Andreja Sokolovaite

Andreja Sokolovaite

Gwlad:
Lithwania
Cwrs:
BSc Marchnata

Andreja ydw i, a dwi'n astudio BSc Marchnata. Rwyf wedi cwblhau lleoliad marchnata ym Mhrifysgol Abertawe, a dwi wrth fy modd ynghylch sut aeth pethau!

Gweithiais gyda'r tîm marchnata ar wefan y brifysgol, gan helpu gyda gwahanol dasgau fel prawf ddarllen, creu cynnwys newydd ar gyfer tudalennau'r cwrs, diweddaru'r wefan a llawer o weithgareddau marchnata eraill.

O’m blwyddyn gyntaf yn y brifysgol, fe geisiais i gymryd rhan mewn gweithgareddau allgyrsiol, ymuno â chymdeithasau a sicrhau fy mod yn cynnig fy hun ar gyfer gwahanol gyfleoedd. Fe ddes i’n llysgennad myfyrwyr a helpu gyda llawer o ddiwrnodau agored, gan feithrin perthnasoedd gyda'm darlithwyr a staff yn y brifysgol.

Pan ddaeth y cyfle i ymuno â'r tîm marchnata, es i ati ar unwaith i ymgeisio. Ar ôl i mi anfon fy CV a llythyr eglurhaol, cefais wahoddiad i gyfweliad a dyna ni, roeddwn i'n Weinyddwr Cymorth Marchnata!

Yn ystod y cyfnod hwn, roeddwn i'n gallu cymhwyso'r hyn rydw i wedi'i ddysgu o’m hastudiaethau marchnata i sefyllfaoedd bywyd go iawn. Roedd yn wych gweithio mewn tîm gyda marchnatwyr proffesiynol ac interniaid eraill. Dysgais i ddefnyddio System Rheoli Cynnwys yn ogystal ag offer defnyddiol eraill fel Siteimprove a Google Analytics; mae'r rheiny i gyd yn offer pwysig y dylai marchnatwyr fod yn gyfarwydd â nhw. Dysgais bwysigrwydd cael gwefan hynod weithredol a hawdd ei defnyddio.

Fe wnaeth y profiad hwn wella fy sgiliau cyfathrebu, trefnu a rheoli amser, ac yn bwysicaf oll, fe fagais i fwy o hyder. Dysgodd i mi y dylwn i bob amser anelu'n uchel ac ymddiried ynof i fy hun i wneud yr holl benderfyniadau cywir. Ers i mi gael profiad o sut beth yw bod yn farchnatwr, dwi'n teimlo'n fwy hyderus wrth ddechrau fy mlwyddyn olaf yn y brifysgol.

Rhoddodd y lleoliad hwn gipolwg i mi ar sut beth yw gweithio ym maes marchnata digidol a’m paratoi ar gyfer swyddi ym maes marchnata yn y dyfodol. Llwyddais i sicrhau interniaeth farchnata arall ar ôl caffael y sgiliau o'm hinterniaeth yn y brifysgol. Rhoddodd y lleoliad hwn hwb i fy ngyrfa farchnata ac rwy'n gyffrous i weld i ble y bydd yn mynd â fi.

Mae'r tîm cyflogadwyedd yn yr Ysgol Reolaeth wastad wedi rhoi cefnogaeth i mi. Cefais gymorth ac awgrymiadau ar gyfer ysgrifennu fy CV a sut i sefyll allan wrth chwilio am leoliadau ac interniaethau. Roeddwn i'n gallu ymarfer cyn fy nghyfweliadau a chael adborth. Rwyf wedi mynychu llawer o sgyrsiau a roddwyd gan weithwyr proffesiynol y diwydiant a chyn-fyfyrwyr, lle roeddwn yn gallu dysgu o'u profiad. Mae’r tîm cyflogadwyedd bob amser yn fy hysbysu am gyfleoedd a rolau gwahanol y gallaf ymgeisio amdanynt. Mae'n wych cael cymaint o gefnogaeth a help ym mhob cam o'm taith farchnata yn y brifysgol.

Rwyf wedi mwynhau pob eiliad o’m lleoliad, ac rydw i mor ddiolchgar fy mod wedi cael y cyfle hwn. Dwi'n ffodus iawn oherwydd mae'r amser sy'n cael ei dreulio yn gweithio yn y tîm marchnata yn amhrisiadwy. Mae cyfleoedd fel hyn yn bwysig iawn, mae'n rhoi cyfle i chi arsylwi gweithgareddau marchnata yn bersonol. Mae hwn wedi bod yn un o'r profiadau gorau o'm hamser yn Abertawe. Pe bawn i'n gorfod rhoi un darn o gyngor rwyf wedi'i ddysgu dros y ddwy flynedd ddiwethaf yn y brifysgol, byddwn i'n dweud y dylech fod yn agored bob amser i wahanol gyfleoedd i gael gwybodaeth a sgiliau newydd. Bydd y profiad rydych chi'n ei ennill yn gwneud i chi sefyll allan ac yn rhoi'r hyder i chi gyflawni pethau gwych mewn bywyd.

Mae'r lleoliad hwn wedi dangos ochr wahanol i mi o farchnata nad ydw i wedi'i gweld o'r blaen. Rwy'n gobeithio, ar ôl i mi raddio, y gallaf barhau i ddatblygu fy ngwybodaeth am farchnata digidol drwy weithio mewn gwahanol swyddi marchnata. Fel marchnatwr, mae'n rhaid i chi barhau i ddysgu a chaffael gwybodaeth am y tueddiadau a'r datblygiadau diweddaraf i aros yn berthnasol, felly fy un nod yw parhau i ddysgu.