Paratoi ar gyfer Graddio
Archebu eich lle
I archebu eich lle yn y cynulliad graddio bydd angen i chi gwblhau'r broses archebu ar-lein.
Anfonir e-bost at eich cyfrif myfyriwr pan fydd y broses archebu ar gyfer y cynulliadau yn agor.
Rhowch wybod i ni os byddwch yn Mynychu neu Ddim yn Mynychu. Bydd y broses archebu yn dweud wrthoch pryd bydd eich Cynulliad Graddio a Gwobrwyo.
Rhaid i'r holl fyfyrwyr sy'n gymwys i fynd i seremoni raddio gofrestru i roi gwybod i ni a ydynt yn dod ai peidio. Gallwch wneud hyn drwy fewngofnodi i'r cyfrif ar y fewnrwyd a chlicio ar y crynodeb proffil ar ochr chwith y sgrîn.
I gael mynediad at eich cyfrif ar y fewnrwyd, ewch i myuni.swan.ac.uk, clicio ar Login/Mewngofnodi, clicio ar y ddolen i'r Fewnrwyd, a mewngofnodi i'r Fewnrwyd lle byddwch yn gweld eich proffil myfyriwr. Bydd y tab Graduation yn ymddangos yn y blwch Events/Reminders o dan eich llun. Unwaith i chi glicio yma gallwch weld pryd bydd eich cynulliad graddio a gallwch gwblhau'r system cadw lle er mwyn rhoi gwybod i ni a fyddwch yn dod ai peidio.
Os ydych chi'n cael anawsterau mewngofnodi i'ch cyfrif ac mae angen cymorth arnoch, cysylltwch â'r Ddesg Gwasanaeth TG drwy ffonio 01792 604000 rhwng 7am a 6pm o ddydd Llun i ddydd Gwener. Am ragor o wybodaeth, ewch i https://www.swansea.ac.uk/cy/ggs/gwasanaethau-tg/cymorth/ . Sylwch fod cyfeiriad e-bost y Ddesg Gwasanaeth TG yn derbyn e-byst a anfonir o gyfrif prifysgol myfyriwr yn unig.
Cynhelir pob Cynulliad yn y Neuadd Fawr, Campws y Bae Prifysgol Abertawe, Ffordd Fabian, Crymlyn Burrows, Abertawe, SA1 8EN.
Sylwer NAD yw cadw eich lle ar gyfer graddio o reidrwydd yn golygu eich bod wedi cwblhau eich rhaglen yn llwyddiannus; gwahoddir pob myfyriwr a allai gwblhau ei raglen yn llwyddiannus i'r graddio er mwyn caniatáu amser i wneud trefniadau. Dylech gofrestru beth bynnag yw'r ffactorau academaidd, ac os na fyddwch yn gymwys i raddio oherwydd methiant academaidd, gwahoddir chi i'r cynulliad nesaf sydd ar gael ar ôl cwblhau eich rhaglen yn llwyddiannus. Argymhellwn eich bod yn ystyried hyn os bydd angen i chi drefnu hediadau a/neu westy.
Cymwysedd
I fod yn gymwys i raddio:
- Rhaid eich bod wedi cwblhau eich rhaglen astudio
- Rhaid i'ch enw ymddangos ar restr cyflwyno dyfarniad swyddogol
- Rhaid eich bod wedi talu unrhyw ddyledion ffioedd dysgu sy'n ddyledus gennych i Brifysgol Abertawe. Fe'ch atgoffir o reoliadau'r Brifysgol ar gyfer talu ffioedd sy'n dynodi:
'Yn unol â rheoliadau'r brifysgol ar gyfer talu ffioedd, ni fydd modd i Gyrff Dyfarnu ystyried myfyrwyr sydd â ffioedd yn weddill i'w talu i'r Brifysgol ar gyfer mynychu cynulliadau graddio nac ar gyfer derbyn dyfarniadau.'
Os oes unrhyw ddyledion gennych i'w talu, mae angen i chi gysylltu â
Israddedigion: Nettie Harry (a.harry@abertawe.ac.uk)
Ôl-raddedig: Rachel Power (rachel.power@abertawe.ac.uk)
yn yr Adran Gyllid ar unwaith i ddatrys y sefyllfa.
Mynychu eich Cynulliad
Os ydych am fynychu eich cynulliad graddio
- Cwblhewch y ffurflen archebu ar-lein.
Pan rydych yn archebu eich lle
- Gwnewch yn siwr fod eich enw yn gywir, bydd yn ymddangos yn union fel hyn ar eich tystysgrif
- Gwnewch yn siwr fod teitl eich cwrs yn gywir
- Rhowch wybod i ni os oes unrhyw ofynion arbennig gennych chi neu'ch gwesteion
Peidiwch ag aros tan eich bod yn derbyn eich canlyniad i roi gwybod i ni, gan y bydd hi'n rhy hwyr i'ch cynnwys erbyn hynny.
DS. Gall methu â chwblhau'r ffurflen archebu ar-lein cyn y dyddiad cau a nodir effeithio ar argaeledd tocynnau gwesteion.
Ddim yn mynychu eich Cynulliad
Os nad ydych am fynychu eich cynulliad graddio
- Cwblhewch y ffuflen archebu ar-lein i ddweud eich bod ddim yn mynychu.
- Gwnewch yn siwr fod eich cyfeiriad cartref yn gywir ar eich cyfrif mewnrwyd, bydd eich tystysgrif yn cael ei anfon i'r cyfeiriad yma.
Eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau bod gennym y cyfeiriad cywir i anfon y pecyn iddo. Os anfonir y pecyn i'r cyfeiriad anghywir, bydd rhaid talu am un newydd.
Os byddwch yn newid eich cyfeiriad ar ôl i'ch pecyn gael ei baratoi, ni fydd y newid yn effeithiol. Felly, os oes angen i chi newid eich cyfeiriad bedair wythnos neu fwy cyn eich Cynulliad, neu os hoffech i'r pecyn gael ei anfon at gyfeiriad arall, e-bostiwch y manylion i degreecertificates@abertawe.ac.uk.
Pan rydych yn archebu eich lle
- Gwnewch yn siwr fod eich enw yn gywir, bydd yn ymddangos yn union fel hyn ar eich tystysgrif
- Gwnewch yn siwr fod teitl eich cwrs yn gywir
- Mae'n bwysig iawn eich bod yn rhoi gwybod i ni os hoffech ohirio eich presenoldeb tan flwyddyn arall yn y dyfodol (am amgylchiadau eithriadol yn unig).
Mae'n bwysig nodi os nad ydych am fynychu eich cynulliad yna cewch eich dernyn i'ch gradd neu eich dyfarniad yn eich absenoldeb.
Nodyn i'r rhai hynny nad ydynt yn mynychu (yn derbyn eu dyfarniadau yn eu habsenoldeb): Os ydych yn gwrthod i'ch data personol cael ei gyhoeddi yn y rhaglen (enw a dyfarniad), rhowch wybod i'r Swyddfa Raddio.
Gwisg Academaidd
Mae angen i holl ddarpar-raddedigion wisgo gwisg academaidd lawn yn eu cynulliad.
NI fyddwch yn gallu mynd ar y llwyfan heb wisg academaidd.
Rydych chi'n gyfrifol am archebu hon eich hun.
Y cyflenwr swyddogol o'r gwisgoedd academaidd priodol yw Ede and Ravenscroft.
Archebu eich Gwisg gan Ede & Ravenscroft
Cyhyd â'ch bod wedi archebu'ch Gwisg Academaidd, caiff ei hanfon i Gampws y Bae (Y Coleg, Ystafelloedd 102-106) i'w chasglu ar y diwrnod.
Dylech archebu eich gwisg academaidd erbyn dydd Llun 25 Tachwedd 2024 mewn un o ddwy ffordd:
- ar y rhyngrwyd
- drwy ffonio ar y rhif canlynol: 0870 2421170 [Oriau swyddfa 0900-1700]
Cyn i chi ddechrau, bydd angen i chi wybod
- cylchedd eich pen (I wneud yn siŵr eich bod yn cael y maint het cywir, mesurwch gylched eich pen un fodfedd uwchben eich ael, mesurwch o gwmpas eich pen ar y lefel honno a nodwch y mesuriad naill ai mewn modfeddi neu gentimetrau.)
- mesuriadau eich brest
- eich mesuriad uchder
a gwneud yn siŵr bod manylion eich cerdyn credyd/debyd gennych wrth law.
I wybod pa gŵn i archebu defnyddiwch ein Canllaw i ddewis eich Gwisg Graddio .
Byddant yn cydnabod eu bod wedi derbyn eich archeb wrth ei phrosesu ond mae'n bosib na fyddwch yn ei derbyn tan 10 diwrnod cyn eich cynulliad.
Os oes unrhyw ofynion arbennig gennych ynglŷn â'ch gŵn, h.y. mawr iawn, neu fach iawn, neu gŵn sy'n addas i'w wisgo gyda chadair olwyn, rhowch wybod i Ede and Ravenscroft Ltd wrth archebu.
Mae'r holl gynau graddio yn costio £52 i'w llogi os cânt eu harchebu cyn y seremonïau. Bydd cost llogi gŵn yn cynyddu ar y diwrnod.
Am gost ychwanegol, mae'n bosib llogi eich gŵn am amser ychwanegol. Mae hyn yn caniatáu i chi fynd â'ch gŵn adref i gael mwy o luniau wedi'u tynnu.
Rhaid dychwelyd y gynau i Ede and Ravenscroft o fewn 7 diwrnod, gyda'r unigolyn sy'n llogi yn talu'r gost. Caiff bag dychwelyd ei amgáu gyda'ch gŵn wrth i chi ei gasglu.
Mae ad-daliadau ar gael os nad ydych yn gallu mynychu eich cynulliad am ryw reswm.
Yn yr achos hwn, rhaid i chi ysgrifennu at Ede and Ravenscroft ar y cyfeiriad isod i roi gwybod iddynt eich bod am ganslo ar y cyfle cynharaf posib.
Ede and Ravenscroft Ltd.
Unit A, Denny Industrial Centre
Waterbeach
Caergrawnt
CB5 9QD
Tocynnau
Cyn belled â bod y ffurflen archebu graddio ar-lein wedi'i chwblhau cyn y dyddiad cau gwarantir 2 docyn gwestai am ddim.
Rydym yn sylweddoli y gall gyfyngu nifer y tocynnau i 2 i bob myfyriwr achosi peth siomedigaeth, ond gobeithio y gallech werthfawrogi mai nifer penodol o seddi sydd ar gael yn y lleoliad ac nid oes modd i ni fynd dros y nifer hwn.
Ni allwn warantu tocynnau gwesteion i’r sawl sy’n ymateb ar ôl ein dyddiad cau.
NID OES angen tocyn ar fyfyrwyr i fynychu eu cynulliad.
Mae’r seddau i westeion wedi'u rhannu rhwng seddau lefel llawr a seddau rhenciog. Os oes gan westeion ofynion arbennig sy’n gofyn am seddau lefel llawr rhowch wybod i ni pan fyddwch yn archebu eich tocynnaufel y gallwn ddarparu ar eu cyfer.
Tocynnau Gwesteion
Dim ond 2 docyn fyddwn yn eu dosbarthu ar hyn o bryd.
Ar gyfer gwesteion ychwanegol heb docynnau mae gennym ystafelloedd darlledu byw gyda seddi ar gael yn y Neuadd Fawr. Mae’r ystafelloedd hyn yn gwbl hygyrch ac mae croeso i chi ddod â chynifer o westeion ag y dymunwch.
Plant
Rydym yn cydnabod bod seremonïau graddio'n achlysuron i'r teulu ac mae croeso i blant ddod. Serch hynny, rhaid iddynt fod yng nghwmni oedolyn. Mae'r cynulliadau'n para tuag awr a phymtheng munud felly efallai nad ydynt yn addas i blant ifanc iawn. I barchu gwesteion eraill, rydym yn gofyn i chi fynd â phlant allan os ydynt yn cynhyrfu yn ystod y cynulliad fel nad ydynt yn tarfu ar y seremoni a gwesteion eraill. Rydym yn cadw'r hawl i ofyn i blant (neu oedolion) adael yr awditoriwm yn ystod y seremoni os ydynt yn gwneud sŵn diangen neu'n tarfu ar y seremoni neu westeion eraill.
Dylai plant dan 2 oed eistedd ar lin oedolyn ac nid ar sedd. Nid oes angen tocyn arnynt.
Rhaid i blant 2 oed ac yn hŷn gael tocyn i gael mynediad i'r cynulliad.
Bydd pob seremoni yn cael ei darlledu'n fyw ar ein gwefan yn http://www.swansea.ac.uk/graduation/ a gellir ei gwylio drwy'r rhyngrwyd.
Y Cuddfan Cymdeithasol
Yn dilyn y seremoni, fe'ch gwahoddir i fynychu Y Cuddfan Cymdeithasol, sydd wedi'i leoli gyferbyn â'r Coleg, lle gwnaethoch gofrestru eich presenoldeb, i brynu eich llun ar y llwyfan gan ein tîm Cyfryngau, mwynhau nifer o gyfleoedd tynnu lluniau anffurfiol, megis:
- wal blodau
- llythyrau mawr GRAD sy’n goleuo
- bwth lluniau digidol
Gallwch hefyd ymgysylltu ag aelodau o staff ein timau Cyd-Fyfyrwyr a Chyflogadwyedd.
Fisâu ar gyfer Graddio
Dylai myfyrwyr rhyngwladol sy'n dymuno dod i'w seremoni raddio, ac nid oes digon o amser ganddynt ar eu fisa bresennol, gyflwyno cais am Fisa Safonol o gartref. Nid yw'n bosib estyn fisa Llwybr Myfyrwyr yn y DU er mwyn mynd i seremoni raddio'n unig.
Fisa Ymweliad Safonol hefyd yw'r fisa gywir ar gyfer teulu a ffrindiau, a all fod yn teithio i ddod i'ch seremoni raddio o dramor.
Mae gan Rhyngwladol@BywydCampws wybodaeth gynhwysfawr ar gael ar eu tudalen Llwybr Fisa Ymwelwyr Safonol y DU. Gwnewch yn siŵr eich bod yn darllen y dudalen i gael arweiniad ar gymhwysedd, y broses cyflwyno cais a dogfennau awgrymedig. Sylwer na fydd angen llythyr penodol gan y Brifysgol am Raddio arnoch gan nad yw'n cael ei restru yng ngofynion yr UKVI. Serch hynny, efallai yr hoffech gynnwys amserlen y seremonïau graddio ac e-bost cadw lle ar-lein (sy'n cael ei anfon yn awtomatig at yr holl fyfyrwyr sy'n graddio tua 6 i 8 wythnos cyn y seremoni) neu dudalen we wedi’i hargraffu o wefan y Brifysgol sy’n cadarnhau dyddiad y seremoni raddio.