image

Bethany Qualter

Gwlad:
Deyrnas Unedig
Cwrs:
BSc Seicoleg a Troseddeg

Beth yw eich tri hoff beth am Abertawe?  

Y traeth; y cyfleoedd mae Prifysgol Abertawe'n eu rhoi i chi; pa mor agos yw popeth.

Pam dewisoch chi astudio yn Abertawe? 

Does dim llawer o brifysgolion sy'n cynnig Seicoleg a Throseddeg, felly roeddwn i wir eisiau dod yma ar y diwrnod agored. Roedd y ffaith bod gan Brifysgol Abertawe achrediad gan y BPS yn berswadiol iawn. Mae yna rai prifysgolion nad ydynt yn cynnig hwn felly roedden nhw ar waelod fy rhestr.  Roedd hi'n eithaf pell i ffwrdd o'm cartref felly roedd rhaid i mi ymgolli'n llwyr ym mywyd y brifysgol. Roeddwn i'n hoffi'r lleoliad a pha mor gyfeillgar oedd pawb ar y Diwrnod Agored. Oherwydd yr holl ffactorau hyn, yn ogystal â'm hoffter personol a'r ymagwedd bersonol ataf drwy gydol y broses (ces i alwad ffôn ym mis Ebrill i ofyn a oedd gennyf gwestiynau cyn i mi ddod i'r Brifysgol!)

Beth yw eich hoff beth am eich cwrs? 

Rwy'n dwlu ar ba mor wahanol yw'r cyrsiau. Gallwn i fod yn astudio cyfreithlondeb erthylu un awr ac yna'n astudio sut mae ymennydd baban yn datblygu'r un nesaf. Mae'n golygu fy mod i heb ddiflasu o gwbl drwy gydol y cwrs. Hefyd, mae’r dulliau gwahanol o asesu’n addas i mi. 

Pam dewisoch chi astudio Gradd Gydanrhydedd, a beth yw eich profiad? 

Roeddwn i’n gwneud yn dda mewn Seicoleg yn ystod Safon Uwch, felly roeddwn i’n gwybod fy mod i am wneud rhywbeth yn y maes hwn. Roeddwn i hefyd yn hoffi True Crime felly dechreuais i ymchwilio i Droseddeg ar y cyd â Seicoleg. Yn gyntaf, doeddwn i ddim yn awyddus gan fy mod i'n meddwl bod hyn yn golygu dwywaith y llwyth gwaith. Ond ar ôl i mi siarad â staff ym Mhrifysgol Abertawe, sylweddolais i nad oedd hyn yn wir. Roedd hyn yn golygu fy mod i'n gallu astudio rhywbeth roeddwn i'n rhagori ynddo yn ogystal â phwnc a oedd wedi fy nghyfareddu erioed.

Beth rydych chi’n bwriadu/gobeithio ei wneud ar ôl i chi raddio?

Rwyf wedi cael fy nerbyn i gwrs Meistr ym Mhrifysgol Abertawe felly byddaf yma am flwyddyn arall o leiaf! Ar ôl hynny, does gen i ddim syniad a bod yn onest, ond hoffwn i aros yn Abertawe am ychydig yn hwy.

Fyddech chi'n argymell Prifysgol Abertawe i fyfyrwyr eraill? 

Byddwn i'n ei hargymell bendant! Rwyf wir yn dwlu ar y lle yma ac mae'n debygol y gallwn i siarad am yr holl bethau gwych am Abertawe am oriau. Mae gan Brifysgol Abertawe bopeth y byddech chi ei eisiau mewn prifysgol, ynghyd â'r ffaith bod y traeth 10 munud i ffwrdd wrth gerdded.

Ydych chi'n cymryd rhan mewn tîm/clwb chwaraeon ym Mhrifysgol Abertawe? 

Roeddwn i’n nofio o bryd i'w gilydd felly roeddwn i'n aelod yn dechnegol ond heb gystadlu. Roedd hi'n hwyl cwrdd â grŵp o bobl oedd â diddordebau tebyg i fy rhai i.

Ydych chi'n aelod o gymdeithas/wedi bod yn aelod o gymdeithas?  

Roeddwn i'n rhan o cymdeithas ddramau drwy gydol fy ngradd. Yn y pen draw, fi oedd yr Ysgrifenyddes ac yna'r Llywydd yn y flwyddyn ganlynol. Roeddwn i hefyd yn rhan o Make a Smile, sef sefydliad elusennol sy'n gweithio ledled y Deyrnas Unedig, yn ogystal â'r Gymdeithas Seicoleg.

Ble ydych chi wedi byw yn ystod eich astudiaethau? 

Roeddwn i'n byw yng Nghilfái ar Gampws Singleton ym mlwyddyn 1. Roedd 19 o bobl yn ein fflat felly roedd hyn yn ffordd dda o wneud ffrindiau. Symudais i i lety preifat i fyfyrwyr yn Brynmill am y ddwy flynedd arall.

Ydych chi wedi gweithio’n rhan-amser yn ystod eich gradd? 

Rwyf wedi gweithio fel Myfyriwr Llysgennad am y ddwy flynedd ddiwethaf. Gweithiais i hefyd i siop goffi annibynnol yn Brynmill ym mlwyddyn 3.