Fel rhiant, gwarcheidwad neu rywun sydd â dyletswyddau gofalu, byddwch chi'n un o'r ffynonellau pwysicaf a mwyaf dibynadwy o wybodaeth a chyngor i'ch plentyn.

Mae penderfynu mynd i'r Brifysgol yn gam mawr yn ei daith tuag at fod yn annibynnol ac er bod hwn yn amser cyffrous, rydym yn deall y gall fod yn heriol hefyd.

Bydd yr wybodaeth ganlynol yn eich helpu i ddeall y broses yn well fel y gallwch gynllunio ymlaen llaw a chefnogi'ch plentyn i wneud y penderfyniad iawn.

Myfyrwyr ar y traeth

Sesiwn Holi ac Ateb Ymgeisydd: Bywyd Myfyriwr ym Mhrifysgol Abertawe

Ydych chi'n ystyried gwneud cais i Brifysgol Abertawe? Os felly, hoffem eich gwahodd i ymuno â'n panel o fyfyrwyr presennol a chlywed am eu profiad o astudio ym Mhrifysgol Abertawe, gan gynnwys eu proses ymgeisio, pam eu bod yn dewis eu pwnc gradd, a sut beth yw bywyd fel myfyriwr Prifysgol Abertawe .

Cofrestrwch nawr

Gweminar

15/01/2025

18:00 - 19:00 GMT

Bydd y digwyddiad yn fyw

Ymuno â'r digwyddiad byw nawr
Ymddiheuriadau, ond mae'r digwyddiad hwn wedi gorffen
graduation sunset on beach

Gweminar Rhieni & Gwarcheidwaid - Sesiwn Holi ac Ateb ol-cais

Ydy'ch plentyn wedi gwneud cais i'r Brifysgol? Beth sy’n digwydd nesaf? Yn dilyn y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau, ymunwch â'n panel o arbenigwyr ar gyfer y weminar addysgiadol hon i gael golwg fanwl am yr hyn gallwch chi ddisgwyl dros y 6-8 mis nesaf.

Cofrestrwch yma

Gweminar

06/02/2025

18:00 - 19:00 GMT

Bydd y digwyddiad yn fyw

Ymuno â'r digwyddiad byw nawr
Ymddiheuriadau, ond mae'r digwyddiad hwn wedi gorffen

CANLLAW PRIFYSGOL I RIENI

Mae ein canllaw cyflawn i'r brifysgol yn cynnwys popeth y mae angen i chi ei wybod i gefnogi'ch plentyn.

PROSES CYFLWYNO CAIS I'R BRIFYSGOL

Rydym yn deall, fel rhiant, yr hoffech chi gefnogi'ch plentyn drwy ei daith i'r brifysgol.

Fel arfer, rydym yn argymell eich bod yn dechrau ymchwilio i'r Brifysgol yn ystod y gwanwyn, cyn i geisiadau UCAS gael eu cyflwyno rhwng mis Medi a mis Ionawr.

Mae ein tudalen we 'sut i gyflwyno cais' yn cynnig arweiniad cam wrth gam yn ystod pob cam o'r broses cyflwyno cais, ynghyd â dyddiadau allweddol. Mae yna hefyd nifer o ganllawiau ar gael lle gall eich plentyn ddod o hyd i gymorth o ran llunio cais UCAS a datganiad personol.

 

CANLLAW I RIENI AR FFÏOEDD Y BRIFYSGOL A CHYLLID

I rieni a myfyrwyr, rydym yn gwybod y gall cost mynd i'r Brifysgol fod yn un o'r pryderon mwyaf. I’ch tywys chi drwy’r broses hon, ewch i’n tudalennau gwe am wybodaeth fanwl ynghylch y pynciau canlynol: 

LLETY'R BRIFYSGOL

Rydym yn gwybod y gall y syniad o'ch plentyn yn byw oddi cartref fod yn frawychus, ond mae gan Brifysgol Abertawe ddigon o opsiynau i wneud iddo deimlo'n gartrefol!

Gall ddod o hyd i’r llety cywir wneud gwahaniaeth go iawn o ran ymgartrefu, dyna pam mae’n bwysig eich bod chi’n ystyried y ffactorau llety pwysicaf ar gyfer eich plentyn. 

Mae Prifysgol Abertawe'n cynnig amrywiaeth o dai i fyfyrwyr ar draws pedwar lleoliad, gan gynnwys ardaloedd dynodedig megis tawel, un rhyw, di-alcohol, aeddfed a chyfrwng Cymraeg.

Mae tîm diogelwch 24 awr ar y campws yn ogystal â rhwydwaith cymorth dynodedig sy'n gallu cynnig cymorth a chyngor ar bob adeg.

Taith Rhieni i Brifysgol Abertawe

Ble i fyw ym Mhrifysgol Abertawe

ACADEMI CYFLOGADWYEDD PRIFYSGOL ABERTAWE

Mae Academi Cyflogadwyedd Prifysgol Abertawe (SEA) yn wasanaeth sydd ar gael am ddim i holl fyfyrwyr Prifysgol Abertawe yn ystod eu hastudiaethau ac ar ôl iddynt raddio.

Mae SEA yn darparu amrywiaeth eang o weithgareddau, gan gynnwys:

  • Cyfleoedd Lleoliad
  • Ffeiriau Gyrfaoedd
  • Gweithdai ysgrifennu CV
  • Parth Cyflogaeth  

Mae yna hefyd nifer o Ymgynghorwyr Gyrfaoedd sydd ar gael i ddarparu'r holl gymorth y mae ei angen arnynt.

GWASANAETHAU CYMORTH MYFYRWYR

Mae iechyd a lles ein myfyrwyr yn hollbwysig i ni a dyna pam mae Prifysgol Abertawe'n cynnig nifer o wasanaethau i gynorthwyo'ch plentyn drwy gydol ei amser yn y Brifysgol.


Mae BywydCampws yn dîm ymroddedig sy'n cynnig cymorth cyfrinachol am ddim i fyfyrwyr.
Drwy ddarparu arweiniad, cyngor a chymorth, gall y tîm helpu i gael gwared ar rwystrau i ddysgu a chynnal cymuned ddiogel ac iach ym Mhrifysgol Abertawe.

Mae'r timau arbenigol yn cynnwys:

Rhyngwladol

Grŵp o fyfyrwyr rhyngwladol yn tynnu hunlun

Yn ogystal â'r gwasanaethau hyn, mae'r Tîm Cymorth i Fyfyrwyr yno i wneud yn siŵr bod gan holl fyfyrwyr Prifysgol Abertawe gyfleoedd cyfartal. Mae'r tîm yn cynnig gwasanaethau i fyfyrwyr sy'n profi anawsterau, ynghyd â phroblemau hirdymor mwy cymhleth. Mae'r rhain yn cynnwys namau synhwyrol neu gorfforol, cyflyrau meddygol hirdymor, anawsterau dysgu penodol, cyflyrau sbectrwm awtistig a chyflyrau iechyd meddwl.

Darganfod beth mae ein myfyrwyr yn ei ddweud

Ym Mhrifysgol Abertawe, ein myfyrwyr sydd wrth wraidd yr hyn rydym yn ei wneud, rydym yn falch o'n dyfarniadau ond hyd yn oed yn fwy balch o'r hyn mae ein myfyrwyr yn ei ddweud.

Paratoi eich Plentyn ar gyfer Bywyd yn y Brifysgol

Hwn fydd y tro cyntaf y bydd nifer o'n myfyrwyr wedi byw oddi cartref ac i ffwrdd o'u teulu. Bydd dechrau yn y Brifysgol yn cyflwyno cymysgedd o emosiynau, ond mae nifer o ffyrdd y gallwch wneud y trawsnewidiad yn haws i'ch plentyn.

CWESTIYNAU CYFFREDIN