Vismaya Kulkarni

Vismaya Kulkarni

Gwlad:
India
Cwrs:
MSc Seicoleg Glinigol ac Iechyd Meddwl

Beth yw eich 3 hoff beth am Abertawe?

  • Y gymuned a'r diwylliant croesawgar a chyfeillgar
  • Rhwyddineb mynediad ar droed drwy'r ddinas a'i chyfleustra o ran bywyd myfyrwyr
  • Ei bywyd nos a'i lleoliadau golygfaol y mae Abertawe, a Chymru yn gyffredinol, yn adnabyddus amdanynt.

Pam dewisoch chi astudio eich gradd yn Abertawe?

Prifysgol Abertawe yw un o brifysgolion gorau'r DU. Roedd ganddi'r union gwrs cynhwysfawr a manwl ym maes seicoleg glinigol ac iechyd meddwl roeddwn i'n chwilio amdano. Yn ogystal, roedd y brifysgol yn gyfle i gael profiad o ddiwylliannau, pobl a phrofiadau gwahanol, a oedd yn ymddangos yn gyffrous iawn i mi fel myfyriwr rhyngwladol.

Beth yw eich hoff beth am eich cwrs?
Fy hoff beth am fy nghwrs yw'r ffordd y caiff y modiwlau eu categoreiddio. Mae gan yr anhwylderau a'r therapïau gwahanol rydw i wedi'u hastudio eu modiwlau penodol eu hun. Rwy'n mwynhau dysgu am bob un ohonynt yn y ffordd fwyaf manwl bosibl. Mae'r gyfadran a'r staff yn hynod o gymwynasgar hefyd. Mae gen i gefnogaeth gyson gan fy academyddion yn ogystal â mentora er gwaethaf Covid. Mae fy nghwrs yn ddiddorol iawn, ac rwy'n dwlu ar yr arbenigedd. Mae'r cwrs wedi fy hybu i fynd y tu hwnt i'r hyn rydw i wedi'i ddysgu'n ddamcaniaethol a chymhwyso'r wybodaeth a gafwyd yn ymarferol drwy hyfforddiant ymarferol. Mae'r cwrs wedi fy helpu i gaffael a meithrin sgiliau fel amynedd a chysondeb.

Beth rydych chi’n bwriadu/gobeithio ei wneud ar ôl i chi raddio?
Rwy'n bwriadu gwneud fy ngradd Doethur mewn Seicoleg Glinigol, cael y profiad angenrheidiol ac yn y pen draw cael fy mhractis fy hun o dan achrediad Cymdeithas Seicolegol Prydain.

A fyddech yn argymell Prifysgol Abertawe i fyfyrwyr eraill?
Byddwn, yn bendant byddwn yn argymell Prifysgol Abertawe i fyfyrwyr eraill. Mae fy mhrofiad wedi bod yn hynod wobrwyol, a hoffwn i weld pobl eraill yn cael yr un budd. Rydw i wedi cael cyfleoedd, ac wedi cwrdd â phobl, nad oeddwn i erioed wedi dychmygu eu bod mor foddhaol. At hynny, rhoddodd Prifysgol Abertawe gyfle i mi rwydweithio y tu hwnt i'm gallu canfyddedig. O ystyried fy mhrofiad o'm cwrs a'r ddinas, yn enwedig wrth fod yn fyfyriwr rhyngwladol, byddwn i'n dweud bod Prifysgol Abertawe yn un o'r goreuon am yr un peth.

Ydych chi'n aelod o gymdeithas/ wedi bod yn aelod o gymdeithas?
Rydw i wedi bod yn rhan o sawl cymdeithas. Mae'r holl gymdeithasau rydw i wedi ymaelodi â nhw wedi bod yn hynod groesawgar, ac yn arbennig o galonogol o ran rhoi cynnig ar lwybrau gwahanol a newydd sydd o ddiddordeb i mi, a'r tu allan iddynt hefyd. Hefyd, gwnaeth undeb y myfyrwyr fy annog i ddechrau neu fod yn rhan o bwyllgor cymdeithas. Arweiniodd hyn at ddod yn Llywydd y gymdeithas Feganaidd a Llysieuol (VegSoc), a'm helpodd i wneud newid cymdeithasol mewn meysydd o'm diddordeb. Rydw i hefyd yn rhan o'r gymdeithas Goed, ac rydw i wedi cael profiadau gwobrwyol gyda nhw.

Ydych chi wedi gwneud lleoliad gwaith fel rhan o'ch cwrs?
Rydw i wedi cael sawl profiad gwirfoddoli. Rwy'n wirfoddolwr gyda Discovery ac rwy'n cael cyfle gwirfoddoli lles sy'n gysylltiedig â chynnal lles myfyrwyr a chreu cymuned drwy hobïau.

Ydych chi wedi cael swydd ran-amser yn ystod eich gradd?
Rwy'n Fyfyriwr Llysgennad yn y Brifysgol. Mae'r swydd hon â thâl gan y brifysgol yn rhoi cyfle i mi gael mynediad at ryw fath o incwm wrth astudio am fy ngradd Meistr. Rwy'n mwynhau'r swydd yn fawr ac wedi cwrdd â nifer o bobl wych. Mae hefyd yn hyblyg o amgylch fy amserlen, sy'n ddefnyddiol.

Ydych chi wedi cael cymorth i fyfyrwyr ym Mhrifysgol Abertawe?
Rydw i wedi cael cymorth i fyfyrwyr gan MyUniHub sawl gwaith. Maen nhw wedi bod o gymorth mawr bob tro. Rydw i wedi derbyn arweiniad a chefnogaeth bob tro rydw i wedi dibynnu arnyn nhw am broblem.

Ydych chi'n gallu siarad Cymraeg?
Dydw i ddim yn siarad Cymraeg yn rhugl ond mae byw yn Abertawe wedi rhoi cyfle i mi ddysgu Cymraeg, iaith hollol newydd i mi. Rwy'n frwdfrydig am ddiwylliant Cymru a'r iaith a heb os bydda i'n parhau i ddysgu mwy amdanynt tra bydda i'n byw yn Abertawe. Diolch!