PC Emma Warner-Brindley

PC Emma Warner-Brindley

PCSO Clive Dainton

PCSO Clive Dainton

Nod Myfyrwyr Diogel yw rhoi cyngor atal troseddau, cyngor diogelwch a chyngor cyffredinol i'r holl fyfyrwyr Prifysgol ledled De Cymru.

Mae Myfyrwyr Diogel yn brosiect cydweithredol rhwng Heddlu De Cymru a phob prifysgol yn ne Cymru (Prifysgol Caerdydd, Prifysgol Metropolitan Caerdydd, Prifysgol De Cymru (Trefforest ac Atrium), Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, Prifysgol Abertawe a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant).

Mae ein Swyddogion Cyswllt Myfyrwyr dynodedig wrth law i'ch helpu i ymgartrefu ar eich campws newydd a hefyd i roi'r wybodaeth sydd ei hangen arnoch i gadw eich hun a'ch ffrindiau yn ddiogel.

poster

Math o flacmel ar-lein yw blacmel rhywiol, neu 'sextortion'

Mae blacmel rhywiol yn digwydd pan fydd rhywun yn bygwth rhannu eich cynnwys preifat a rhywiol ar-lein oni bai eich bod yn bodloni ei ofynion. 

Gallwch gael rhagor o wybodaeth a chymorth yn revengepornhelpline.org.uk.

Peidiwch â'i gwneud hi'n hawdd i ladron

Mae beiciau yn ffordd wych o deithio o gwmpas eich dinas newydd. Ond, maen nhw hefyd yn dargedau deniadol i ladron am eu bod yn hawdd i'w dwyn a'u gwerthu.

poster
poster

Mae tai myfyrwyr yr un o brif dargedau lladron

Dylai eich tŷ fod yn lle diogel, felly gadewch i ni gadw pethau felly. Cofiwch, gallwch gofrestru eich eiddo gwerthfawr ar www.immobilise.com

Sicrhewch fod unrhyw un sy'n cymryd rhan yn gyfforddus bob amser

Trais rhywiol (rape) yw rhyw heb gydsyniad. Gwnewch yn siŵr bob amser fod yr unigolyn arall am iddo ddigwydd ac os nad yw am iddo ddigwydd, stopiwch bob tro. Dim ond os bydd yn gallu gwneud hynny y gall unigolyn roi cydsyniad. Ni all rhywun roi cydsyniad os byddent yn feddw, dan gyffur, yn cysgu neu yn anymwybodol Cofiwch, os byddwch yn newid eich meddwl ac nad ydych yn gyfforddus, gallwch a dylech bob amser ddweud na.

poster
poster

Dywedwch na bob amser

Os cewch gynnig cyffuriau neu os cewch gynnig taliad am ddosbarthu cyffuriau, dywedwch na bob tro – gallech gael eich tynnu i mewn i grŵp troseddau cyfundrefnol yn anfwriadol. Os ydych yn poeni am ddefnydd o gyffuriau/delio mewn cyffuriau, rhowch wybod amdano bob tro.

Meddyliwch cyn rhannu

Mae'r cyfryngau cymdeithasol bellach yn rhan enfawr o fywydau'r rhan fwyaf o bobl ac mae'n ffordd wych o gysylltu â phobl eraill, ond cofiwch nad yw pawb rydych yn cwrdd â nhw ar-lein yn ddilys a bod eich ymddygiad yn weladwy i bawb. Meddyliwch am yr hyn rydych yn ei rannu a phwy all ei weld – os na fyddech yn gyfforddus i ddieithryn ei weld, peidiwch â'i rannu.

poster