Newyddion - Arbenigwyr Eogiad yn mynnu ar reoli pysgota dal-a-rhyddhau

Mae’r gwyddonydd Carlos Garcia de Leaniz, athro bioleg ddyfrol a Chyfarwyddwr CSAR, wedi rhybuddio bod pysgota eogiaid, hyd yn oed drwy ddal a rhyddhau, yn cyfrannu at ostyngiad yn eu niferoedd.

Dywedodd y gallai wyrion ac wyresau’r genhedlaeth hon dyfu’n oedolion heb wybod yr oedd eogiaid yn wyllt ar un adeg yn hytrach na chael eu magu mewn pysgodfeydd.

Meddai, “Mae’n warthus, hollol warthus, I feddwl y gallai rhywbeth sydd wedi bod yn rhan o’n diwylliant ers 100,000 neu efallai 200,000 o flynyddoedd ddiflannu mewn ychydig o ddegawdau’n unig yn drasig. Mae’n hollol drasig.

“Rydym yn wynebu gwrthwynebiad gan lywodraethau sy’n gwrthod gweld y sefyllfa hon. Maent yn twyllo eu hunain gyda chwotâu dal pysgod o 5, 20 neu 30.

“Allwch chi ddychmygu rhaglen gadwraeth i, er enghraifft, deigrod, llewpartiaid hela neu’r rhinoseros du lle caniateir i helwyr ddal 5 neu 10 o unigolion? Neu hyd yn oed dal a rhyddhau? Sut gallwn ni ystyried cynllun lle rydym yn dal pysgod er hwyl yn unig, gan eu dychwelyd i’r afon yn y gobaith y byddant yn goroesi? Mae’n amlwg y cânt eu hanafu gan hynny.

“Mae dal a rhyddhau fel saethu rhinoseros du gyda dartiau, am ychydig o hwyl. Fyddech chi’n ei wneud?

“Y broblem yw, ni waeth y farwolaeth uniongyrchol ac uniongyrchol y gallai achosi, mae’n cuddio’r gwir broblem ac yn tynnu sylw oddi wrth y broblem sylfaenol, sef bod poblogaethau gwyllt ar eu ffordd i ddifodiant ledled y byd, yn enwedig yn y gwledydd deheuol.

“Mae’n bosib bod dal a rhyddhau yn ffordd sinigaidd o ddweud awn ni mlaen yn ôl yr arfer, gan ganiatáu pysgotwyr i barhau – caiff pysgod eu “rhyddhau”, felly gellir eu dal eto.

Am ragor o wybodaeth, ewch i: 

https://www.sundaypost.com/fp/scotlands-natural-disaster-our-grandkids-may-never-know-salmon-once-swam-in-rivers-how-will-they-ever-forgive-us/

https://www.thetimes.co.uk/edition/scotland/salmon-expert-demands-controls-on-catch-and-release-angling-5wdr5pntm

#####################################################################################################

 

Cyhoeddiad newydd - Neoffobia a dulliau ymdopi â straen mewn Tilapia

Yn gyffredinol, caiff pysgod fferm eu magu mewn dwyseddau llawer uwch na’r rhai a welir yn y gwyllt, ond mae i ba raddau y mae torfeydd yn arwain at ymddygiad annormal sy’n gallu effeithio ar les a dulliau ymdopi â straen yn destun trafodaeth/dadl?. Ystyrir bod Neoffobia (hynny yw, ofn y ‘newydd’) yn addasu mewn amgylchiadau naturiol drwy gyfyngu ar risgiau, ond mae’n bosib y caiff ei gamaddasu mewn pysgod  fferm, lle nad oes ysgyflaethwyr na bwyd newydd. Magasom dilapia’r Nîl ifanc (Oreochromis niloticus) am chwe wythnos naill ai ar ddwysedd (50 uchel-1) neu isel (14 g l-1), gan asesu lefelau tywyllu croen a llygaid (dau arwydd o straen cronig) a’u cyflwyno i wrthych newydd mewn arena profi agored, gyda gorchudd a hebddo, i asesu effeithiau dwysedd ar neoffobia a dulliau ymdopi â straen. Roedd y pysgod a fagwyd mewn dwysedd uchel yn dywyllach, â mwy o ofn y newydd, yn llai ymosodol, yn symud  llai ac yn llai tebygol o gymryd risgiau na’r rhai hynny a fagwyd mewn dwysedd isel, ac roedd yr effeithiau hyn yn gryfach pan nad oedd gorchudd ar gael. Felly, roedd y dull ymdopi adweitheddol a ddangosodd y pysgod mewn dwysedd uchel yn wahanol iawn i’r dull ymdopi rhagweithiol a ddangosodd pysgod mewn dwysedd isel. Mae ein canfyddiadau’n rhoi dealltwriaeth newydd i ni o hyblygrwydd ymddygiad pysgod ac effeithiau dwysáu dyframaeth yn achos un o bysgod mwyaf ymledol y byd ac un sydd wedi cael ei fagu hwyaf, gan amlygu’r pwysigrwydd o ystyried cyd-destun. Gall byw mewn torfeydd hefyd gael effaith gadarnhaol ar les tilapia drwy leihau ymddygiad ymosodol, ond gall hefyd achosi straen cronig i bysgod a’u gwneud yn fwy ofnus, a allai eu gwneud yn llai ymledol.

Champneys T, Castaldo G, Consuegra S, Garcia de Leaniz C. Density-dependent changes in neophobia and stress-coping styles in the world’s oldest farmed fish. R. Soc. open sci. 5: 181473. https://royalsocietypublishing.org/doi/pdf/10.1098/rsos.181473

Am ragor o wybodaeth am y prosiect SMARTAQUA cysylltiedig, gweler http://smartaqua.org.uk/

https://aquaculturemag.com/2019/01/19/stocking-density-can-impact-stress-coping-styles-in-tilapia/

 

#######################################################################################################

Cyhoeddiad newydd - Gwahanrediad genetig ieir môr

Mae'r galw am ieir môr, (Cyclopterus lumpus), wedi cynyddu'n gyflym dros y degawd diwethaf ar gyfer eu hwyau, sy'n cael eu defnyddio fel amnewidyn ar gyfer cafiâr, ond yn fwyfwy hefyd fel pysgod glanhau i reoli llau môr wrth ffermio eog. Mae'r rhywogaeth wedi'i dosbarthu Dan Beth Bygythiad gan yr IUCN ac mae pryderon cynyddol y gall gorecsbloetio stoc wyllt a thrawsleoli ieir môr a fagwyd mewn deorfeydd beryglu amrywiaeth genetig poblogaethau brodorol. Cynhaliwyd dadansoddiad cymharol o amrywiaeth genetig a ffenotypig ar draws ystod y rhywogaeth i amcangyfrif lefel y gwahanrediad genetig a ffentypig, a phatrymau penodol o lif genynnau ar raddfeydd gofodol sy'n berthnasol i reoli.

Daethom o hyd i bum grŵp genetig unigryw yng Ngorllewin yr Iwerydd (UDA a Chanada), Canol yr Iwerydd (Gwlad yr Iâ), Dwyrain yr Iwerydd (Ynysoedd Ffaröe, Iwerddon, yr Alban, Norwy a Denmarc), y Sianel (Lloegr) a'r Môr Baltig (Sweden). Gwelwyd gwahaniaethau ffenotypig sylweddol hefyd, gydag ieir môr y Baltig yn tyfu'n arafach, gan gyrraedd  cyflwr gwell a chan aeddfedu ar faint llai nag ieir môr Gogledd yr Iwerydd. Roedd amcangyfrifon effeithiol o faint poblogaethau'n gyson isel ar draws Gogledd-ddwyrain yr Iwerydd (Gwlad yr Iâ, Ynysodd Ffaröe a Norwy), sef yr ardal lle caiff y nifer fwyaf o ieir môr gwyllt ei physgota ar gyfer eu hwyau ac ar gyfer y diwydiant dyframaethu hefyd. Mae'n hastudiaeth yn awgrymu bod rhai poblogaethau ieir môr yn fach iawn a bod ganddynt amrywiaeth genetig isel, sy'n eu gwneud nhw'n arbennig o agored i orecsbloetio a mewnfynediad genetig. I'w hamddiffyn, rydym yn argymell cyfyngu ar bysgota, dod â chylch magu'r rhywogaeth gaeth i ben i leihau dibyniaeth ar stoc wyllt, cyfyngu ar drawsleoli poblogaethau sy'n wahanol yn enetig, a lleihau'r risg o ddianc o ffermydd.

Whittaker BA, Consuegra S, Garcia de Leaniz C. 2018. 2018. Genetic and phenotypic differentiation of lumpfish (Cyclopterus lumpus) across the North Atlantic: implications for conservation and aquaculture. PeerJ 6:e5974 https://doi.org/10.7717/peerj.5974

 Am ragor o wybodaeth am y prosiect SMARTAQUA cysylltiedig, gweler http://smartaqua.org.uk/

 

#####################################################################################################