Vanessa Sofia Serranheira Montinho

Vanessa Sofia Serranheira Montinho

Gwlad:
Portiwgal
Cwrs:
MA Seiberdroseddu a Therfysgaeth

Prifysgol Abertawe oedd yr unig brifysgol i gynnig y ddau faes mae gen i ddiddordeb mawr mewn astudio, sef, Seiberdroseddu a Therfysgaeth. Yn ogystal, mae gan Brifysgol Abertawe gysylltiadau â sefydliadau cenedlaethol a rhyngwladol perthnasol yn yr ardal, fel CYTREC, ac roeddwn i’n meddwl y byddai hynny’n cynyddu fy nghyfleoedd proffesiynol.

Y rhan dw i’n ei mwynhau fwyaf yw dysgu a rhyngweithio â'r gweithwyr proffesiynol sy'n gweithio yn y maes. Mae holl ddarlithwyr y cwrs MA mewn Seiberdroseddu a Therfysgaeth yn eithriadol o gefnogol ac ar gael bob amser i helpu yn ystod darlithoedd ac wedyn.

Dw i wedi mwynhau'r holl fodiwlau hyd yn hyn. Yn ystod fy semester cyntaf, fy hoff fodiwl oedd Propaganda Ar-lein a Radicaleiddio. Y semester hwn, dw i’n mwynhau'r modiwl Gwrthweithio Eithafiaeth Dreisgar Ar-lein. Mae'r rhan fwyaf o'r modiwlau'n cynnwys aseiniadau unigol, sydd wedi fy ngalluogi i weithio'n annibynnol. Er bod sgiliau gwaith tîm yn hanfodol, mae gallu gweithio'n annibynnol yn bwysig iawn hefyd.

Ar hyn o bryd, dw i’n gwneud Interniaeth Rhwydwaith Interniaeth â Thâl Abertawe (SPIN) yng Nghyfadran y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol.