Fy enw i yw Geraint Jones ac mae wedi bod yn amser hir ers i mi astudio yn Abertawe. Gwnes i raddio mewn Cyfrifiadureg ym 1986, a bod yn fanwl gywir. Doeddwn i ddim yn rhedwr bryd hynny. A dweud y gwir, roedd pethau mwy diddorol i'w gwneud a fyddwn i ddim wedi bod yn heini o gwbl heb y gwaith corfforol a wnes i ar y fferm ar ôl cyrraedd gartref.
Aeth blynyddoedd heibio, wrth i mi weithio, magu teulu, teithio'n helaeth at ddibenion personol a phroffesiynol, hyfforddi timau pêl-droed iau a chyfrannu at y gymuned, ac yn ôl pob golwg doedd dim amser gen i byth. Dechreuais i gerdded yn fwy a phum mlynedd yn ôl cwblheais i lwybr Clawdd Offa mewn deg niwrnod. Roedd yn llafurus ar adegau, ond roeddwn i wrth fy modd! Rwy'n gweithio fy ffordd ar hyd arfordir Cymru i gwblhau'r cylch ac wrth i'm ffitrwydd wella, dan anogaeth fy ffrindiau, dechreuais i redeg. Doeddwn i ddim yn gallu gwneud llawer mwy na milltir neu ddwy i ddechrau, ond ces i gymhelliant drwy ymuno â grŵp o gydweithwyr a fyddai'n rhedeg yn ystod amser cinio, a bu cynnydd o ran y milltiroedd a'r ffitrwydd.
Yn ddiau, byddai hynny wedi parhau heblaw am ddyfodiad Covid. Dioddefodd fy lles meddyliol innau yn yr un modd â llawer o bobl a chyda'r cyfyngiadau (honedig) ar yr amser roedden ni'n cael gwneud ymarfer corff, penderfynais i fod rhedeg yn fwy buddiol na phethau eraill. Wrth i'n rhyddid ddychwelyd, byddwn i'n codi'n fore i redeg pan oedd y ffyrdd a'r llwybrau'n wag. Ochr yn ochr â llawer o gerdded, roeddwn i bellach yn fwy heini nag yr oeddwn i wedi bod erioed. Rwyf wedi teithio'n helaeth ledled y byd ar gyfer gwaith ac at ddibenion personol, ond does dim lle tebyg i Gymru ar gyfer rhedeg. Pan na fydd hi’n bwrw glaw neu’n wyntog (yn amlach na'r disgwyl), mae bron yn berffaith.
Fi yw Pennaeth TGCh yn Adra (Tai) Cyfyngedig, cymdeithas dai yng ngogledd Cymru. Os oes angen i mi feddwl yn glir neu os oes rhywbeth yn fy mhoeni i, rwy'n troi at yr esgidiau rhedeg. Bron bob amser mae'r heriau'n diflannu. Mae llyfrau rheoli'n annog ffitrwydd corfforol yn fwyfwy i gefnogi lles meddyliol a pherfformiad yn y gwaith. Galla i gadarnhau ei fod yn gweithio ac annog pawb i roi cynnig arno, gam wrth gam.
Mae fy mab Huw yn ei flwyddyn olaf yn astudio Cymraeg ym Mhrifysgol Abertawe ac yn ystod fy ymweliadau diweddar niferus rwyf wedi cwympo mewn cariad ag Abertawe eto. Pa le gwell i redeg fy hanner marathon cyntaf! Mae Huw wedi cofrestru hefyd a bydd yn siŵr o orfod aros amdana i am amser hir wrth y llinell derfyn. Mae hynny'n rhagdybio y bydd y ddau ohonon ni'n llwyddo – mae Huw wedi cracio ei ffêr wrth chwarae pêl-droed ac mae croth fy nghoes yn aflonyddu arna i, gan fy atal rhag ymarfer. Fydda i ddim yn gosod yr amser roeddwn i'n gobeithio amdano o bosib ac efallai y bydda i'n cerdded am ran o'r cwrs, ond rwy'n benderfynol.
Rydw i wedi astudio'r we am gyngor a des i i'r casgliad bod deiet da yn hanfodol; bod yfed digon o hylifau (a llai o alcohol) yn amlwg; bod cynhesu ac ymestyn y cyhyrau'n orfodol; a bod esgidiau rhedeg da yn rheidrwydd. Felly, gan feddu ar benderfyniad, cynllun hyfforddi a therfyn amser, bant â mi i Abertawe! Efallai ei bod hi wedi cymryd peth amser, ond rydw i bellach yn cydsynio ag ymadrodd fy athro addysg gorfforol yn yr ysgol bod corff iach yn arwain at feddwl iach. Gwell hwyr na hwyrach, ac i unrhyw un sy'n ystyried dechrau rhedeg, fyddwch chi ddim yn difaru.