Mae Ysgol Reolaeth Prifysgol Cymru yn cyflwyno prosiect ledled Cymru i gefnogi busnesau yn ystod y broses datblygu cynnyrch. Mae rhaglen ‘Developing Innovation Performance of Firms and Supply Chain Clusters’ (DIPFSCC) yn helpu busnesau o bob maint i ddatblygu cynnyrch neu wasanaethau newydd a gall hefyd gyflwyno busnesau i gronfeydd sy’n gallu cefnogi’r broses o ddatblygu eu cynnyrch neu eu gwasanaethau newydd, gan gynnwys profi, ymchwil ddiwydiannol a masnacheiddio.
Mae’r rhaglen strwythuredig yn cyflwyno’r broses datblygu cynnyrch newydd i’r rhai sy’n cymryd rhan, gan gynnwys busnesau eraill yn eu cadwyn gyflenwi ac ar draws sectorau, ac yn datblygu’r wybodaeth am reoli arloesedd a sgiliau’r unigolion a’r busnesau dan sylw.”
Ar hyn o bryd, mae’r prosiect yn gweithio gyda busnesau megis Ffatri Injans Ford ym Mhen-y-bont ar Ogwr, Dŵr Cymru Welsh Water, Abbey Glass, Treforest Glass a The Health Dispensary.
Gary Walpole, sy’n arbenigo mewn arweinyddiaeth a datblygu rheolaeth, sy’n arwain y prosiect. Meddai Gary: “Cyflwynir y rhaglen drwy weithdai ac ymweliadau safle rheolaidd, a bydd y busnesau’n defnyddio eu sgiliau a’u gwybodaeth newydd i wneud newidiadau yn y gweithle. Er enghraifft, ym mis Mawrth, daeth cyfranogwyr o Dŵr Cymru a Ffatri Injans Ford ym Mhen-y-bont ar Ogwr i’r Brifysgol i weithio ar y cyd mewn timoedd traws-sector i ddatblygu atebion i heriau go iawn maent yn eu hwynebu yn eu gweithleoedd.”
Hefyd, gall y rhaglen gefnogi busnesau i ymgeisio am gyllid drwy eu cyflwyno i arbenigwyr arloesi Llywodraeth Cymru.
Astudiaeth Achos - Ffatri Injans Ford, Pen-y-bont ar Ogwr
Mae Ffatri Injans Ford, Pen-y-bont ar Ogwr (BEP) yn brif gynhyrchydd injans, gan gyflenwi tua 620,000 o injans yn 2017 i Ford ar gyfer cerbydau a werthwyd ledled y byd.
Yn ddiweddar, mae’r ffatri wedi gwella ei alluoedd diwydiannol 4.0 (sef y system awtomeiddio a chyfnewid data a ddefnyddir ar hyn o bryd mewn technolegau gweithgynhyrchu) drwy sefydlu labordy yn y ffatri a datblygu ei allu prototeipio cyflym.
Mae Phil Moreton yn Uwch-beiriannydd Datblygu yn BEP sy’n arwain ar nifer o gynnyrch newydd i Ford. Mynychodd y rhaglen DIPFSCC i ddatblygu ei sgiliau a’i wybodaeth am ddatblygu cynnyrch newydd ac atebion gwasanaeth a chael gwybod rhagor am yr Economi Gylchol (CE).
Meddai Phil: “Cawsom fudd mawr o’r dulliau a’r wybodaeth a ddatblygon ni drwy’r rhaglen DIPFSCC . Er enghraifft, penderfynon ni gymhwyso egwyddorion CE wrth argraffu darnau plastig yn y ffatri, gan adolygu’r plastig a ddefnyddir gan argraffwyr 3D yn ffatri Ford. Roedd ein darparwr wedi gallu newid stoc fwydo’r argraffydd o blastig newydd sbon i blastig a oedd wedi’i ailgylchu. Mae hyn wedi arwain at fuddion economaidd ac amgylcheddol, a bellach mae Ford yn arbed tua £18 fesul kilo ar gost y stoc fwydo.”
Bellach, mae Ford hefyd yn ymchwilio i sut y gall y plastig sy’n dod i’r ffatri fel pecynnu gael ei ailgylchu er mwyn ei ddefnyddio fel stoc fwydo’r argraffydd 3D ar y cyd â’i gyflenwr. Bydd y newid hwn yn galluogi Ford BEP i ‘gau’r cylch’ ac ailddefnyddio’r plastig sy’n dod i mewn i’r ffatri.
I gymhwyso egwyddorion CE a lleihau costau ymhellach, mae Phil a’i dîm bellach yn ystyried catalogeiddio’r holl ddarnau plastig a gedwir yn y ffatri er mwyn dechrau argraffu’r darnau 3D ar y safle.
Meddai Phil: “Bydd argraffu ein darnau ein hunain yn lleihau costau’n sylweddol, gan leihau amser dosbarthu a’n galluogi ni i leihau lefelau o stoc. Bydd y ffatri yn atal cannoedd o kilos o wastraff plastig rhag mynd i safleoedd tirlenwi. Bydd hefyd arbedion amgylcheddol sylweddol o ganlyniad i leihau nifer y darnau sy’n cael eu cludo i BEP o rannau eraill y byd.
“Rydym wrth ein boddau gyda’r arbedion cost a’r effaith amgylcheddol gadarnhaol yn dilyn newid i stoc fwydo plastig a ailgylchwyd. Bydd yr effaith yn y dyfodol yn enfawr, gan y byddwn yn cynyddu’n sylweddol nifer y darnau sy’n cael eu hargraffu gennym ni yn y ffatri ei hun. Rydym newydd ddechrau gweld buddion amgylcheddol ac arbedion cost o ganlyniad i’n buddsoddiad mewn dulliau diwydiannol 4.0, sy’n gyffrous iawn i ni yma yn BEP.”
Os hoffech gael gwybod mwy am sut y gall y rhaglen DIPFSCC helpu eich busnes chi, cysylltwch â'n tîm Ymgysylltu Busnes