Fahim Abrar

Fahim Abrar

Gwlad:
Bangladesh
Cwrs:
MSc Peirianneg Electronig a Thrydanol gyda Diwydiant

Cefais fy nenu i Brifysgol Abertawe am sawl rheswm. Yn gyntaf, mae gan y brifysgol enw da iawn am y cwrs dw i’n ei astudio. Yn ail, mae'r campws a'r cyfleusterau'n drawiadol, ac mae'r lleoliad yn brydferth gyda mynediad hawdd i'r traeth a chefn gwlad. Yn ogystal, fe wnaeth y gwasanaethau cymorth sydd ar gael i fyfyrwyr argraff arna i, gan gynnwys y gwasanaethau gyrfaoedd a'r tîm lles myfyrwyr.

Mae gen i berthynas wych gyda fy narlithwyr ym Mhrifysgol Abertawe. Maen nhw i gyd yn hawdd mynd atyn nhw, yn wybodus ac yn frwdfrydig ynghylch eu pynciau. Maen nhw bob amser yn neilltuo amser i'w myfyrwyr ac yn barod i fynd yr ail filltir er mwyn sicrhau bod gennym ni ddealltwriaeth dda o'r deunydd. Yn ogystal, dw i’n gwerthfawrogi'r ffordd y maen nhw'n rhoi adborth adeiladol ar aseiniadau, sy'n fy helpu i wella a chyflawni graddau gwell. Ar y cyfan, dw i’n teimlo'n ffodus o gael darlithwyr mor rhagorol sy'n ymrwymedig i'n llwyddiant.

Mae'r trafodaethau a'r dadleuon grŵp yn ein seminarau yn ddiddorol iawn ac yn procio'r meddwl. Mae'n wych gallu cyfnewid syniadau gyda’r myfyrwyr eraill a dysgu o'u safbwyntiau nhw hefyd. Yn ogystal, dw i wedi mwynhau'n fawr elfennau ymarferol fy nghwrs, yn enwedig y prosiectau a'r aseiniadau ymarferol.

Mae'r cwrs yn eithaf hyblyg o ran caniatáu i mi ddilyn fy niddordebau. Dw i’n gwerthfawrogi'r ffaith bod amrywiaeth o fodiwlau ar gael, fel y gallaf deilwra fy astudiaethau i gyd-fynd â'm nodau gyrfa. Fy hoff fodiwl hyd yma yw Systemau Cynhyrchu Pŵer, gan fod y cynnwys yn ddiddorol ac yn procio'r meddwl. O ran y darlithwyr, dw i wedi cael profiad cadarnhaol yn gyffredinol. Mae ambell un yn arbennig o gefnogol a chymwynasgar, fel Dr Vasileios Samaras, sydd wedi bod yn allweddol wrth fy arwain drwy fy nghynllun lleoliad.

Dw i wedi defnyddio'r tîm gyrfaoedd ym Mhrifysgol Abertawe ac roedd eu cyngor a'u cymorth yn ddefnyddiol iawn. Roedd y tîm yn gallu rhoi arweiniad wedi'i deilwra i mi ar gyfer fy CV a'r llythyr i anfon gyda’r CV, yn ogystal ag awgrymiadau ar sut i wella fy sgiliau cyfweliad. Un gair o gyngor y byddwn i'n ei roi i ddarpar fyfyrwyr yw dechrau defnyddio'r tîm gyrfaoedd yn gynnar yn eu hastudiaethau.

Mae astudio ym Mhrifysgol Abertawe wedi fy helpu i ddatblygu amrywiaeth o sgiliau, gan gynnwys meddwl yn feirniadol, datrys problemau, a chyfathrebu. Mae'r sgiliau hyn wedi bod yn amhrisiadwy wrth ddatblygu fy ngyrfa, yn enwedig mewn rolau lle mae gofyn gwneud penderfyniadau effeithiol a gwaith tîm.

Mae cyfleusterau chwaraeon y Brifysgol wedi gwneud cryn argraff. Mae'r gampfa'n llawn cyfarpar gwych ac mae amrywiaeth eang o offer hyfforddi cardio a chryfder ynddi. Mae digon o dimau chwaraeon a chlybiau i ymuno â nhw hefyd, felly mae rhywbeth yn digwydd drwy’r amser. Hyd yn oed os nad ydych chi’n athletwr cystadleuol, mae cyfleoedd i gymryd rhan mewn dosbarthiadau chwaraeon a ffitrwydd achlysurol, sy'n wych ar gyfer gwneud ychydig o ymarfer corff a chwrdd â phobl newydd. Ar y cyfan, dw i’n credu bod y Brifysgol yn gwneud gwaith gwych yn darparu cyfleusterau a rhaglenni chwaraeon o ansawdd uchel ar gyfer myfyrwyr.

Fy nhri hoff beth am Abertawe yw'r arfordir a'r traethau hardd, y gymuned gyfeillgar a'r awyrgylch yn y ddinas, a’r adnoddau academaidd a'r cyfleoedd rhagorol yn y brifysgol. Mae bod yn agos at Benrhyn Gŵyr wedi rhoi cyfle i mi archwilio a gwerthfawrogi harddwch naturiol Cymru, tra bod y gymuned groesawgar a chlos yn Abertawe wedi gwneud i mi deimlo'n gartrefol. Yn ogystal, mae'r brifysgol wedi rhoi mynediad i mi at adnoddau anhygoel, fel cyfleusterau o'r radd flaenaf ac aelodau ardderchog y gyfadran, sydd wedi fy helpu'n aruthrol yn fy natblygiad academaidd a phersonol.

Os ydych chi'n ystyried gwneud cais i Brifysgol Abertawe, byddwn i'n bendant yn ei argymell. Mae ansawdd yr addysg yma o'r radd flaenaf, gyda darlithwyr gwybodus a chefnogol sydd bob amser ar gael i helpu. Mae'r campws yn hardd ac wedi'i gynnal a'i gadw'n dda, gydag amrywiaeth o gyfleusterau ar gael i fyfyrwyr eu defnyddio. Ac mae'r ddinas ei hun yn lle gwych i fyw ac astudio, gyda digon o bethau i'w gweld a'u gwneud, o amgueddfeydd ac orielau i siopau a bwytai. Ar y cyfan, dw i’n credu bod Prifysgol Abertawe yn ddewis gwych i unrhyw un sy'n chwilio am addysg ardderchog a phrofiad rhagorol i fyfyrwyr.