad-daliad. Os byddwch yn dechrau eich rhaglen yn ystod y cyfnod canslo, bydd y Brifysgol yn codi ffi resymol am y rhaglen a ddarparwyd.

Gallwch ganslo eich lle drwy roi gwybod i Swyddog Derbyn y Brifysgol drwy e-bostio admissions@abertawe.ac.uk neu drwy ysgrifennu i Swyddfa Derbyn, Prifysgol Abertawe, Parc Singleton, Abertawe SA2 8PP.