Pa safon iaith Saesneg sy'n ofynnol i astudio ym mhrifysgol Abertawe?

Rhaid i'r holl fyfyrwyr ddangos eu bod wedi cyrraedd safon benodol yn Saesneg cyn dechrau eu rhaglen. Bydd angen i chi ddarparu cymhwyster neu brawf iaith Saesneg cydnabyddedig cyn cael eich derbyn i Brifysgol Abertawe.

Mae gofynion iaith Saesneg penodol wedi'u rhestru ar dudalen eich cwrs yn yr adran Gofynion Mynediad. Mae ein gofynion iaith Saesneg wedi'u rhestru fel sgoriau IELTS, ond rydym yn derbyn yr ystod eang o brofion iaith Saesneg eraill isod.

Sylwer, efallai y bydd rhai ysgoloriaethau ymchwil a ariennir yn cynnwys gofyniad am ennill sgôr prawf iaith Saesneg uwch na’r sgôr safonol cyn cofrestru neu eich bod yn meddu arni pan fyddwch chi’n cyflwyno cais. Mae manylion ynghylch gofynion mynediad Iaith Saesneg pwrpasol arfaethedig wedi’u rhestru ar bob hysbyseb ysgoloriaeth unigol. Gallwch ddod o hyd i’r ysgoloriaethau ymchwil sydd ar gael gyda ni ar hyn o bryd yn Ysgoloriaethau Ymchwil

Os nad yw eich sgoriau Saesneg yn bodloni ein gofynion, efallai y cewch eich derbyn os byddwch yn cwblhau Rhaglen Gyn-sesiynol Iaith Saesneg Gwasanaethau Hyfforddiant Iaith Saesneg (ELTS) i'r lefel ofynnol cyn dechrau eich rhaglen academaidd. 

Pa sgôr IELTS sydd ei angen arnaf ar gyfer rhaglen radd?

Profion a Chymwysterau Cymeradwy

Sylwer: Er y byddai'r profion a'r cymwysterau canlynol yn caniatáu i chi gael eich derbyn i'r Brifysgol, os nad ydych wedi pasio prawf Saesneg sicr neu os nad ydych yn ddinesydd gwlad lle mae mwyafrif y boblogaeth yn siarad Saesneg, dylech ddisgwyl sefyll prawf Saesneg byr wrth gofrestru. Diben hyn yw asesu a fyddech yn elwa o gymorth ychwanegol gyda'ch Saesneg a bydd hefyd yn ein helpu wrth lunio'n polisi ar dderbynioldeb profion iaith Saesneg eraill.

Beth allaf ei wneud os yw fy sgôr yn is na'r lefel ofynnol?

Os yw eich sgôr yn is na'r lefel ofynnol, argymhellwn eich bod yn mynychu ein cyrsiau Iaith Saesneg cyn-sesiynol, a ddarperir gan ein Gwasanaethau Hyfforddiant Iaith Saesneg (ELTS).

Mae'r Gwasanaethau Hyfforddiant Iaith Saesneg (ELTS) wedi'u hachredu gan y Cyngor Prydeinig a Chymdeithas Darlithwyr Saesneg at Ddibenion Academaidd Prydain (BALEAP), ac maent yn cynnig ystod eang o raglenni i wella'ch iaith Saesneg a'ch sgiliau astudio academaidd cyn dechrau eich gradd, a gellir teilwra rhaglenni ar gyfer grwpiau a chynnig ystod o Raglenni Haf cyffrous.

Os oes gennych sgôr iaith Saesneg o IELTS 4.0 neu is, cynghorwn eich bod yn astudio Iaith Saesneg yn eich ysgol, coleg neu ddarparwr Iaith Saesneg lleol.

BETH OS YW FY MHRAWF NEU GYMHWYSTER Y TU HWNT I’R CYFNOD DILYSRWYDD?

Rhaid i’r holl brofion a chymwysterau fod wedi eu hennill o fewn nifer penodol o flynyddoedd cyn dechrau eich cwrs gyda ni. Os ydych yn meddu ar un o’r profion neu gymwysterau cymeradwy a restrir uchod sy’n bodloni gofynion safonol y rhaglen, ond enillwyd y tu hwnt i’r cyfnod dilysrwydd, gall fod yn bosib eich derbyn o hyd os ydych wedi parhau i astudio neu weithio drwy gyfrwng y Saesneg ers sefyll y prawf.

Er enghraifft:

  • Os ydych wedi cwblhau blwyddyn astudio 1 yn llwyddiannus ar lefel uwchradd, israddedig neu ôl-raddedig yn Saesneg yn ystod y 10 mlynedd ers dyddiad dechrau’r rhaglen – darparwch lythyr, trawsgrifiad neu dystysgrif gan yr ysgol neu goleg sy’n cadarnhau bod yr astudio drwy gyfrwng y Saesneg;
  • Os ydych wedi gweithio mewn Gwlad sy’n Siarad Saesneg yn Bennaf am gyfnod sylweddol o amser ers cwblhau eich prawf neu gymhwyster Saesneg cymeradwy – darparwch CV manwl sy’n nodi natur y gwaith;
  • Os ydych wedi gweithio mewn unrhyw wlad arall drwy gyfrwng y Saesneg am gyfnod sylweddol o amser ers cwblhau eich prawf neu gymhwyster Saesneg cymeradwy, efallai y bydd hi’n bosib eich eithrio rhag prawf Saesneg arall – a wnewch chi gynnwys geirda gan eich cyflogwr sy’n cadarnhau eich bod wedi gweithio’n ffurfiol drwy gyfrwng y Saesneg gan ddefnyddio’r ffurflen isod fel y gallwn gynnal asesiad:

 English Language Employer Reference Form (Ffurflen Adroddiad Canolwr Iaith Saesneg i Gyflogwyr)

Gwybodaeth Bellach

Cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn os nad yw eich cymhwyster Saesneg wedi'i restru neu os oes gennych unrhyw gwestiynau em ein gofynion: