Ein Cenhadaeth
Mae cydweithio â'r gymuned yn hanfodol i brosiect BioHYB Cynhyrchion Naturiol ac rydym wrthi'n ymgysylltu â grwpiau cymunedol a rhanddeiliaid.
Mae gennym berthynas hirsefydlog â'r cyhoedd a nod ein Cenhadaeth Ddinesig yw sicrhau bod ymchwil yn gwella iechyd a lles y rhanbarth yn uniongyrchol ac yn sbarduno twf economaidd.
Mae llawer o brosiectau, gan gynnwys menter BioHYB Cynhyrchion Naturiol, yn cyfrannu'n weithredol at lwyddiant Nodau Datblygu Cynaliadwy'r Cenhedloedd Unedig, gan gyfrannu at Iechyd a Lles, Ynni Fforddiadwy a Glân, Diwydiant, Arloesi a Seilwaith, Dinasoedd a Chymunedau Mwy Cynaliadwy a Newid yn yr Hinsawdd.
Allgymorth Ysgolion, Colegau a Chymunedol Mae Partneriaeth Ymestyn yn Ehangach De-orllewin Cymru yn meithrin perthynas â'n cymuned leol ymhellach. Rydym yn dod â'n hymchwil gwyddonol i'r gymuned drwy gynlluniau a digwyddiadau amrywiol, megis Gŵyl Wyddoniaeth Abertawe.