Darparu gwybodaeth anghywir i gefnogi cais

Rhaid i bob ymgeisydd ar gyfer lle ym Mhrifysgol Abertawe lofnodi datganiad ymgeisydd. Beth bynnag fydd natur y cais, mae pob datganiad o'r fath yn cynnwys gofyniad bod yr ymgeisydd yn cadarnhau bod yr wybodaeth a ddarperir yn gywir.

Os ymddengys fod gwybodaeth anghywir wedi'i darparu i gefnogi cais:

1. Bydd y Rheolwr Derbyn Myfyrwyr perthnasol yn ysgrifennu at yr ymgeisydd/myfyriwr gan amlinellu'r anghysondeb a bydd gan yr ymgeisydd/myfyriwr saith niwrnod gwaith fel arfer i gyflwyno ymateb ysgrifenedig mewn perthynas â’r mater dan sylw.

2. Ar ôl iddo dderbyn yr ymateb, bydd y Rheolwyr Derbyn Myfyrwyr, yn y lle cyntaf, yn cyfeirio'r achos at y Pennaeth Derbyn Myfyrwyr neu unigolyn sydd wedi'i enwebu ganddo, i ystyried y dystiolaeth.

3. Os na fydd yr ymgeisydd/myfyriwr yn ymateb o fewn yr amserlen a ddarperir yna gall y Pennaeth Derbyn Myfyrwyr (neu unigolyn sydd wedi'i enwebu ganddo) ystyried y mater, ar sail y dystiolaeth sydd ar gael.

4. Os bydd y Pennaeth Derbyn Myfyrwyr (neu unigolyn sydd wedi'i enwebu ganddo) yn ystyried bod yr esboniad sydd wedi cael ei ddarparu'n dderbyniol, caiff yr achos ei gau a chadarnheir hyn yn ysgrifenedig ar gyfer yr ymgeisydd/myfyriwr.

5. Os bydd y Pennaeth Derbyn Myfyrwyr (neu unigolyn sydd wedi'i enwebu ganddo) yn ystyried bod yr wybodaeth a ddarparwyd yn anghywir a bod esboniad afresymol wedi cael ei ddarparu dros hynny, yna rhoddir gwybod am y penderfyniad i'r ymgeisydd/myfyriwr yn ysgrifenedig fel a ganlyn:

         a. Ar adeg cyflwyno cais – caiff y cais ei ganslo/dynnu'n ôl a chaiff contract yr ymgeisydd â'r Brifysgol ei ddiddymu.

         b.Ar ôl cofrestru - caiff y myfyriwr ei dynnu'n ôl o'r Brifysgol a chaiff contract y myfyriwr â'r Brifysgol ei ddiddymu.

6. Gall ymgeiswyr sydd am apelio i'r Arweinydd Academaidd ar gyfer Derbyn Myfyrwyr yn erbyn unrhyw rai o'r cosbau uchod wneud hynny drwy'r broses Apeliadau Derbyn Myfyrwyr.

     Gall myfyrwyr cofrestredig sydd am apelio yn erbyn penderfyniad i'w tynnu'n ôl o dan y weithdrefn hon gyflwyno Adolygiad Terfynol i Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Addysg yn unol â'r Weithdrefn Adolygu Terfynol.