Wafa Ali

Wafa Ali

Gwlad:
Qatar
Cwrs:
BEng Peirianneg Gemegol

Roedd fy mywyd yn Abertawe yn brofiad gwych a’m nod oedd gwneud y mwyaf o'm hamser yno. Gwnaeth Abertawe fy annog i fod yn gryf yn academaidd a dod yn berson gwell mewn bywyd. Dysgais i sut i roi cyflwyniadau a sgyrsiau a chwrddais i ag arbenigwyr o wahanol gefndiroedd a roddodd hwb i'm gallu i arwain pobl eraill.

Beth yw dy 3 hoff beth am Abertawe?

Mae Abertawe'n lle croesawgar iawn ac mae'n ddinas dawel. Cwrddais i â ffrindiau newydd o wledydd gwahanol ledled y byd gan roi'r cyfle imi ddysgu ieithoedd tramor, rhoi cynnig ar fwydydd traddodiadol gwahanol a gwella fy sgiliau cyfathrebu traws-ddiwylliannol.

Pam wnest ti ddewis astudio dy radd yn Abertawe?

Dewisais i Brifysgol Abertawe oherwydd safon ei haddysg, ei statws uchel ymhlith prifysgolion y DU a'i henw gwych ym maes peirianneg gemegol. Hefyd, cyflwynodd lawer o gysyniadau newydd a wnaeth wella fy nealltwriaeth o safbwyntiau byd-eang a newid fy ffordd o feddwl am y byd

Fyddi di'n argymell Prifysgol Abertawe i rywun sy'n meddwl am fynd i'r Brifysgol?

Mae Prifysgol Abertawe'n gwneud ichi dyfu a dysgu pethau newydd bob dydd. Bydd yn rhoi'r cydbwysedd perffaith i chi rhwng profiad rhyngwladol o ddiwylliannau tramor gwahanol ac amgylchedd cartrefol. Er bod y cwrs yn heriol, bydd y tiwtoriaid yn eich cefnogi ac yn eich helpu i wneud aseiniadau a gwaith cwrs arall drwy e-byst ac wyneb yn wyneb. Astudio ym Mhrifysgol Abertawe oedd fy mhrofiad mwyaf gwobrwyol.

Sut gwnaeth dy radd dy baratoi ar gyfer dy yrfa?

Ym Mhrifysgol Abertawe, roedd cyfle i wneud lleoliad gwaith yn y flwyddyn olaf, a roddodd gyfle i mi weithio gydag arbenigwyr mewn disgyblaethau gwahanol o gwmnïau a phrifysgolion eraill. Gwnaeth hyn fagu fy hyder gan ddarparu profiad ymarferol a chan roi profiad o'r byd go iawn imi yn y diwydiant. Roedd hyn o fudd i'm gwaith ymchwil yn y brifysgol ac ar gyfer fy ngyrfa yn y dyfodol.

Ble rwyt ti'n gweithio nawr? Beth yw dy yrfa bresennol?

Rwyf yn ymgymryd ag ymchwil i ddatblygu pilenni polymerig cadarn ar gyfer cymwysiadau amgylcheddol gwahanol. Hefyd, rwyf yn gweithio ar greu hydrogen drwy electrolysis dŵr môr gan ddefnyddio catalyddion hynod ddetholus sy'n gyffredin iawn ar y ddaear a systemau electrolysu pilenni. Rwyf yn mentora myfyrwyr israddedig ac yn eu cynorthwyo gyda'u portffolios ymchwil. Rwyf yn helpu myfyrwyr wrth gynnal arbrofion sy'n gysylltiedig â'u hymchwil. Rwyf yn cynghori myfyrwyr ac yn rhoi cymorth iddynt yn ystod gwaith labordy. Rwyf yn eu helpu wrth lunio adroddiadau ac erthyglau ymchwil. Yn ogystal, rwyf yn aelod o gyngor y rhaglen datblygu ymchwilwyr yn y Brifysgol. Rwyf yn adolygydd ar gyfer cyfnodolion uchel eu bri megis The International Journal on the Science and Technology of Desalting a Water Purification Journal (Desalination) a Chemosphere.

Rwyf yn aelod o fwrdd golygyddol y cyfnodolyn Theoretical and Applied Computational Intelligence. Rwyf yn aelod gyrfa gynnar o fwrdd golygyddol Journal of Water

Peirianneg Brosesau Yn ddiweddar, des i’n aelod o'r Academi Ynni Cymhwysol.

Pa gyngor byddet ti'n ei roi i fyfyrwyr sydd am ddilyn yr un llwybr gyrfa â thi?

Dylai myfyrwyr wella eu gwybodaeth a'u sgiliau ymchwil. Dylent ddilyn interniaethau mewn sefydliadau ymchwil o fri neu ym myd diwydiant i ddysgu egwyddorion newydd, datblygu eu gallu i feddwl yn feirniadol a sicrhau bod eu sgiliau'n gyfredol.