Kewei Gong

Kewei Gong

Gwlad:
China
Cwrs:
BA Astudiaethau Plentyndod Cynnar

Rwyf bob amser wedi breuddwydio am astudio yn y DU, ac astudio mewn prifysgol ag Astudiaethau Plentyndod Cynnar o'r radd flaenaf. Pan oeddwn yn yr ysgol uwchradd yn Tsieina, sylweddolai bod fy mhrif bwnc yn rhy gyfyngedig. Roeddwn i'n meddwl y byddai'r cyrsiau gofal plant a gynigir gan Brifysgol Abertawe yn fy ngalluogi i ddysgu gwybodaeth fwy cynhwysfawr ac uwch.

Rwy'n astudio Astudiaethau Plentyndod Cynnar. Rwy'n mwynhau'r cwrs yn fawr, sy'n gyffrous ac yn cynnwys cyfuniad o wersi ar-lein ac wyneb yn wyneb yn y semester cyntaf. Mae'r darlithwyr yn hynod ddiddorol ac mae rhyngweithio gweithredol, trafodaethau grŵp, cyflwyniadau a chyfranogiad gan bob myfyriwr.

Fy hoff bethau am Abertawe yw mynd i'r traeth, cael rhedeg yn y bore ym mharc Singleton a mynd i siopa yng nghanol y ddinas.

Mae gan Brifysgol Abertawe amgylchedd dysgu o ansawdd uchel a dau gampws anhygoel. Mae astudio ym Mhrifysgol Abertawe yn ddewis hynod ddiddorol.