Ruhani Khanna
- Gwlad:
- Deyrnas Unedig
- Cwrs:
- MSc Ffiseg Ymbelydredd Meddygol
Beth yw eich 3 hoff beth am Abertawe (y ddinas/ardal)?
Unrhyw fan ger y dŵr. Roeddwn i wrth fy modd â’r Mwmbwls, Bae’r Tri Chlogwyn a’r traeth gyferbyn â champws Singleton.
Beth yw’r 3 sgil/profiad gorau y credwch y dylai ymgeisydd eu cael er mwyn astudio’r cwrs hwn?
Dyfalbarhad, meddwl yn feirniadol, y gallu i ddysgu meddalwedd/pecynnau newydd
Beth yw eich hoff beth am eich cwrs?
Roeddwn wrth fy modd â'r ystod a'r dyfnder sy’n cael eu cwmpasu ar y cwrs hwn: o anatomeg, moeseg ymarfer meddygol i efelychu nanoraddfa. Ymdriniwyd â phob modiwl yn fanwl iawn. Roedd gan lawer o
fodiwlau labordai ymarferol hefyd.
Beth ydych chi'n gobeithio ei gyflawni trwy gwblhau'r radd Feistr hon?
Rwyf am ennill gwybodaeth yn y maes ymbelydredd meddygol a gwella fy sgiliau ymchwil.
Sut mae'r radd Feistr hon yn adeiladu ar eich profiad presennol hyd at y pwynt hwn?
Astudiais BSc mewn Ffiseg a Thechnoleg Niwclear gyda blwyddyn ar leoliad gydag INFN. Fe wnaeth y radd Feistr hon fy helpu i ddarparu mwy o gefndir cadarn mewn ffiseg ymbelydredd meddygol ar gyfer
y PhD mewn peirianneg fiofeddygol gyfrifiadol yn seiliedig ar ymchwil canser ac efelychiad yr wyf yn ei wneud ar hyn o bryd.
A fyddech chi'n argymell Prifysgol Abertawe i fyfyrwyr eraill? Pam?
Roedd yr Athrawon yn wych. Roedd ganddynt wybodaeth wych ac roeddent bob amser yn agored i helpu naill ai'n academaidd neu o ran gyrfa. Cyflwynwyd darlithoedd ysgogol iawn ganddyn nhw.
A ydych wedi cael mynediad at unrhyw gyfleoedd ariannu neu wedi cael unrhyw ysgoloriaethau?
Derbyniais Ysgoloriaeth Rhaglen Cymrodoriaeth Marie Sklodowska-Curie IAEA ar gyfer fy ngradd Meistr yma ym Mhrifysgol Abertawe, ar yr adeg y’i cynigiwyd i fenywod yn y maes niwclear.