Erin MacDonald

Erin MacDonald

Gwlad:
Cymru
Cwrs:
BSc Geneteg Feddygol

Rydw i’n astudio Geneteg Feddygol, felly’n edrych ar driniaethau a rheolaeth afiechydon.

Mae’r cwrs yn cyffwrdd ar amrywiaeth o bynciau fel Imiwnoleg, Sgiliau i Ymchwilwyr a Bioleg Celloedd Ewcaryotig. Mae astudio yn Abertawe wedi bod yn brofiad gwahanol i mi oherwydd dechreuais yn ystod Covid-19 ond rydw i wedi cael mwy o ddarlithoedd a gweithdai wyneb yn wyneb ar y campws eleni a bob amser yn edrych ymlaen atynt. Fy hoff bwnc ar fy nghwrs hyd yma yw Imiwnoleg a Ffisioleg Ddynol. Rydw i’n hoff iawn o ddysgu am systemau’r corff a sut mae triniaethau'n gweithio a thrin amrywiaeth o glefydau a hefyd sut mae’r corff yn ymateb i’r driniaeth.

Wrth astudio elfennau o fy nghwrs yn y Gymraeg, rydw i’n parhau i ddefnyddio’r iaith ar lafar ac yn ysgrifenedig. Mae defnyddio’r iaith mewn ffordd ffurfiol ac anffurfiol yn bwysig iawn i mi fel Cymraes. Mae yna lawer o gefnogaeth Gymraeg ym Mhrifysgol Abertawe. I ddechrau mae Academi Hywel Teifi a Changen y Coleg Cymraeg yn cynnig cefnogaeth i astudio yn y Gymraeg. Mae hefyd cefnogaeth ar gael gan Fentoriaid Academaidd sydd yn siarad Cymraeg ac mae’r grwpiau dysgu yn dueddol o fod yn llai sy'n rhoi’r hyder i bobl holi cwestiynau a mynegi barn. Rydw i hefyd yn derbyn ysgoloriaeth Academi Hywel Teifi a’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol gan fy mod i’n astudio fy nghwrs yn y Gymraeg.

Yn fy mlwyddyn gyntaf dewisais fyw mewn llety Cymraeg ar y campws. Rydw i mor ddiolchgar am y cyfle yma oherwydd roedd hyn wedi sicrhau fy mod i gyda chyfoedion sy’n rhannu’r gallu i siarad yr un iaith sydd yn rhoi ymdeimlad cartrefol mewn amgylchedd hollol newydd.